Syniadau iach ar gyfer Calan Gaeaf
Does dim rhaid i fwyd parti fod yn gacen, siocled, melysion, creision a bisgedi. Gall fod yn hwyl, yn flasus o hyd a gall gyfrif tuag at 5 y dydd a gweithgaredd corfforol eich plant.
- Caws a chracyrs - Defnyddiwch dorrwr siâp i wneud gwahanol siapiau/cymeriadau
- Defnyddiwch ffrwythau a llysiau i wneud cymeriadau - cofiwch osgoi defnyddio siocled ac efallai defnyddio ffon fara ar gyfer ysgubau. Gellid defnyddio caws ar gyfer dannedd.
- Caniatáu i'r plant wneud dewisiadau o ran torwyr siâp. Bydd plant yn fwy tebygol o fwyta eu bwyd os ydynt wedi helpu i'w baratoi.
- Mae popcorn plaen yn ddewis arall yn lle creision.
Gall creu arddangosfeydd bwyd lliwgar annog plant i roi cynnig ar fwyd newydd!
|
|
|
Mae Safon Ansawdd Caerffili yn ddull sicrhau ansawdd sy'n gwneud yn siwr bod lleoliadau'n darparu gwasanaeth y tu hwnt i'r gofynion sy'n cael eu nodi gan Arolygiaeth Gofal Cymru a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Mae ‘Safon Ansawdd Caerffili a Mwy’ newydd wedi’i datblygu i gynorthwyo lleoliadau i godi ansawdd ymhellach ac ysbrydoli eu hymarfer eu hunain. Tan yn ddiweddar, roedd gwarchodwyr plant yn gallu gweithio tuag at ‘Statws Gwarchodwr Plant Uwch’ sy’n cynnwys elfennau o Safon Ansawdd Caerffili.
Wrth symud ymlaen, bydd y Statws Gwarchodwr Plant Uwch yn dod i ben a bydd Statws Safon Ansawdd Caerffili a Mwy yn cymryd ei le. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflawni Statws Safon Ansawdd Caerffili a Mwy, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant.
Oeddech chi'n gwybod bod Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig nifer o ddigwyddiadau hyfforddi ar gyfer rheolwyr ac ymarferwyr. Mae mwyafrif y digwyddiadau'n rhad ac am ddim ac yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o bynciau megis Datblygiad Plant, Iechyd a Lles, y cwricwlwm newydd, Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a llawer mwy. Cliciwch yma i weld yr holl ddigwyddiadau: Gwybodaeth y blynyddoedd cynnar a gofal plant a… | Gofal Cymdeithasol Cymru
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) – Cyfres i Uwch-Arweinwyr ar gyfer Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar:
Mae DARPL wedi rhyddhau dwy gyfres arall i Uwch-Arweinwyr ym maes Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar.
Cynhelir cyfres 2024 ar:
- 16.01.24
- 29.01.24
- 21.03.24
Pob un rhwng 3.30pm a 5pm
I gael gwybod mwy ac i gadw lle, cliciwch yma.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon o ran amserlen Tachwedd 2023 sydd wedi cael ei gosod o fewn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio ar gyfer cynorthwywyr gwarchodwyr plant i fodloni'r gofyniad cymhwyster. Maen nhw'n bwriadu ymestyn y dyddiad cau hwn a byddan nhw'n darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y gallan nhw.
|
Gall tabl ‘oedrannau a chyfnodau’ eich helpu chi i ddeall datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu tabl ‘oedrannau a chyfnodau’ sy’n ymwneud â datblygiad plant. Gall y rhain fod yn wahanol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall gwybodaeth o’r tabl hwn gynorthwyo oedolion pwysig ym mywyd y plentyn i ddewis gemau a gweithgareddau priodol sy’n helpu datblygiad.
Gallwch chi weld y tabl oedrannau a chyfnodau yma:
WG42231 ICAN materion allweddol A1 poster Cymraeg (llyw.cymru)
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
Fel y gwyddoch, fe wnaethom gynnal cyfres gyffrous o sesiynau Chwarae yn y Parc ar draws y fwrdeistref yn ystod mis Awst. Rydym yn falch iawn o allu rhannu bod tua 752 o blant a 575 o oedolion wedi mynychu’r sesiynau hyn ar draws amrywiol fannau gwyrdd yn ystod yr wythnosau hynny. Mae'r adborth a gawsom gan deuluoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd yn wych gweld llawer o'n darparwyr gofal plant yn bresennol hefyd.
|
Peidiwch ag anghofio i ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae 15fed o Hydref a Calan Gaeaf 31ain o Hydref!
Defnyddiwch eich pwmpen mewn ryseitiau gwahanol er mwyn i'r plant gael ei flasu. Am ysbrydoliaeth; ewch i: Rysáit cawl pwmpen | Pumpkin Soup Recipe - YouTube
Beth am ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg gyda ‘shwmae’ neu ‘sumae?’ a defnyddio rhywfaint o ymadroddion a cyfarchiadau Gymraeg yn ystod y dydd?
Bore da - Good morning
Prynhawn da - Good afternoon
Hwyl fawr - Goodbye
Diolch – Thank you
Sut wyt ti? - How are you?
Croeso - Welcome
|
Mae pob plentyn 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2023) yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol LAIV. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn neu ddim yn manteisio ar y cynnig.
Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant. Helpwch godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechu rhag y ffliw drwy siarad â'r rhieni rydych chi'n gweithio gyda nhw. Gall rhieni siarad â'u hymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch chi argraffu ein poster i'w arddangos yn eich lleoliad neu ei roi i rieni.
Rhagor o wybodaeth: https://icc.gig.cymru/brechlynffliw
|
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics, cwmni ymchwil annibynnol, i gasglu mewnwelediadau gan unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau cofrestredig o fewn y sector gofal plant a gwaith chwarae. Bydden nhw’n gwerthfawrogi cyfranogiad gan ymarferwyr gofal plant, gwarchodwyr plant, gweithwyr chwarae, a rheolwyr lleoliadau ar gyfer grwpiau ffocws a chyfweliadau ar-lein. Bydd eich cyfranogiad yn cyfrannu at ddatblygu polisïau a fydd yn cefnogi ac yn siapio’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.
I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, plîs darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd a chwblhewch y ffurflen Mynegi Diddordeb, ac wedyn bydd Tîm Ymchwil Alma Economics mewn cysylltiad.
|
Hoffen ni groesawu Jamie Williams, sydd wedi ymuno â'n tîm fel Athro Ymgynghorol Gofal Plant. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch chi'n cael cwrdd a gweithio gyda Jamie dros y misoedd nesaf.
|