Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Digwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Digwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach

Digwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach - Ysblander y Gwanwyn

Apple

Ymunwch â ni ar gyfer Ysblander y Gwanwyn ddydd Sadwrn 3 Chwefror, 9am-3.30pm yn Ysgol Gynradd St Iago, lle byddwn ni’n cynnal Digwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach y gwanwyn.

Yn ystod y dydd, bydd cyfleoedd i rwydweithio gyda chydweithwyr o leoliadau eraill a mynychu amrywiaeth o weithdai sy’n berthnasol i’r Cynllun HEY. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ddiwrnod ymlaciol ac ysbrydoledig lle byddwch chi’n casglu llawer o syniadau i’w rhoi ar waith yn eich lleoliadau.

Mae agenda’r dydd fel a ganlyn:

09:30 – 09:40 Cofrestru a Lluniaeth

09:40 – 09:45 Araith Ragarweiniol

09:45 – 10:30 Prif siaradwr

10:30 – 11:30 Gweithdy 1

11:35 – 12:35 Gweithdy 2

12:40 – 13:15 Cinio a gweithgareddau lles

13:15 – 14:15 Gweithdy 3

14:20 – 15:20 Gweithdy 4

15:25 – Gwerthusiadau

Bydd te, coffi a lluniaeth ysgafn ar gael ond bydd angen i chi ddarparu eich pecyn cinio eich hun.

Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 2 aelod o staff ym mhob lleoliad ac i uchafswm o 75 o gyfranogwyr. Byddwn ni’n cynnig Lwfans Mynychu i bob aelod o staff i fynychu’r digwyddiad. Mae’r lwfans hwn i gynorthwyo lleoliadau cofrestredig AGC ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel trwy uwchsgilio’r gweithlu.

Swm y Lwfans Mynychu ar gyfer y digwyddiad yw £72 a bydd disgwyl i gyfranogwyr arwyddo i mewn ac allan er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliad.

Rydyn ni’n gobeithio y gallwch chi ymuno â ni i ddathlu llwyddiant cynllun y Blynyddoedd Cynnar Iach a’ch holl lwyddiannau dros y blynyddoedd diwethaf.

I gadw lle, cliciwch yma


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr