Mae gan Ysgol Gynradd y Bryn, Ysgolion Babanod ac Iau Cwmaber, ac Ysgol Gynradd Nant y Parc ystafell ddosbarth gofal plant ar safle eu hysgolion nhw i helpu darparu sesiynau cofleidiol ac ar ôl yr ysgol i gynnig lleoedd gofal plant i blant a theuluoedd yr ardal leol.
Rydyn ni'n gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu'r ddarpariaeth hon. Rydyn ni'n agored i ddarparwyr presennol sy'n dymuno datblygu darpariaethau lloeren newydd, darparwyr newydd a gwarchodwyr plant sy'n dymuno cofrestru fel darpariaeth grŵp i blant 3 oed neu'n hŷn.
Rydym yn rhagweld y bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chofrestru yn barod i’w ddarparu yn gynnar yn 2024.
I gael rhagor o wybodaeth a dyddiadau cau ar gyfer pob safle unigol, gweler y dogfennau Datgan Diddordeb sydd ynghlwm.
Dylid anfon pob datganiad o ddiddordeb at y Pennaeth perthnasol.
Dyddiad cau: 25 Medi 2023, 3pm
|