Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar - Cynllun Grantiau Bach 2023-2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant

Grant

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar - Cynllun Grantiau Bach 2023-2024

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi bod y Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar – Cynllun Grantiau Bach 2023-2024 bellach ar agor i ddarparwyr gofal plant sydd wedi’u lleoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Mae pob lleoliad sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr sector preifat a gwirfoddol, a lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal oriau dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol, clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, ac ati. Gellir hefyd ystyried ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant newydd sydd wedi cyflwyno eu cofrestriad AGC.

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn nhrefn blaenoriaeth, a’n prif ffocws yn ystod y cyfnod hwn fydd unrhyw ofynion iechyd a diogelwch sy’n sicrhau bod adeiladau’r lleoliad yn ddiogel, yn cydymffurfio ac yn gynaliadwy ar gyfer defnydd tymor hwy neu leoliadau yn gallu ehangu eu rhifau cofrestru AGC o ganlyniad i'r dyfarniad. Mae rhagor o wybodaeth am yr holl flaenoriaethau ar gael yn y ffurflen gais sydd ynghlwm.

Os ydych chi wedi gwneud cais am gyllid yn flaenorol a bod eich ffurflen gais wedi'i gohirio yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, nid oes angen i chi ailgyflwyno'ch cais. Gan y bydd eich ffurflen gais wreiddiol yn cael ei hystyried yn ystod y panel nesaf a'i blaenoriaethu yn unol â hynny.

O ran lleoliadau sydd wedi gwneud cais yn flaenorol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a’u bod nhw wedi llwyddo i dderbyn yr uchafswm sy’n gymwys iddyn nhw, does dim angen iddyn nhw wneud cais ar hyn o bryd. Mae cyllid yn gyfyngedig ac mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r lleoliadau hynny sydd ddim wedi'u dyfarnu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Bydd pob cais sy’n cael ei gyflwyno cyn 13 Mehefin 2023 yn cael ei ystyried yng nghyfarfod cyntaf y panel ar 16 Mehefin 2023. Bydd cyfarfodydd y panel yn parhau'n fisol ar ôl yr amser hwn nes bydd yr holl arian wedi'i ddisbyddu.

Darllenwch y ffurflen gais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais.

Cwblhewch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i blynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr