Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ebrill 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ebrill 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Ebrill, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Estyn yn cyhoeddi Adroddiad Sector Blynyddol

Mini Miners Club

Mae Estyn wedi cyhoeddi ei adroddiad sector sy’n rhoi trosolwg o gyflwr lleoliadau meithrin nas cynhelir yng Nghymru yn ystod 2022-2023, gan ganolbwyntio ar agweddau fel addysgu a dysgu, gofal, cymorth, llesiant, ac arweinyddiaeth. 

Mae sylw nodedig yn cael ei roi i'r Mini Miners Club yn Ystrad Mynach, Caerffili, a gafodd ganmoliaeth am ddarparu amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol. Cafodd y rhai sy'n arwain y clwb ganmoliaeth am greu mannau croesawgar a oedd yn tanio chwilfrydedd y plant, gan gynnwys cydbwysedd o ran adnoddau naturiol ac adnoddau artiffisial. Yn ogystal, mae'r erthygl yn tynnu sylw at gysylltiadau cryf y clwb â rhieni a gofalwyr, yn ogystal â'i ddefnydd effeithlon o gyllid i wella dysgu a datblygiad plant.

Gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn isod, gan gynnwys trosolwg o argymhellion arolygu, ac enghreifftiau o arferion da yn y sector.

Read the article here: 


Mannau awyr agored yn trawsnewid addysg plant y Blynyddoedd Cynnar!

Coed Duon

Rydyn ni wrth ein bodd o rannu erthygl wych gan Estyn, sy'n tynnu sylw at arfer rhagorol mewn addysg plant y blynyddoedd cynnar. Mae'r erthygl yn arddangos grym mannau awyr agored wrth greu amgylchedd dysgu o ansawdd. Llongyfarchiadau i staff Cylch Meithrin Coed Duon am eu gwaith rhagorol.

Darllenwch yr erthygl yma: Ardal awyr agored symbylol a chyfoethog sy’n ysgogi chwilfrydedd plant.


Dathlu Llwyddiant: Clare Wilkinson o 'Bobl Bach Clare' yn fuddugol yng Ngwobrau Busnes Gorau Cymru 2024

Mini Miners

Rwy’n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â ni i estyn llongyfarchiadau mawr i Clare Wilkinson, perchennog ‘Bobl Bach Clare’, ar ei buddugoliaeth ddwbl ryfeddol yng Ngwobrau Busnes Gorau Cymru 2024. Enillodd Clare y teitlau ‘Gofal Plant ac Adloniant Gorau 2024' a 'Gwraig Fusnes Gymreig y Flwyddyn'.

Clare, mae eich cyflawniadau chi'n wirioneddol ysbrydoledig. Llongyfarchiadau mawr. 

Gallwch chi ddarllen y stori lawn yma


Animeiddiad Hwb y Blynyddoedd Cynnar

Hub

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili wedi bod yn gweithio ar gyfres o animeiddiadau byr i dynnu sylw teuluoedd at y gwasanaethau a’r cymorth amrywiol rydyn ni'n eu darparu.

Mae’r animeiddiad diweddaraf hwn yn arddangos Hwb y Blynyddoedd Cynnar a’r rôl ganolog mae’n ei chwarae ar draws ein Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant cyfan.  

Gallwch chi wylio'r animeiddiad yma


Diweddariadau i Gynnig Gofal Plant Cymru

Childcare Offer

Trefniadau Talu dros Wyliau Banc y Pasg

Gyda Gwyliau Banc y Pasg yn agosáu, roedden ni am roi gwybod i chi pryd y bydd taliadau’n cael eu gwneud yn ystod yr wythnos yn cychwyn 1 Ebrill. Nodwch y canlynol:

  • Bydd amserlenni sydd wedi'u cyflwyno ddydd Mercher 27 Mawrth yn cyrraedd cyfrifon banc darparwyr erbyn dydd Mercher 3 Ebrill.
  • Bydd amserlenni sydd wedi'u cyflwyno rhwng dydd Iau 28 Mawrth a dydd Mawrth 2 Ebrill yn cyrraedd cyfrifon banc darparwyr erbyn dydd Iau 4 Ebrill.

Diolch, Tîm y Cynnig Gofal Plant

Newidiadau i'r Cyfnod Ymgeisio

Yn ddiweddar, mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i safoni nifer y diwrnodau y bydd ceisiadau’r Cynnig Gofal Plant ar agor cyn dechrau’r tymor. Canlyniad y trafodaethau oedd cytundeb y dylai ceisiadau'r Cynnig Gofal Plant agor 75 diwrnod cyn dechrau pob tymor.  

Bydd y platfform digidol yn cael ei ddiweddaru i alluogi'r newid hwn o'r cyfnod derbyn yn nhymor yr hydref 2024. Mae tymor yr hydref ledled Cymru yn dechrau ar 2 Medi, sy’n golygu mai’r dyddiad agor ar gyfer ceisiadau ledled Cymru am y tymor hwnnw fydd 19 Mehefin


Ceisiadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

Flying Start

Sylwch y bydd y broses ymgeisio am ofal plant Dechrau'n Deg yn agor ar 22 Ebrill 2024 ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng 01/04/2022 a 31/08/2022.

Y cyfnod gorau i wneud cais yw rhwng 22 Ebrill a 10 Mai, ond bydd modd gwneud cais ar ôl y cyfnod hwn.

Anogwch unrhyw rieni cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais.


Rhaglen Hyfforddiant yr Haf

play

Mae amserlen hyfforddiant yr haf Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili nawr ar gael ar ein gwefan. Am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen cais am hyfforddiant, cliciwch ar y ddolen isod. 

Cadwch le nawr


Lleoedd Cyfyngedig: Hyfforddiant Diogelu Uwch a Chymorth Cyntaf Pediatrig!

Safeguarding

Fel erioed, mae galw mawr iawn am leoedd ar ein Hyfforddiant Diogelu Uwch a Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig.

Os na fyddwch chi'n gallu sicrhau lle ar un o'n cyrsiau rhestredig, rydyn ni'n argymell archwilio darparwyr hyfforddiant neu sefydliadau eraill.

I gael arweiniad ar ofynion hyfforddi gorfodol, cyfeiriwch at yr adnoddau canlynol:

  • Hyfforddiant Diogelu Uwch: Atodiad C y 'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed'. Gallwch chi weld manylion y meini prawf hyfforddi hanfodol yma: Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (llyw.cymru)
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig: Cyfeiriwch at Atodiad B y Safonau Gofynnol Cenedlaethol am fewnwelediad manwl i'r meini prawf hyfforddi angenrheidiol. Rhagor o wybodaeth yma: Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (llyw.cymru)

Llwyddiant digwyddiad y Blynyddoedd Cynnar Iachg

HEY event

Ddydd Sadwrn 3 Chwefror, cynhaliodd Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ddigwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach gyda'r nod o sefydlu staff sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Roedd y diwrnod yn cynnwys prif araith gan Mind, yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, ac yna sesiynau hyfforddi gan Blynyddoedd Cynnar Cymru ar lythrennedd corfforol, Groundworks ar weithgareddau awyr agored, a Gaia Yoga ar arferion lles. Cafodd y mynychwyr gyfle i rwydweithio a mynychu gweithdai amrywiol sy’n berthnasol i’r cynllun. Cafodd gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar, fel defnyddio olewau naws a bagiau lafant, eu hymgorffori trwy gydol y dydd.

Cafodd y digwyddiad adborth cadarnhaol, gan roi syniadau ymarferol i leoliadau. Diolch i bawb a fynychodd am ei wneud yn ddiwrnod ysbrydoledig ac addysgiadol.


Paratoi ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Haul 6ed-12fed o Fai 2023!

sun safety

Geirfa a ymadroddion Cymraeg y mis:

  • Eli haul – Sun cream
  • Sbectol haul – Sunglasses
  • Het haul – Sunhat
  • Heulog – Sunny
  • Sut mae’r tywydd heddiw? How is the weather today?

Awgrymiadau am weithgareddau: Dewch i fod yn dditectif haul a cysgod!  Chwiliwch am y llefydd gyda mwyaf o gysgod yn y lleoliad a gadewch i ni drafod diogelwch haul.


Neges y mis – Siarad gyda Fi

Let's Talk

Nodyn i'ch atgoffa o wefan Siarad gyda Fi Llywodraeth Cymru. Bob mis, rydyn ni'n eich cyfeirio chi at ddolen ar y wefan - ond mae croeso i chi archwilio'r wefan hon pryd bynnag y byddwch chi angen awgrymiadau a chyngor ar leferydd, iaith a chyfathrebu.

Cafodd y wefan ei chynllunio gan Therapyddion Iaith a Lleferydd ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae ganddo lawer o adnoddau defnyddiol ar gyfer ymarferwyr a rhieni/gofalwyr.

Nod y cynllun hwn yw dod o hyd i'r ffyrdd gorau o helpu pob plentyn a phob teulu. Y gobaith yw cynorthwyo pawb i ddeall pwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant 0 i 4 oed ac 11 mis. Rydyn ni am i rieni a gofalwyr ddeall pa mor bwysig yw hi i siarad â’u plant a chwarae gyda nhw.

Rydyn ni'n annog pawb i dreulio peth amser yn archwilio'r wefan a defnyddio'r holl adnoddau defnyddiol.

Dyma’r ddolen i’r wefan: https://www.llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun plentyndod cynnar cynhwysfawr

Stammering

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, sydd wedi'i lunio i feithrin datblygiad cyfannol plant 0-5 oed.

Nod y cynllun, sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth o safon, mynediad, a chymorth i’r gweithlu, yw sicrhau gofal plant cynhwysol a chyfleoedd addysg o ansawdd uchel i holl blant Cymru.

Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar | LLYW.CYMRU


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr