Nid yw'n teimlo fel amser hir ers i ni ehangu rownd gyntaf Gofal Plant Dechrau'n Deg Cam 2, fodd bynnag mae'n bleser gennym ni roi gwybod i chi bod y broses gwneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg bellach ar agor i blant sy’n gymwys i ddechrau ym mis Medi. Mae hyn i blant gyda dyddiad geni rhwng 01/04/2021 a 31/08/2021.
Y cyfnod ymgeisio delfrydol yw rhwng 24/04/2023 a 12/05/2023, er y byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar ôl yr amser hwn. Os ydych chi'n gweithio gyda theulu gyda phlant sydd â dyddiad geni rhwng y dyddiadau hyn, a fyddech chi cystal â'u hannog nhw i ymweld â'n gwefan i wirio a ydyn nhw'n gymwys gan ddefnyddio'r gwiriwr cod post.
https://www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk/gofal-plant/gofal-plant-dechraun-deg-2/
Os ydych chi'n darparu Dechrau'n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir, Lleoedd â Chymorth, neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar, mae angen i chi lenwi cofrestrau presenoldeb wythnosol.
Er mwyn eich cynorthwyo chi gyda hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi rhywfaint o ganllawiau ar ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut rydyn ni'n creu'r cofrestrau, llenwi'r cofrestrau a pha godau i'w defnyddio, a chyflwyno'r gofrestr wedi'i chwblhau gan ddefnyddio system amgryptio e-byst.
Canllawiau Cofrestrau Darparwyr Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar
Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu'r canllawiau hyn at y dudalen ffurflenni a dolenni a wnaethon ni sôn amdani yn ein bwletin ym mis Ebrill er mwyn sicrhau mynediad hawdd.
Ffurflenni a dolenni darparwyr gofal plant
Rhywfaint o nodiadau atgoffa am Gynnig Gofal Plant Cymru:
I gael cymorth a chyngor, cysylltwch â’n llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628
Mae cyfle cyffrous nawr ar gael i gyflwyno darpariaeth cyn-ysgol Dechrau'n Deg yng nghymuned Gellideg o ward Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Bydden ni'n awyddus i sefydliadau arddangos sut y gallen nhw ymestyn y model busnes y tu hwnt i ofal plant Dechrau’n Deg, er mwyn diwallu anghenion gofal plant y gymuned ehangach.
Gweler isod y dolenni sy'n mynd â chi'n uniongyrchol i'r hysbyseb sydd wedi'i chyhoeddi ar GwerthwchiGymru.
Y brif dudalen yw www.gwerthwchigymru.llyw.cymru ond gall ddarparwyr â diddordeb weld yr hysbysiad yn https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/search/search_mainpage.aspx gan sgrolio i lawr i'r hysbysiad wedi'i restru fel “Gofal Sesiynol Dechrau'n Deg yn Ward Cyfarthfa ym Merthyr Tudful”.
Y dyddiad cau yw canol dydd, dydd Gwener 19 Mai
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rebecca Powell ar Rebecca.powell@merthyr.gov.uk neu 01685 725269 neu Sarah Ostler ar sarah.ostler@merthyr.gov.uk neu 01685 727396 01685 725269.
Paratoi ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Plant – Mai 14eg a Mis Cenedlaethol Gwenu Mai 16eg - Mehefin 16eg
Awgrymiadau am weithgareddau:
Gwnewch eich blât yn wyneb hapus – trefnwch eich snac i mewn i blât hapus a peidiwch ag anghofio labeli rhannau’r corff.
Gallwch ganu Mr Hapus unwaith mae eich platiau wedi eu cwblhau er mwyn dathlu.
Trafodwch bethau sydd yn gwneud i’r plant deimlo’n hapus a phethau sydd yn eu gwneud nhw’n drist, ac unrhyw emosiynau eraill.
- Geirfa Cymraeg:
- Hapus – Happy
- Trist – Sad
- Grac – Angry
- Cyffrous – Excited
- Ofnus - Scared
- Gwenu – Smiling
- Trwyn – Nose
- Llygaid – Eyes
- Clustiau – Ears
- Ceg – Mouth
- Teimladau – Feelings
Oes angen cwrs rhagarweiniol neu gwrs gloywi arnoch chi mewn datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu?
Mae gan y Consortiwm Cyfathrebu gwrs byr ar-lein am ddim ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag ystod o oedrannau.
Cafodd y cwrs hwn ei ddatblygu gan The Communication Trust ac mae ar gael, yn Saesneg, ar wefan Speech and Language UK: CPD online short course (speechandlanguage.org.uk)
Bydd yn eich helpu chi gyda'r canlynol:
- Deall datblygiad lleferydd ac iaith
- Cynorthwyo'r sgiliau hyn o ddydd i ddydd
- Nodi plant a allai fod angen mwy o gymorth
Dyma le gwych i ddysgu pethau newydd neu loywi eich gwybodaeth!
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd.
Fel gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd, treuliwch ychydig funudau yn llenwi'r arolwg isod. Bydd eich profiadau a’ch barn chi'n helpu i ddarparu gwybodaeth am effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.
Mae canfyddiadau’r llynedd wedi cael eu defnyddio’n eang, yn lleol ac yn genedlaethol, a hefyd i lywio Llywodraeth Cymru wrth adnewyddu’u Strategaeth Tlodi Plant.
Arolwg ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol
Dyddiad cau 16 Mehefin 2023.
|
|