Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mai 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mai 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Mai, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Datblygiadau gofal plant newydd yn dwyn ffrwyth

Childcare

Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu newyddion am bedwar datblygiad gofal plant cyffrous sy'n dod i'r amlwg ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r mentrau hyn wedi’u cynllunio i hybu cymorth ar gyfer darparu Dechrau’n Deg, y Cynnig Gofal Plant, Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd â Chymorth, gan hefyd greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer opsiynau gofal plant i'r rhai sy’n talu ffioedd.

  • Yn gyntaf, mae'r Twyn, sef cyfleuster gofal plant dwy ystafell â digonedd o le, yn datblygu gerllaw'r ysgol, gan gynnig cysylltiadau uniongyrchol ag uned feithrin yr ysgol. Bydd yr ehangiad hwn yn cynyddu capasiti yn ogystal â darparu lle pwrpasol ar gyfer Clwb Ar Ôl Ysgol a Chlwb Gwyliau presennol y Twyn.
  • Yn Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin, mae ystafell gofal plant newydd yn cael ei hintegreiddio i safle’r ysgol, gan gyflwyno llwybrau newydd ar gyfer gweithgareddau cylch chwarae a gofal plant cofleidiol i gyd-fynd â’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.
  • Yn yr un modd, mae Ysgol Ifor Bach yn croesawu ystafell gofal plant newydd, gan ddod yn gartref newydd i'r Cylch Meithrin presennol. Yn ogystal, mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer datblygu Clwb Carco newydd i weithredu o'r ddarpariaeth hon.
  • Mewn partneriaeth â Llyfrgell Pengam, mae Pengam yn cael ei drawsnewid gyda llyfrgell wedi'i hadnewyddu a lle gofal plant newydd sbon. Bydd y lle hwn yn gartref i Gylch Meithrin i ddechrau, gan esblygu i fod yn Feithrinfa Ddydd Cyfrwng Cymraeg i gynorthwyo plant o’u genedigaeth ymlaen.

Wrth i bob datblygiad fynd rhagddo ar ei gyflymder ei hun, rydyn ni'n rhagweld y bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd tymor yr haf, yn barod i groesawu plant o fis Medi ymlaen. Mae ein tîm Gofal Plant ymroddedig wrthi'n hyrwyddo'r cynlluniau hyn ac yn ceisio Datganiadau o Ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant i helpu i ddod â'r gweledigaethau hyn yn fyw.

Nod y mentrau hyn yw lleddfu’r straen ar alw am leoedd gofal plant gan ddarparu lleoedd newydd bywiog i blant ffynnu a mwynhau eu blynyddoedd cynnar.


Adnoddau Dysgu yn yr Awyr Agored

Outdoor learning

Eisiau gwella eich dealltwriaeth o ddysgu yn yr awyr agored? Dyma rai adnoddau i gynorthwyo cyflwyno dysgu awyr agored i'ch lleoliad.

A wnaethoch chi gymryd rhan yn Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored 22-28 Ebrill? Os felly, anfonwch luniau atom ni ynghyd ag amlinelliad byr o'r hyn a wnaethoch chi er mwyn i ni eu rhannu yn ein bwletin ym mis Mehefin. E-bostiwch hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk.  


I bob un o Ddarparwyr Cynnig Gofal Plant Cymru

CoFW

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o ddarparwyr gofal plant a gwaith chwarae. Rydym am ddeall mwy am y costau sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes gofal plant, a sut rydych yn cynhyrchu incwm.

Rydym am gael gwell dealltwriaeth o hyn er mwyn llywio ein penderfyniadau polisi, gan gynnwys ynghylch y cyfraddau yr ydym yn eu talu am raglenni a ariennir a mathau eraill o gymorth yr ydym yn eu cynnig i ddarparwyr.

Mae'r holiadur yn cynnwys cwestiynau am eich costau (yr arian rydych chi'n ei wario ar bethau fel staff, rhent, biliau ac ati), eich incwm (gan gynnwys ffioedd ac incwm o raglenni a ariennir fel Cynnig Gofal Plant Cymru) a faint o oriau o ofal rydych chi'n eu darparu. Byddwn hefyd yn gofyn am y cyflogau cyfartalog a delir i wahanol fathau o staff yn eich gwasanaeth. Gallai fod o gymorth cael y dogfennau perthnasol wrth law, er enghraifft, eich cyfrifon blynyddol diweddaraf neu gyfriflen banc.

Byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth a roddwch inni ochr yn ochr â gwybodaeth berthnasol arall, fel mesurau chwyddiant prisiau yn economi'r Deyrnas Unedig a gwybodaeth am gyflogau staff, gan gynnwys yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n cael barn darparwyr am y pwnc hwn. Ac mae'r arolwg yn gyfle ichi roi gwybod inni am yr heriau ariannol yr ydych chi’n eu hwynebu. Mae hefyd yn gyfle ichi lywio ein penderfyniadau yn y dyfodol am gyfraddau a mathau eraill o gymorth.

Mae’r arolwg ar gael drwy: https://www.smartsurvey.co.uk/s/OHYSWQ/


Siarad gyda fi - Pecyn cymorth i ymarferwyr

Talk with me

Nodyn i’ch atgoffa o wefan Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru. Bob mis rydyn ni'n eich cyfeirio chi at ddolen ar y wefan – ond mae croeso i chi archwilio'r wefan hon pryd bynnag y bydd angen awgrymiadau a chyngor ar leferydd, iaith a chyfathrebu.

Cafodd y wefan ei dylunio gan Therapyddion Lleferydd ac Iaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae ganddi lawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer ymarferwyr a rhieni/gofalwyr.

Nod y cynllun hwn yw dod o hyd i'r ffyrdd gorau o helpu pob plentyn a theulu. Y gobaith yw cynorthwyo pawb i ddeall pwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant rhwng 0 a 4 oed 11 mis. Rydyn ni am i rieni a gofalwyr ddeall pa mor bwysig yw hi i siarad â’u plant a chwarae gyda nhw.

Rydyn ni'n annog pawb i dreulio amser yn archwilio'r wefan a defnyddio'r holl adnoddau defnyddiol.

Dyma'r ddolen i'r wefan: https://www.llyw.cymru/siarad-gyda-fi

Mae pecyn cymorth ymarferwyr ‘Siarad gyda fi’ wedi’i ddiweddaru i gynnwys adnoddau newydd. Mae'r pecyn cymorth ar gael yma.



Sicrhewch nad yw teuluoedd yn colli allan ar hanfodion ysgol

School grant

Gall plant (Derbyn i Flwyddyn 11) o deuluoedd ar incwm isel sy'n derbyn budd-daliadau penodol, rhai sy'n ceisio lloches a phlant mewn gofal hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.

Nid yw'n rhy hwyr i wirio cymhwystra a gwneud cais am gyllid ar gyfer eleni cyn i'r cyfnod ymgeisio ddod i ben ar 31 Mai.

Am fwy o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgolion ac i wirio os ydych yn gymwys, ewch I  Hawliwch help gyda chostau ysgol.

Helpwch i rannu hyn gyda theuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw a gyda'ch rhwydweithiau ehangach.


Teulu Cymru - Gofal plant a chymorth i’r teulu

Teulu Cymru

Mae Teulu Cymru yma ar gyfer rhieni a theuluoedd plant 0-18 oed, gan eu cyfeirio at lawer o wahanol ffynonellau cymorth ymarferol ac ariannol Llywodraeth Cymru.

O awgrymiadau magu plant a chyngor datblygu arbenigol i helpu gyda chostau gofal plant. Mae Teulu Cymru yn ei gwneud hi ychydig yn haws i rieni ddod o hyd i’r cymorth hwn mewn un lle.

Teulu Cymru | LLYW.CYMRU


Paratoi ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Plant – Mai 12fed a Mis Cenedlaethol Gwenu rhwng 13eg o Fai a 13eg o Fehefin

Mr Hapus Ydw i

Awgrymiadau am weithgareddau:

Gwnewch eich blât yn wyneb hapus – trefnwch eich snac i mewn i blât hapus a peidiwch ag anghofio labeli rhannau’r corff.

Gallwch ganu Mr Hapus unwaith mae eich platiau wedi eu cwblhau er mwyn dathlu.

Trafodwch bethau sydd yn gwneud i’r plant deimlo’n hapus a phethau sydd yn eu gwneud nhw’n drist.

  • hapus – happy
  • Trist - sad
  • Gwennu – smiling
  • Trwyn – nose
  • Llygaid – eyes
  • Clustiau – ears
  • Ceg – mouth
  • Teimladau – feelings

Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr