 Mae'r hwyl yn ein digwyddiadau “Chwarae yn y Parc” wedi'u heffeithio gan y tywydd gwlyb. Serch hynny, rydyn ni'n gobeithio am ychydig o heulwen ar gyfer ein dau ddyddiad olaf, sef Parc Waunfawr ar 24 Awst a Maes y Sioe (Coed Duon) ar 29 Awst. Os ydych chi'n gallu, beth am ddod draw ac ymuno yn yr hwyl!
Mae manylion llawn am ddyddiadau a lleoliadau ar gael ar Dewis yma.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu BlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk
 Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cadarnhau pob Cytundeb newydd ar-lein erbyn dydd Iau wythnos gyntaf y tymor. Bydd angen i bob Cytundeb fod wedi’i gadarnhau erbyn y dyddiad hwn er mwyn ichi allu hawlio cyllid y Cynnig Gofal Plant o’r wythnos honno ymlaen.
A ydych yn teimlo’n angerddol ynghylch creu system gofal plant decach yng Nghymru? Gall eich llais a’ch gweithredoedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol! Ymunwch ag ymgyrch #GwneudGofalYnDeg trwy ddweud eich dweud am ofal plant!
Cymerwch ychydig funudau i lenwi ein harolwg a gwneud i’ch llais gyfrif. Rhannwch ef â’ch partner, eich ffrindiau, a’ch rhwydweithiau rhieni gan ddefnyddio pob dull sydd ar gael i chi: Grwpiau WhatsApp, grwpiau babanod/NCT/Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, a’r tu hwnt!
Ewch i https://bit.ly/OfalPlant i ddechrau arni.
Cofiwch, hyd yn oed os nad oes gennych blant o dan naw oed, efallai y bydd gan rywun yn eich rhwydwaith gyfraniadau gwerthfawr i’w rhannu. Helpwch ni i gyrraedd cynifer o leisiau â phosib trwy rannu’r arolwg yn eang!
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu system gofal plant yng Nghymru sy’n gweithio i bawb.
|
Oeddech chi'n gwybod bod nifer o blant yn siarad ag atal dweud wrth ddysgu siarad? Gallai hyn swnio fel ailadrodd synau, gwneud synau'n hirach neu fynd yn hollol sownd ar air. Mae'r rhan fwyaf o blant sy'n siarad ag atal dweud pan fyddan nhw'n fach yn mynd ymlaen i siarad yn rhugl ac mae'n bwysig iawn peidio â thynnu sylw at unrhyw siarad ‘lletchwith’ – yn hytrach, canolbwyntiwch ar gadw'r sgwrs i fynd a mwynhau sgwrsio â'ch gilydd. Gallwch chi helpu'ch plentyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Canolbwyntio ar yr hyn mae'ch plentyn yn ei ddweud, nid sut mae'n ei ddweud
- Bod yn amyneddgar
- Gadael i'ch plentyn orffen ei frawddegau ei hun
- Siarad yn arafach â'ch plentyn
- Peidio â defnyddio geiriau fel ‘da’/’drwg’ i ddisgrifio siarad
- Cael amser un i un yn gwneud rhywbeth hwyl mae'ch plentyn yn ei fwynhau mewn lle tawel
Am ragor o wybodaeth am atal dweud, ewch i: Beth yw atal dweud a sut galla i helpu fy mhlentyn gydag atal dweud? - BBC Plant Bach Hapus
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|
|