Mae'r ail gam o Ehangu Dechrau'n Deg wedi bod yn llwyddiant enfawr.
Hoffem ni rhannu ein llongyfarchiadau a'n diolch i'r holl ddarparwyr dan sylw. Heb bob un ohonoch chi, ni fydden ni wedi gallu cyrraedd ein nodau o roi i deuluoedd y cyfleoedd a’r dewis i gael mynediad at leoedd wedi’u hariannu gan Dechrau'n Deg.
Mae eich gwaith caled a'ch ymrwymiad wedi'u cydnabod gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar cyfan. Rydych chi wedi bod ar daith gyda ni i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel ac mae'r ymdrech rydych chi wedi’i wneud i wella eich darpariaeth wedi bod yn wych, gyda'r plant wrth galon popeth rydych chi'n ei wneud.
Mae croeso i chi rhannu eich llwyddiannau gyda phob lleoliad sydd heb ystyried mynd ar y System Brynu Ddynamig. Mae'r cyfle dal ar gael, felly, cysylltwch â ni am gyngor a chymorth neu ddilyn y ddolen isod.
Sut i ddod yn Ddarparwr Gofal Plant cymeradwy ar gyfer lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu - Blynyddoedd Cynnar Caerffili Blynyddoedd Cynnar Caerffili
Rydyn ni'n sylweddoli bod nifer o newidiadau wedi bod yn ein gwasanaeth yn ddiweddar ac rydyn ni wedi cyflwyno sawl ffurflen a system newydd a fydd rhaid i chi eu defnyddio. Felly, roedden ni o'r farn efallai byddai'n ddefnyddiol i roi'r holl ddolenni y byddwch chi'n eu hangen mewn un lle.
Ffurflenni a dolenni darparwyr gofal plant - Blynyddoedd Cynnar Caerffili Blynyddoedd Cynnar Caerffili
Syniad da! Er mwyn sicrhau mynediad hawdd, efallai hoffech chi ystyried rhoi nod tudalen i'r dudalen neu ei hychwanegu at eich ffefrynnau gan wasgu'r 'seren' ar ddiwedd y bar cyfeiriad fel sy'n cael ei ddangos isod.
Os ydych chi'n darparu Dechrau’n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir, neu Leoedd a Gefnogir, bydd taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch banc chi heb fod yn hwyrach na diwrnod 1af y mis ar gyfer gofal plant wedi'i ddarparu yn y mis blaenorol.
Mae’r tabl isod yn dangos yr amserlen dalu ar gyfer y 12 mis nesaf a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol (ICP) newydd i gwrdd â’r dyddiad talu nesaf. Mae'n bwysig, unwaith y byddwch wedi cytuno i ddarparu lleoliad, eich bod chi'n cyflwyno ICP ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth gael eich taliad chi.
Payment schedule
Dros y 9 mis diwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno hyfforddiant i gynorthwyo'r sector gofal plant yng Nghaerffili i roi'r Cwricwlwm Newydd i Gymru ar waith.
Yn ogystal â hyrwyddo a chyfeirio lleoliadau at y modiwlau dysgu proffesiynol sydd ar gael ar Hwb: Repository - Hwb (gov.wales), rydyn ni hefyd wedi cyflwyno cyrsiau, megis hyfforddiant Lleoedd Cyfeillgar i Gyfathrebu wedi’i seilio ar yr ymchwil yn y llyfr “The Communication Friendly Spaces Approach” gan Elizabeth Jarman i dros 75 o ymarferwyr er mwyn iddyn nhw allu deall sut mae eu hamgylchedd yn gallu creu lle croesawgar i ddysgu sy'n arwain at chwarae cyfoethog a phwrpasol.
Roedden ni hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant Froebel i ein darparwyr Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Thîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili. Roedd yr hyfforddiant hwn yn edrych ar addysgeg yr arloeswr o'r Almaen, Friedrich Froebel (1782-1852), a wnaeth ddyfeisio'r kindergarten yn 1840 a hyrwyddo 'dysgu trwy chwarae' trwy weithgareddau wedi'u harwain gan blant. Roedd y cyfranogwyr wedi ystyried egwyddorion Froebel ac archwilio sut maen nhw'n ategu a chefnogi ein harfer cyfredol heddiw.
Froebel Trust | Poster Newydd Froebel Trust
Wrth symud ymlaen, byddwn ni'n parhau ystyried hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i gynorthwyo ymarferwyr gyda'r Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Ewch i ein tudalen Hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar i weld ein cyrsiau arferol a'r rhai newydd sydd i ddod yn y misoedd nesaf.
Paratoi ar gyfer Coroniad Brenin Siarl III 6ed o Fai a Wythnos Ymwybyddiaeth Haul 6ed-13eg o Fai 2023!
Geirfa a ymadroddion Cymraeg y mis:
- Coron – Crown
- Brenin – King
- Brenhines – Queen
- Eli haul – Sun cream
- Sbectol haul – Sunglasses
- Het haul – sunhat
Awgrymiadau am weithgareddau:
Beth am fod yn Frenin neu Frenhines am y dydd? Gadewch i'r plant ddylunio coron a mantell brenhinol ei hunain. Pwy fydd a'r wisg gorau?
Dewch i fod yn dditectif haul a cysgod! Chwiliwch am y llefydd gyda mwyaf o gysgod yn y lleoliad a gadewch i ni drafod diogelwch haul.
Wyddoch chi, mae arwyddo yn gallu helpu plant i ddysgu siarad? Mae'n helpu oherwydd:
- Mae'n ein hannog ni i fod yn wyneb yn wyneb wrth ryngweithio â phlant
- Mae'n ychwanegu cynorthwyydd gweledol i helpu'r plentyn i ddysgu geiriau pwysig
- Mae'n helpu ein harafu ni i lawr er mwyn rhoi rhagor o amser i feddwl i'r person rydyn ni'n siarad ag ef
- Mae'n uwcholeuo'r geiriau pwysicaf
- Mae'n hwyl!
Mae defnyddio arwyddion hefyd yn gallu helpu plentyn i drosglwyddo ei neges yn annibynnol os nad yw ei iaith lafar yn cael ei deall. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn defnyddio Signalong i helpu plantos i ddysgu siarad. Edrychwch ar ein sianel Youtube - beth am ddod o hyd i 3 arwydd i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd!
(172) Sign & Talk / Arwyddo a Siarad - YouTube
Signalong - The Communication Charity
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|