Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn cynnig cyllid ar gyfer Lwfans Mynychu Hyfforddiant a chwblhau’r Cymhwyster Cynorthwyydd Gwarchod Plant.
Mae pob darparwr gofal plant nas cynhelir sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr yn y sectorau preifat a gwirfoddol sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol ac ati.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i cyllidyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk lle byddan nhw'n cael eu hystyried yn llawn i sicrhau eu bod nhw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Os bydd yn llwyddiannus, bydd pob taliad yn cael ei brosesu o fewn 10 diwrnod gwaith.
Bydd rhaid i chi hawlio'r cyllid rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Mawrth 2024. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mawrth 2024. Nid oes modd ystyried ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad hwn.
Am unrhyw ymholiadau neu gymorth, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant.
Yn unol â'r newidiadau diweddaraf i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio ar gyfer plant hyd at 12 oed (wedi'i diweddaru mis Tachwedd 2023), mae'n ofynnol i bob Cynorthwyydd Gofal Plant gwblhau’r cymhwyster Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar UNED 326: Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref erbyn diwedd mis Tachwedd 2024.
Bydd y grant hwn yn ad-dalu cost lawn y cwrs i unigolion, hyd at uchafswm o £192, os caiff ei brynu rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Mawrth 2024. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r taliad gyda'ch cais.
Ffurflen gais ar gyfer Grant Cymhwyster Cynorthwyydd Gwarchod Plant 2023-2024
Mae’r Lwfans Mynychu Hyfforddiant ar gael i gynorthwyo darparwyr gofal plant nas cynhelir wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel, sy'n gallu cael ei gyflawni drwy uwchsgilio’r gweithlu.
Mae'r cyllid ar gael i staff fynychu hyfforddiant mewn cyrsiau gorfodol a chyrsiau arferion gorau penodol fel sydd wedi'i amlinellu yn y ffurflen gais.
Ffurflen gais ar gyfer Lwfans Mynychu Hyfforddiant 2023-2024
|