Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Rhagfyr 2023

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2023

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Rhagfyr, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Thank you

Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol i bawb, wrth reoli cymhlethdodau cynyddol ein plant a'n teuluoedd, sy’n achosi pwysau cynyddol ar ein hamser yn ogystal â rheoli absenoldebau a swyddi gwag yn y timau. Fodd bynnag, rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r cyfleoedd yn y gweithlu gofal plant ac yn edrych ymlaen at ehangu ymhellach yn y dyfodol.

Diolch i bawb sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant ledled y Fwrdeistref Sirol eleni am eich ymrwymiad i wneud ein gorau glas i'n holl deuluoedd a chynorthwyo ein gilydd yn ystod yr eiliadau heriol hynny. Gadewch i ni fwynhau cyfnod o seibiant haeddiannol dros y gwyliau ac edrych ymlaen at 2024 hyd yn oed yn fwy llwyddiannus. 

Sarah Mutch
Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Phartneriaethau


Newidiadau staff

Staff changes

Ar ôl 10 mlynedd o weithio yn Nhîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, bydd ein ffrind a chydweithiwr Denise Kier yn ein gadael ni i fwynhau pennod nesaf ei bywyd. Nid yn unig y mae hi’n gadael ein tîm, ond mae hi hefyd yn gadael Cymru ac yn sefydlu ei bywyd newydd yn Norfolk.

Mae Denise wedi anfon y neges hon: "Er fy mod i'n llawn cyffro am fy nhaith sydd o'm blaen, roeddwn i eisiau diolch i bawb rydw i wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd a bydda i'n gweld eisiau fy nhîm yn fawr iawn. Rydw i wedi mwynhau fy amser yn y Blynyddoedd Cynnar a bydda i'n gweld eisiau'r holl dynnu coes gyda fy nghydweithwyr. Rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau ac wedi ennill llawer o wybodaeth a phrofiad, mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o dîm hyfryd. Diolch o galon i'r tîm Gofal Plant a'r Swyddogion sydd wedi gwneud fy swydd yn bleser. Pob dymuniad da i chi a chymerwch ofal. Denise xx".


Materion Presenoldeb!

General

The Caerphilly Early Years and Childcare service, alongside our colleagues in the schools service are launching a borough wide campaign to improve attendance both in schools and in funded childcare placements.

As an integral part of this campaign we have reviewed our Admissions, Attendance and Transition policies and brought them together to create one over arching policy. All contracted childcare settings who deliver funded childcare places, including Flying Start, Early Years Education and Assisted/Supported Places will be expected to adopt the policy and the principles within it.

We will be hosting a Teams meeting on 16 January 2024 at 6 pm for one hour to introduce the new policy and what it means for you. Please keep your eyes open for a Teams invite which will be circulated later this week.


Flying Start Contracted Settings Operational Term Dates: Jan 24 – Easter 24

Term dates

For contracted Flying Start Settings, the term dates for January 2024 to Easter 2024 are as follows:

  • Term starts: Monday 8 January 2024
  • Half term holiday starts: Monday 12 February 2024
  • Half term holiday ends: Friday 16 February 2024
  • Term ends: Friday 22 March 2024

If you have any planned closure days where you are not operational (this includes school inset days if you are a setting based on a school site) or cannot offer children their full Flying Start entitlement on any day during the term, it is essential that you discuss the closure dates with your Childcare Officer and update the Early Years Hub team on 01443 863232 or email earlyyearshub@caerphilly.gov.uk


Cofrestru'n broffesiynol y gweithlu Gofal Plant a Gwaith Chwarae

news

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn a ddylai'r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr o'r gweithlu ac os felly, pwy ddylai gael ei gynnwys yn y gofrestr honno. 

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 30 Tachwedd i 7 Mawrth 2024.  Rydym yn eich annog i ymateb.

dweud eich dweud

Date for Your Diary - Healthy Early Years Network Event

Daffodil

Please Join us for The Splendour of Spring Saturday 3 February, 9am - 3.30pm at St James Primary School where we we will be hosting a spring Healthy Early Years Network Event.

Please keep an eye out for our special bulletin, which will provide you with further details on how you book your place.


Neges Cymraeg y mis: Dewch i ddathlu Diwrnod Siwmper Nadolig 8fed o Rhagfyr ar Nadolig 25ain o Rhagfyr 2023!

Welsh

Dewch i ddathlu Diwrnod Siwmper Nadolig 8fed o Rhagfyr ar Nadolig 25ain o Rhagfyr 2023! 

Beth am creu siwmper Nadolig ar gyfer Tedi? Cyfle I dorri allan, I ludo, I liwio ac I fod yn hollol greadigol! 

Gludo – Gluing 

Torri – Cutting 

Siswrn – Scissors 

Lliwio – Colouring 

Fe allwch chi rhannu’r stori Nadolig gyda’r plant yn y Gymraeg trwy: Stori’r Nadolig |Adnoddau Gwych Hanfodol i Athrawon a Phlant (twinkl.co.uk) 

Gadewch i'r plant cael ‘bwgi’ i'r caneun Cymraeg canlynol yn ystod ei parti Nadolig? 

Bŵgi Bethlehem - YouTube 


Siarad gyda fi – Beth am droi amser sgrin yn amser ti a fi

Lets talk

Oeddech chi'n gwybod bod plant yn ei chael hi'n anodd iawn gwrando ar 2 beth ar yr un pryd?

Maen nhw'n gallu gwrando arnoch chi'n siarad gymaint yn haws os nad oes unrhyw wrthdyniadau, felly gall fod o gymorth mawr i ddiffodd y teledu a chael amser chwarae tawel gyda'ch gilydd, gyda llawer o sgwrsio i gymryd rhan ynddo! Os ydych chi'n gwylio sgrin gyda'ch gilydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei mwynhau gyda'ch gilydd trwy:

  • Sôn am yr hyn mae'r cymeriadau'n ei wneud.
  • Defnyddio teganau go iawn i ymuno yn yr hyn sy'n digwydd ar y sgrin. Paru eitemau ar y sgrin â'ch teganau chi os gallwch chi, ‘Edrychwch – mochyn yw hwn, mochyn yw hwn hefyd’.
  • Stopiwch a meddwl beth allai ddigwydd nesaf ‘Rydw i'n meddwl efallai byddan nhw'n mynd yn fwdlyd ar eu taith gerdded!’.
  • Eisteddwch mewn man lle gallwch chi weld wynebau eich gilydd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys amser chwarae heb sgrin cyn ac ar ôl amser sgrin.

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Dywedwch wrth bawb am frechiadau rhag y ffliw

Flu

Mae pob plentyn 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2023) yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol LAIV. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn neu ddim yn manteisio ar y cynnig.

Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant. Helpwch godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechu rhag y ffliw drwy siarad â'r rhieni rydych chi'n gweithio gyda nhw. Gall rhieni siarad â'u hymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch chi argraffu ein poster i'w arddangos yn eich lleoliad neu ei roi i rieni.

Rhagor o wybodaeth: https://icc.gig.cymru/brechlynffliw


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr