I ddarparu lleoedd gofal plant wedi'u hariannu yng Nghaerffili, bydd angen i chi ymuno â'n rhestr o ddarparwyr cymeradwy. Bydd rhaid i chi wneud hyn drwy ein System Brynu Ddeinamig (SBD).
Mae 3 Lot yn y SBD, a gallwch chi wneud cais i ddarparu cymaint o Lotiau ag y dymunwch chi ar un cais.
- Lot 1 - Darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar
- Lot 2 - Darparu Lleoedd Dechrau'n Deg
- Lot 3 - Darparu Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd â Chymorth
Ar hyn o bryd mae 12 lleoliad wedi'u contractio i ddarparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar, 60 i ddarparu gwasanaeth Dechrau'n Deg a 48 i ddarparu Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd â Chymorth.
Os nad ydych chi wedi'ch contractio i ddarparu unrhyw un o'r lleoliadau uchod eto, mae'r SBD yn parhau i fod yn agored felly cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant chi os hoffech chi ragor o wybodaeth neu ewch i'n gwefan gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Sut i ddod yn Ddarparwr Gofal Plant cymeradwy ar gyfer lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu
Rhaid sicrhau camau gweithredu gwrth-hiliol i ddiogelu lles pawb o fewn darpariaeth Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar.
Mae DARPL yn sefydliad y mae ei waith yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol i’r rhai sy'n gweithio o fewn lleoliadau Addysg, Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar er mwyn datblygu ymwybyddiaeth cynrychiolwyr o wrth-hiliaeth, a dylai hyn arwain at ddatblygiad ymarfer gwrth-hiliol.
Mae'r dysgu proffesiynol wedi ei ddatblygu i ystyried gwahanol rolau'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau a'i deilwra i gefnogi hynny.
Mae adnoddau a gwybodaeth ar gyfer Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar ar dudalen penodol: Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar - DARPL
Mae modd gweld y cyrsiau sydd ar ddod ar Eventbrite
Roedden ni'n meddwl y bydden ni'n rhannu ein trefniadau ar gyfer digwyddiadau Chwarae yn y Parc eleni, sydd wastad yn llwyddiant ysgubol, i'ch helpu chi i gynllunio.
Dewch draw i'n digwyddiad chwarae yn y parc mynediad agored am ddim i rieni a phlant chwarae gyda'i gilydd. Mae gweithgareddau'n cynnwys celf a chrefft, chwarae anniben, gemau awyr agored, ac ardal i blant bach a babanod chwarae. Bydd gweithgareddau'n ceisio bod yn gynhwysol ar gyfer pob angen.
Mae manylion llawn am ddyddiadau a lleoliadau ar gael ar Dewis yma.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu BlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk
Rydyn ni wedi cael ambell broblem gyda'r broses o gadw lle ar hyfforddiant, ac mae angen eich help chi arnom ni.
Wrth gadw lle ar hyfforddiant ar-lein, cofiwch y canlynol:
- Wrth lenwi’r ffurflen cadw lle ar hyfforddiant, a wnewch chi sicrhau eich bod chi'n darparu e-bost unigol ar gyfer pob aelod o staff yr ydych chi'n gwneud cais am le ar eu cyfer, gan ofalu eich bod chi'n ei nodi’n gywir. Mae'r broses cadw lle'n pwyso'n drwm ar e-bost, ac rydyn ni wedi cael nifer o broblemau'n ddiweddar lle gafodd cyfeiriadau e-bost anghywir eu darparu. Mae hyn yn golygu bod hysbysiadau, gwybodaeth am hyfforddiant a dolenni sy'n gysylltiedig â'r hyfforddiant ddim yn eu cyrraedd mewn pryd.
- Os ydyn ni'n gwrthod lle ar gwrs hyfforddiant, a’ch bod chi ddim yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich bod chi ar restr aros, bydd rhaid i chi ymgeisio eto pan mae rhagor o gyrsiau'n cael eu rhyddhau. Mae hyn fel arfer ar ddechrau a chanol y tymor. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn cadw rhestr wrth gefn.
Diolch yn fawr am eich cymorth.
|
eth y System Ddigidol Genedlaethol Cynnig Gofal Plant yn fyw ym mis Ionawr 2023.
Mae'r system ddigidol bellach wedi disodli'r hen systemau ymgeisio ac mae pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio un gwasanaeth ar-lein.
Os ydych chi'n darparu lleoedd Cynnig Gofal Plant, gobeithio eich bod chi bellach yn gyfarwydd â'r system ar-lein a'r hyn sydd angen i chi ei wneud fel darparwr.
Os oes angen cymorth arnoch chi ag unrhyw beth, efallai y byddai’n syniad i chi wirio a yw'ch cwestiwn chi wedi'i ateb yn y canllawiau i ddarparwyr gyda Chynnig Gofal Plant Cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, gallwch chi gysylltu â Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu Hwbyblynyddoedcynnar@caerffili.gov.uk.
|
Peidiwch anghofio i fynychu Ffiliffest 2023; mae digon o hwyl i'w gael ac mae e ar garreg eich drws! Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://mentercaerffili.cymru/cy/ffilifest-cy
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Garddio Plant 28ain o Fai – 5ed o Fehefin 2023! Dyma gyfle i fod yn brysur yn yr ardal tu allan; plannwch hadau, addurnwch potiau, a gallech chi fwyta unrhyw gynnyrch rydych chi wedi'i dyfu gyda'ch gilydd yn ystod Amser Snac. Blasus iawn! Dewch i wrando ar stori ‘Supertaten’ yn Gymraeg: Supertaten
Fel rhan o'r dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0-5 oed yng Nghymru, cyhoeddwyd cyfres newydd o Adnoddau gan y Llywodraeth Cymru i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant a chwarae ac ysgolion i ddarparu chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o safon.
Mae’r blynyddoedd cynnar yn chwarae rôl bwysig yn ystod plentyndod yn ogystal â llunio ein dyfodol. Er mwyn sicrhau bod pob plentyn 0 i 5 oed yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi lles a datblygiad plant wrth wraidd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru.
Mae’r adran hwn wedi cael ei ddatblygu drwy gyd-awduro gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr. Mynegir o safbwynt ymarferwyr, gan dynnu ar arbenigedd ar draws y sector chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar 0 i 5 oed.
Mae'r adnoddau'n cynnwys:
- Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru.
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu ar gyfer 0-3
Linc: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/chwarae-dysgu-a-gofal-plentyndod-cynnar-yng-nghymru/
Mae'r dogfennau hyn i'w darllen ar y cyd â/gyda / ochr yn ochr:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, adborth neu sylwadau, mae croeso i chi anfon e-bost at y blwch post siaradgofalplant a/neu'r blwch post dysgu sylfaen.
Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn! Pan fyddwn ni eisiau helpu ein plentyn i ddysgu siarad, a oes angen i ni eu harwain nhw?
Mae The Speech Lab wedi gwneud arbrawf a oedd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng sut mae plant yn ymateb pan fyddwn ni’n eu harwain o gymharu â phan fyddwn ni'n eu dilyn, gwyliwch yma: What's the best way to play with baby toys? Best way to play with 12 to 18 month old - BBC Tiny Happy People
Yr ateb yw... gwnewch yn siŵr eich bod chi'n DILYN arweiniad eich plentyn! Pan fyddwn ni'n sylwi ar yr hyn sy'n ymddiddori ein plentyn ni, gan ddilyn ac ymuno â nhw, drwy chwarae a sgwrsio, mae ganddyn nhw lawer mwy o ddiddordeb. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n aros yn hirach a bod ganddyn nhw ragor o gyfleoedd i glywed y geiriau yr ydych chi'n eu dweud ac wrth geisio cyfathrebu â chi.
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|
- Rydyn ni’n ffarwelio a dymuno ymddeoliad hapus i Glynis Huish. Mae Glynis wedi gweithio ar draws y sector gofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili ers dros 25 mlynedd, yn gyntaf gyda Mudiad Meithrin, yna fel Cydlynydd Rhwydwaith gyda’r Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant (PACEY bellach) ac am yr 11 mlynedd diwethaf fel ein guru Gwarchod Plant yn y Tîm Blynyddoedd Cynnar. Mae Glynis wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod gwarchodwyr plant ar flaen y gad o ran darparu gofal plant ar draws y fwrdeistref sirol a bydd ei gwybodaeth a’i harbenigedd yn cael eu colli’n fawr gan bawb sydd wedi gweithio gyda hi. Bydd llawer ohonoch yn adnabod Glynis yn dda ac yn awyddus i ymuno â ni i ddymuno ymddeoliad hir a hapus iddi.
- Rydym hefyd wedi ffarwelio â Sue Jones a ymddeolodd o Dîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar y 30ain o Fehefin! Mae'r dyddiad hwn yn nodi union 15 mlynedd o wasanaeth gyda'r Hwb a llawer o flynyddoedd yn ei swydd gwreiddiol o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r holl wybodaeth, cymorth a chyngor y mae Sue wedi’u rhoi i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol dros y blynyddoedd hyn wedi bod yn amhrisiadwy. Hoffem ddymuno ymddeoliad hapus a hamddenol i Sue.
- Croeso mawr i Emma Jones, ein Swyddog Hwb newydd! Mae Emma yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hi’n dod ag ystod o sgiliau i’r tîm ar ôl gweithio’n flaenorol mewn gwasanaethau cymorth / rolau gweinyddol yn y GIG a chyn hynny Cynorthwyydd Dysgu yn Ysgol Gymraeg Caerffili. Mae ei phrif leoliad yng Nghanolfan Plant Parc Y Felin ond bydd ei gwaith allgymorth yn y gymuned yn canolbwyntio ar wneud cysylltiadau â darpariaeth Gymraeg a Chydraddoldeb ar draws y fwrdeistref.
|