 Daeth y dyddiad gorau i ymgeisio ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg i ddechrau ar ôl y Pasg i ben ddydd Gwener 24 Chwefror ac mae e-byst cymeradwyo bellach wedi mynd allan i rieni.
Cofiwch, mae teuluoedd yn gallu gwneud cais unrhyw bryd, felly, annog unrhyw deuluoedd sydd â phlant cymwys nad ydyn nhw wedi gwneud cais eto i wneud hynny.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we gofal plant Dechrau’n Deg yma: www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk/gofal-plant/gofal-plant-dechraun-deg-2/
Os bydd rhiant yn cysylltu â chi a bod lleoliad yn cael ei gytuno, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol gyda nhw. Mae dolen uniongyrchol i’r Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol o’n gwefan ni yma: www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk/gofal-plant/darparwyr-gofal-plant/flying-start-provider-info/
I gael mynediad at y ffurflen, bydd angen i chi fewngofnodi i Cyswllt Caerffili:
- Os oedd gennych chi gyfrif eisoes, gallwch chi fewngofnodi gan ddefnyddio'r e-bost a ddarparwyd gennych chi pan wnaethoch chi greu'r cyfrif. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch chi glicio ar y ddolen 'Forgot password' ar y sgrin mewngofnodi i'w ailosod.
- Os nad oedd gennych gyfrif yn barod, rydym wedi creu un i chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar ffeil i chi. Dylech chi fod wedi cael e-bost yn ddiweddar i'r cyfeiriad e-bost hwnnw yn eich gwahodd chi i greu cyfrinair. Os nad ydych chi wedi gosod cyfrinair eto neu wedi anghofio amdano, gallwch chi glicio ar y ddolen ‘Forgot password’ ar y sgrin mewngofnodi i’w ailosod.
Os nad ydych chi'n siŵr pa gyfeiriad e-bost i’w ddefnyddio i fewngofnodi, anfonwch e-bost at HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk a gall staff Hwb y Blynyddoedd Cynnar ei wirio i chi.
 Yn dilyn adolygiad diweddar o’r cynllun Lleoedd a Gefnogir, bydd nifer y sesiynau sydd ar gael yn cynyddu o bedwar i bum sesiwn yr wythnos, gyda phob sesiwn yn parhau am 2.5 awr. Bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno ar ddechrau tymor yr haf.
Mae hyn yn golygu y bydd Darparwyr Gofal Plant sydd wedi’u contractio i ddarparu Lleoedd a Gynorthwyir yn cael eu talu £5 yr awr, am hyd at 12.5 awr yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we Lleoedd a Gynorthwyir.
Mae diweddaru eich adnoddau Dewis a gwneud yn siŵr eu bod yn weladwy i deuluoedd yn hynod o bwysig ar gyfer hyrwyddo eich busnes. Dim ond ychydig funudau mae'n ei gymryd ac mae AM DDIM.
Ar hyn o bryd, dim ond 2 adnodd a oedd gennym ni wedi dod i ben, sy’n wych pan rydych chi'n ystyried bod gennym ni dros 500 o adnoddau sy'n gysylltiedig â gofal plant ar Dewis. Mae hwn yn gyflawniad enfawr, ac rydyn ni am ddiolch i chi i gyd am eich cymorth i gyflawni hyn.
Ychydig o nodiadau atgoffa:
- Mae angen i chi wirio eich adnoddau Dewis o leiaf bob 6 mis. Byddwch chi'n cael e-byst i'ch atgoffa i wneud hyn.
- Gallwch chi ddiweddaru'r disgrifiad o'ch adnodd ar y dudalen gyntaf i bersonoli eich gwybodaeth. Fodd bynnag, os ydych chi'n darparu Dechrau’n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir, Addysg y Blynyddoedd Cynnar, y Cynnig Gofal Plant neu leoliad cyfrwng Cymraeg, rydyn ni wedi ychwanegu rhai hashnodau at y disgrifiadau o'ch adnoddau. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio i gynhyrchu rhestrau o ddarparwyr ar gyfer rhieni. Os byddwch chi'n diweddaru'r disgrifiadau o'ch adnoddau, cymerwch ofal a sicrhau eich bod yn gadael y rhain yn eu lle.
#DechraunDegCBSC #CymorthLleoeddCBSC #AddysgGynnarCBSC #CynnigGofalPlantCBSC #DarpariaethGymraegCBSC
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant neu e-bostio HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.
|
 Byddwch chi'n ymwybodol ein bod yn cynnal hapwiriadau ar hyn o bryd i wirio cymhwysedd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.
O ran unrhyw riant y cymeradwywyd ei gyllid ar neu cyn 6 Ionawr 2023 ac sydd wedi gwneud cais drwy wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ac nid drwy'r System Ddigidol Genedlaethol newydd, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni wirio eu bod yn dal yn gymwys i gael cyllid. Rydyn ni wedi anfon e-bost a neges destun at rieni sy'n cynnwys ffurflen y mae angen iddyn nhw ei llenwi.
Er mwyn parhau i gael y cyllid, rhaid iddyn nhw lenwi’r ffurflen hon erbyn 13 Mawrth 2023.
