Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2023

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2023

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Medi, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.


Syniadau Iach ar gyfer y Nadolig

Bwyta Nadolig

Mae'r Nadolig yn amser arbennig o'r flwyddyn, yn enwedig ar gyfer y plant, a gyda'r holl weithgareddau sy'n digwydd, mae'n bwysig parhau i hyrwyddo negeseuon iach yn ystod y gwyliau.

Mae creu golygfeydd, siapiau a wynebau nadoligaidd yn ffordd wych o annog plant i fwyta ffrwythau a llysiau a gall fod yn ffordd wych i blant roi cynnig ar fwyd newydd. 

  • Bagel, caws meddal a phupur.

  • Pizza cartref, sbigoglys, pupur a chaws.

  • Torri ffrwythau yn goed neu siapiau nadoligaidd eraill.

  • Addurno ffrwyth.


Newidiadau staff

Croeso mawr i Ruth Corney sy'n ymuno â Gwasanaeth Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar Caerffili fel Swyddog Datblygu Gofal Plant! Mae Ruth yn rhugl yn y Gymraeg ac yn dod ag amrywiaeth o sgiliau i'r tîm ar ôl gweithio fel arweinydd mewn Cylch Meithrin o'r blaen. Bydd Ruth yn gweithio ochr yn ochr â'n swyddogion Datblygu Gofal Plant presennol, gan ddatblygu gofal plant newydd a chynorthwyo cynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal plant bresennol ledled y Fwrdeistref Sirol.


Lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu

Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn dal i weithio gyda darparwyr gofal plant i ddarparu lleoedd gofal plant wedi'u hariannu gan gynnwys Dechrau'n Deg, Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd â Chymorth. Fel rhan o ehangu Dechrau'n Deg, mae 68 o ddarparwyr Gofal Plant ledled y Fwrdeistref Sirol bellach yn darparu lleoliadau wedi'u hariannu gan Dechrau'n Deg. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darparu lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu, mae'r System Prynu Dynamig (DPS) dal i fod ar agor. Siaradwch â'ch Swyddog Gofal Plant ac am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon:

sut i ddod yn ddarparwr gofal plant cymeradwy ar gyfer lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu


Mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw:

Mae Gwasanaeth Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn brysur yn annog mwy o bobl i ddewis gofal plant fel gyrfa i helpu lleddfu ar y broblem recriwtio a chadw mae'r sector yn dal i'w brofi ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â Gyrfa Cymru a rhaglenni cyflogaeth ac yn brysur yn cyflwyno gweithdai a sesiynau gwybodaeth i fyfyrwyr ac unigolion sy'n ceisio cyfleoedd gyrfa newydd. Yn drawiadol, mae'r tîm wedi ymgysylltu â bron i 300 o fyfyrwyr a phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a Ffeiriau Gyrfaoedd ledled y Fwrdeistref Sirol y tymor hwn yn unig!


Sesiwn galw heibio Trefniadau Asesu - Dydd Iau 23 Tachwedd 3.30-5pm

Mae'r sesiwn hon wedi'i hanelu at Arweinwyr Dechrau'n Deg ac mae'n dilyn ymlaen o'r sesiwn a gafodd ei chynnal ychydig yn ôl a oedd yn edrych ar Drefniadau Asesu'r Cwricwlwm Newydd. Bydd y sesiwn hon yn ailedrych ar y ddogfen Trefniadau Asesu ac yn rhannu gwybodaeth am yr 'Asesiad Cychwynnol' sy'n disodli asesiadau gwaelodlin Proffil y Cyfnod Sylfaen. Byddwch chi'n cael eich gwahodd i drafod sut mae hyn yn mynd i chi a rhannu eich arferion da. Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal trwy Microsoft Teams a bydd y ddolen yn cael ei rhannu gyda'r holl leoliadau sydd dan gontract Dechrau'n Deg.

 

Sesiwn rhannu gwybodaeth gwarchodwyr plant - Dydd Iau 23 Tachwedd 6.30-7.30pm

Yn ystod y sesiwn hon, mae'r Cynghorwyr Gofal Plant yn bwriadu rhannu gwybodaeth ynghylch y Cwricwlwm i Gymru, Trefniadau Asesu, ac unrhyw ddiweddariadau pwysig ynghylch y broses ADY o fewn y Blynyddoedd Cynnar Caerffili. Os ydych chi'n Warchodwr Plant a hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad Microsoft Teams hwn, ymunwch ar 23 Tachwedd am 6.30pm gan ddilyn y ddolen: Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod


Neges Lleferydd ac Iaith y mis

Play

Fel y gwyddoch, fe wnaethom gynnal cyfres gyffrous o sesiynau Chwarae yn y Parc ar draws y fwrdeistref yn ystod mis Awst. Rydym yn falch iawn o allu rhannu bod tua 752 o blant a 575 o oedolion wedi mynychu’r sesiynau hyn ar draws amrywiol fannau gwyrdd yn ystod yr wythnosau hynny. Mae'r adborth a gawsom gan deuluoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd yn wych gweld llawer o'n darparwyr gofal plant yn bresennol hefyd.


Neges Cymraeg y mis:

Nadolig yw'r amser perffaith i fodelu amrywiaeth o eiriau i wella geirfa plant. Mae The Hanen Centre yn trafod pwysigrwydd modelu amrywiaeth o fathau o eiriau i blant.  Mae'n demtasiwn canolbwyntio ar liwiau a siapiau ond mae plant yn elwa ar glywed geiriau gwahanol sy'n cyflawni swyddogaeth. Dyma'r erthygl gan Hanen:  Tips to Build Vocabulary: Repeat Words That Match Your Child's Interests (hanen.org)

 

Dyma rai enghreifftiau o eirfa thema'r Nadolig.

Enwau: Siôn Corn, Rwdolff

Geiriau sy'n disgrifio: mawr, wedi mynd, oer

Geiriau gwneud: agor anrhegion, cysgu, bwyta

Geiriau am deimladau: cyffrous, llawn

Geiriau lleoliad (lle mae pethau): o dan y goeden, i lawr y simnai

Geiriau Cymdeithasol: nos da, hwyl fawr

Geiriau sy'n mynegi eiddo: fy anrhegion, dy ginio

Geiriau cwestiynau: beth, ble

 

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio gyda phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi  


Dywedwch wrth bawb am frechiadau rhag y ffliw

Flu

Mae pob plentyn 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2023) yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol LAIV. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn neu ddim yn manteisio ar y cynnig.

Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant. Helpwch godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechu rhag y ffliw drwy siarad â'r rhieni rydych chi'n gweithio gyda nhw. Gall rhieni siarad â'u hymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch chi argraffu ein poster i'w arddangos yn eich lleoliad neu ei roi i rieni.

Rhagor o wybodaeth: https://icc.gig.cymru/brechlynffliw


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr