Croeso'n ôl! Gobeithio eich bod chi wedi cael gwyliau haf pleserus, yn treulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau.
Wrth edrych ymlaen, mae'r flwyddyn nesaf yn addo mwy na digon o heriau a chyflawniadau. Mae ein darpariaeth gofal plant yn dyst i'ch ymroddiad a'ch gwaith caled, ac rydyn ni'n diolch i chi am hynny.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn gynhyrchiol a llwyddiannus o'n blaenau!
Amserlen hyfforddiant yr hydref
Mae amserlen hyfforddiant ddiweddaraf Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili nawr ar gael ar ein gwefan. Am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen cais am hyfforddiant, cliciwch ar y ddolen isod.
Mae'r amserlen hyfforddi ddiweddaraf ar gael nawr i'w gweld ar ein gwefan ni. Cliciwch ar y ddolen isod am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen gais am hyfforddiant.
Gyda'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol newydd sydd wedi dod i rym, un newid yw bod nawr gofyn i bob Arweinydd Diogelu gwblhau cwrs Diogelu Uwch, 12 awr o hyd.
Rhaid i'r hyfforddiant hwn gael ei gyflawni gan bawb sydd mewn cysylltiad â phlant a phawb sydd â chyfrifoldeb diogelu pennaf yn y ddarpariaeth.
- Arweinwyr Lleoliadau
- Dirprwy Arweinwyr Lleoliadau
- Rheolwyr
- Personau â Chyfrifoldeb
- Gwarchodwyr plant
- Personau Diogelu Dynodedig
- Unigolion Cyfrifol
Mae'n gwrs 2 ddiwrnod ac mae'n rhaid i gyfranogwyr fynychu'r ddwy sesiwn i gyflawni'r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd diwrnod 1 yn cael ei ddarparu ar Teams, a diwrnod 2 yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb yn un o adeiladau'r y Cyngor.
Byddwch chi'n gallu cadw lle ar y cwrs newydd hwn o fis Medi 2023 a bydd gwybodaeth ar gael ar ein gwefan Blynyddoedd Cynnar.
Rhaid i'r hyfforddiant gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2024.
Am ragor o wybodaeth am y gofynion newydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (llyw.cymru)
Mae'r llwybr hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn offeryn y gall ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant 0 i 4 blwydd 11 mis oed ei ddefnyddio i nodi eu hanghenion hyfforddiant er mwyn rhoi'r cymorth gorau i blant o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae wedi'i ddylunio i gyd-fynd â'r Fframwaith Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a'r Rhaglen Trawsnewid y System Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae tair lefel o ddatblygiad sgiliau yn y llwybr hyfforddiant: Craidd, Uwch ac Arbenigol. Bydd y lefel a'r llwybr rydych chi'n ei ddilyn yn dibynnu ar eich rôl, a'r arfer orau yw gwneud yr hyfforddiant a argymhellir a fydd ar gael i chi drwy e-ddysgu, yn rhithwir neu wyneb yn wyneb drwy rhaglen hyfforddiant Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar Caerffili sy'n dechrau yr hydref hwn.
Bydd copi o'r llwybr hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn cael ei ddosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd ar gael ar wefan Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar Caerffili.
Mae'r broses ymgeisio ar agor i rieni wneud cais am le Codi'n Dair ar gyfer eu plant am dymhorau'r gwanwyn a'r haf 2024. Y dyddiad cau ar gyfer y ddau dymor yw dydd Gwener 20 Hydref.
Anogwch rieni i wneud cais am le gyda chi (neu ysgol) os dyna yw eu dewis drwy fynd i wefan y Cyngor yn www.caerffili.gov.uk/DerbyniadauYsgol.
Noder byddwn ni'n agor y broses gwneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng 01/09/2021 a 31/12/2021.
Y cyfnod gorau i wneud cais yw rhwng 25 Medi a 13 Hydref, ond bydd modd gwneud cais ar ôl y cyfnod hwn.
Anogwch unrhyw rieni cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais.
|
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y deunyddiau hyrwyddo y gwnaethoch chi ofyn amdanyn nhw, sydd wedi'u dylunio i amlygu eich rôl fel darparwr Dechrau'n Deg, wedi cyrraedd gan y cyflenwyr. (Gweler uchod)
Byddwn ni'n trefnu iddyn nhw gael eu dosbarthu i chi'n fuan. Byddwch chi'n cael tri maint: A4, A5 ac A6. Gall y rhain gael eu glynu wrth ffenestri, drysau neu hyd yn oed ffenestri cerbydau er mwyn hysbysebu i deuluoedd eich bod chi'n cynnig gofal plant wedi'i ariannu gan Dechrau'n Deg. Tynnwch y papur oddi ar y cefn, a'u glynu nhw wrth y tu mewn i unrhyw ffenestr neu ddrws gwydr.
Gall rhieni sganio'r cod QR am ragor o wybodaeth am Dechrau'n Deg a sut i wneud cais.
Fel y gwyddoch, fe wnaethom gynnal cyfres gyffrous o sesiynau Chwarae yn y Parc ar draws y fwrdeistref yn ystod mis Awst. Rydym yn falch iawn o allu rhannu bod tua 752 o blant a 575 o oedolion wedi mynychu’r sesiynau hyn ar draws amrywiol fannau gwyrdd yn ystod yr wythnosau hynny. Mae'r adborth a gawsom gan deuluoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd yn wych gweld llawer o'n darparwyr gofal plant yn bresennol hefyd.
|
Mae pob plentyn 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2023) yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol LAIV. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn neu ddim yn manteisio ar y cynnig.
Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant. Helpwch godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechu rhag y ffliw drwy siarad â'r rhieni rydych chi'n gweithio gyda nhw. Gall rhieni siarad â'u hymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch chi argraffu ein poster i'w arddangos yn eich lleoliad neu ei roi i rieni.
Rhagor o wybodaeth: https://icc.gig.cymru/brechlynffliw
|
Bob dwy flynedd mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni gwblhau archwiliad o'n gweithlu gofal plant. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall y sgiliau a'r cymwysterau sydd gennych chi, yn ogystal â darganfod pa hyfforddiant y dylem ni ganolbwyntio arno ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
Rydyn ni'n paratoi'r arolwg ar hyn o bryd a gallwch chi ddisgwyl iddo gyrraedd eich mewnflwch yn fuan. Bydden ni'n gwerthfawrogi eich cymorth gyda'r dasg bwysig hon trwy dreulio amser yn llenwi'r arolwg ar ôl i chi ei gael. Diolch yn fawr!
|
Oeddech chi'n gwybod y gall clapio sillafau mewn geiriau helpu plant gyda'u siarad a'u llythrennedd?
Torrwch eiriau yn sillafau neu'n ‘guriadau’. Dechreuwch â geiriau sy'n cynnwys dau air y mae'r plentyn yn eu gwybod fel ‘pelen-eira’ a ‘brwsh-gwallt’, yna symudwch ymlaen at eiriau mwy cymhleth fel ‘te-le-ffon’ neu ‘hof-ren-ydd’. Gall hyn helpu plant i:
- Adnabod ble mae seiniau'n dod mewn geiriau sy'n eu helpu nhw i adnabod geiriau wedi eu hysgrifennu.
- Sylwi ar eiriau sy'n odli.
- Cael ymwybyddiaeth well o seiniau.
- Deall ble mae un gair yn gorffen a gair arall yn dechrau.
Ymwybyddiaeth o ffonoleg yw hyn: cam pwysig er mwyn bod â lleferydd clir a dysgu darllen ac ysgrifennu.
Am ragor o wybodaeth am ymwybyddiaeth o ffonoleg, ewch i www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-11/taflen-ffeithiau-ymwybyddiaeth-o-ffonoleg.pdf
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
Hoffen ni groesawu Jamie Williams, sydd wedi ymuno â'n tîm fel Athro Ymgynghorol Gofal Plant. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch chi'n cael cwrdd a gweithio gyda Jamie dros y misoedd nesaf.
|