A allwch chi siarad ag unrhyw deuluoedd sy’n hawlio’r Cynnig Gofal Plant ac na wnaethan nhw gais drwy’r system genedlaethol newydd i wirio eu negeseuon e-bost a gwneud yn siŵr eu bod yn ymateb erbyn y dyddiad cau.
 Dyddiad: 30 Mawrth 2023, 10am - 12pm Lleoliad: Zoom Trefnydd: Chwarae Cymru gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Gwent Aneurin Bevan
Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu er mwyn cefnogi chwarae plant. Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu a, chyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae.
Mae cymaint o benderfyniadau polisi yn effeithio ar allu plant i chwarae. Mae digonolrwydd ac ansawdd chwarae yn effeithio hefyd ar ddeilliannau ar gyfer meysydd polisi eraill.
Bydd y weminar hon yn:
- trafod y cyd-destun polisi cenedlaethol a rhyngwladol
- rhannu astudiaethau achos digonolrwydd cyfleoedd chwarae o bob cwr o Went.
Mae’r gwaith yma’n cefnogi uchelgais ‘Creu Gwent Iachach’, ble ‘Yn 2030 mae’r mannau ble rydym yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn chwarae yn ei gwneud yn haws i bobl yn ein cymunedau fyw bywyd iach, boddhaus.’
Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at bobl sy’n gweithio ar lefel strategol mewn meysydd sydd â dylanwad ar chwarae, yn cynnwys iechyd y cyhoedd, addysg, cynllunio, priffyrdd / trafnidiaeth, a hamdden.
Croeso cynnes i Becki Miller sy'n newydd yn ei swydd fel Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
Rôl Becki yw rheoli’r asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a’r cynllun gweithredu ac, wrth wneud hyn, bydd yn hyrwyddo cyfleoedd chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae gennym ni ddyletswydd statudol i gynhyrchu Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae bob 3 blynedd.
Y materion sy’n cael eu hystyried ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yw:
- poblogaeth,
- darparu ar gyfer anghenion amrywiol,
- lle sydd ar gael i blant chwarae,
- mannau agored,
- mannau chwarae dynodedig awyr agored heb staff,
- darpariaeth dan oruchwyliaeth,
- darpariaeth gwaith chwarae,
- gweithgareddau hamdden strwythuredig,
- taliadau am ddarpariaeth chwarae,
- gwybodaeth/cyhoeddusrwydd/digwyddiadau,
- y gweithlu chwarae,
- ymgysylltu a chyfranogiad cymunedol, a
- chwarae o fewn agendâu polisi a gweithredu.
Bydd y cynllun gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn sail i’r gwaith wrth symud ymlaen, ond rydyn ni'n awyddus i glywed am unrhyw awgrymiadau am sut hoffech chi, eich teulu, eich ysgol a'ch cymuned gynorthwyo gyda materion chwarae wrth symud ymlaen. Anfonwch e-bost at Miller1@caerffili.gov.uk.
|
 Gan feddwl am Diwrnod y Llyfr…
Geirfa Cymraeg defnyddiol:
- Darllen - Reading
- Cymeriad - Character
- Llyfrau - Books
Awgrym gweithgaredd:
Gallwch chi wrando ar amrywiaeth o storiau Cymraeg yn cael eu darllen trwy: DechrauDa
Paratoi ar gyfer Pasg 9fed o Ebrill 2023!
Geirfa Cymraeg defnyddiol:
- Pasg Hapus – Happy Easter
- Iesu - Jesus
- Wyau Pasg – Easter eggs
- Croes - Cross
Am syniad?
Cynnwys ‘Pasg Hapus’ i anfon cardiau Pasg dwyieithog adref gyda'r plant.
 Mae ail-lunio yn ffordd o helpu plant i ddysgu sut i ddweud geiriau a brawddegau yn gywir. Mae'n golygu ailadrodd yn gywir geiriau neu ymadroddion y mae plentyn wedi gwneud camgymeriad â nhw.
Mae ail-lunio yn helpu plant i glywed enghraifft gywir o sut mae’r gair neu’r frawddeg yn swnio ond nid yw’n tynnu sylw at eu camgymeriadau.
Gallwch chi ddefnyddio ail-lunio pan fydd y plentyn yn dweud gair ond yn gwneud camgymeriad gyda synau:
Os yw'r plentyn yn dweud...
|
Gallwch chi ddweud...
|
Mae'n tar
|
Ydy, mae'n gar, yn gar cyflym
|
Mae hi'n doeth heddiw
|
Mae hi'n boeth iawn heddiw
|
Deli, plîs
|
Wyt ti eisiau jeli?
|
Gallwch chi hefyd ail-lunio pan fyddan nhw'n gwneud camgymeriad gyda'u geiriau neu ramadeg:
Os yw'r plentyn yn dweud...
|
Gallwch chi ddweud...
|
Edrych, cath!
|
Edrych, ci!
|
Nofion e
|
Nofiodd e yn y pwll
|
Dw i'n eisiau'r afal
|
Ti eisiau'r afal
|
Gall fod yn demtasiwn mawr i gywiro’r plentyn drwy ddweud ‘nid ci yw hi!’ ond mae ail-lunio’n golygu bod eich ymateb yn aros yn gadarnhaol ac yn annog y plentyn i barhau i gyfathrebu â chi.
I gael rhagor o wybodaeth am ail-lunio, ewch i: Recasting: Best way to correct grandchild's words - BBC Tiny Happy People
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|