Rydyn ni’n gallu cael cyllid drwy Grant Gwyliau Gwaith Chwarae Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2023-2024) ar gyfer rhaglenni sy’n cefnogi newyn gwyliau. Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni’n treialu cynllun newydd i roi mynediad i gyfleoedd chwarae yn ystod y gwyliau i blant o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn gynllun peilot ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn gyda'r potensial i redeg drwodd i'r cyfnodau gwyliau dilynol, os oes cyllid ar gael.
Mae’r prosiect Chwarae Cynhwysol wedi'i dargedu at blant oed Ysgol Gynradd (derbyn i flwyddyn 6). Rhaid i leoliadau gofal plant fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gyda darpariaeth yn ystod oriau gwyliau ysgol i wneud cais i fod yn rhan o’r prosiect. Nod y prosiect yw cynnig cyfleoedd i blant penodol gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden.
Mae gan Chwarae Cynhwysol ddwy gangen: un i gefnogi plant oedran ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r llall i gefnogi plant oedran ysgol o deuluoedd sy’n agored i niwed.
Datganiad o Ddiddordeb
Mae gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac sy’n darparu gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r cynllun hwn, llenwch y ffurflen isod a'i hanfon drwy e-bost at hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk erbyn 10 Ionawr 2024.
Dylai'r cais gyrraedd erbyn 3pm dydd Mercher 10 Ionawr 2024 fan bellaf
|