Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i'r rhai ohonoch chi a fynychodd ein Sesiwn Ymwybyddiaeth. Roedd hi mor braf eich gweld chi i gyd yno a chael y cyfle i sôn am yr holl newidiadau, yn sgil ehangu Dechrau’n Deg yn y Fwrdeistref Sirol.
Bydd dros 50% o’n Bwrdeistref Sirol bellach yn elwa o ofal plant wedi’i ariannu drwy Dechrau’n Deg, felly, os nad ydych chi dan gontract eto i gynnig lleoliadau Dechrau’n Deg yn eich lleoliad, cofrestrwch, a gallwn ni eich cynorthwyo i fodloni’r meini prawf sy’n ofynnol gan y cynllun.
Aeth ceisiadau yn fyw ar 1 Chwefror. Peidiwch ag anghofio, mae bellach adran benodol ar ein gwefan gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, gan gynnwys sut i ddod yn ddarparwr Dechrau'n Deg ac, ar gyfer lleoliadau Dechrau'n Deg presennol, mynediad at y Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol (ICP). Mae hefyd adran i rieni sy'n cynnwys y gwiriwr cod post, dyddiadau allweddol, y ffurflen gais, a rhestr o ddarparwyr gofal plant Dechrau'n Deg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Roedd sôn yn y sesiwn ymwybyddiaeth y byddwn ni'n sefydlu cyfrifon Cyswllt Caerffili i chi gael mynediad at y Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol (ICP), a byddai e-bost yn dod gyda’r manylion hyn. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer lleoedd i ddechrau ar ôl y Pasg yw 24 Chwefror, felly, byddwn ni'n anfon y wybodaeth hon atoch chi ganol mis Chwefror.
Yn ôl yr addewid, isod, mae copi o'r sleidiau mewn fformat PDF. Mae'r cyflwyniad hwn yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg a bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei huwchlwyddo unwaith mae'n cael ei chyfieithu.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu eich Swyddog Gofal Plant.
Mae ein Tîm Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar wedi ehangu’n ddiweddar gan groesawu dau aelod ychwanegol o staff, Kerry-Anne Lewton, Athrawes Ymgynghorol Gofal Plant a Laura Chislett, Arweinydd Ymgynghorol.
Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig i ddatblygu darpariaeth gynhwysol, gan gynnwys arsylwadau plant, strategaethau modelu rôl yn y lleoliad a chyflwyno hyfforddiant i dimau staff, yn ogystal â darparu adnoddau sydd eu hangen ar y plentyn i gael mynediad at yr amgylchedd.
Mae'r pecyn hyfforddi Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi'i gyflwyno'n llwyddiannus i bob arweinydd cynhwysiant o fewn lleoliadau ac, ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio ar becyn pwrpasol i'w gyflwyno i leoliadau unigol. Holwch eich cynghorydd am ragor o wybodaeth.
Fel arall, mae pob aelod o staff gofal plant yn cael eu hannog i ddilyn cwrs hyfforddi rhyngweithiol newydd, sydd wedi cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu pawb sy’n rhan o’r system i ddeall y dyletswyddau deddfwriaethol newydd a hawliau plant, eu rhieni/gofalwyr a phobl ifanc.
Bydd cyfarfod yr arweinwyr cynhwysiant nesaf ar ddydd Llun 6 Mawrth, 4.30pm-5.30pm. Yn y cyfarfod hwn, byddwn ni'n rhannu unrhyw ddiweddariadau ac arfer da ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y prosesau ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol.
Gwahoddiadau i ddod.
Mae modiwlau newydd wedi cael eu datblygu er mwyn cynorthwyo'r holl ymarferwyr gofal plant wrth iddyn nhw weithredu'r Cwricwlwm Newydd i Gymru: Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir - Hwb (llyw.cymru)
Mae'r gyfres ddiweddaraf o fodiwlau yn ategu'r modiwlau a gafodd eu cyhoeddi'n flaenorol ar Hwb: Ystorfa - Hwb (llyw.cymru)
Mae'r modiwlau newydd yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Deall y pum llwybr datblygu ac addysgeg
- Datblygiad sgematig: Patrymau o ymddygiadau ailadroddus sydd i’w gweld yn chwarae plant
- Arweinyddiaeth mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir
Gallwch chi eu gweld yma: Ystorfa - Hwb (llyw.cymru)
Awgrymiadau am weithgareddau:
Pam na wnewch chi chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn y lleoliad i bawb fwynhau?
https://cyw.cymru/en/caru-canu/
Pam na wnewch chi drafod y wisg draddodiadol Gymreig a'i gymharu i beth mae plant yn gwisgo heddiw?
Beth am geisio gwneud cawl gyda'r plant gan ddefnyddio llysiau?
Gallech chi hefyd ddarllen ‘Y Feipen Enfawr’ gan Kaytie Daynes trwy: https://www.youtube.com/watch?v=YQJ35L5_XmA
Peidiwch ag anghofio'r Pice Ar Y Maen. Gallech chi ei wneud allan o does os yn haws i chi?!
Mae plant yn mwynhau dysgu siarad â llawer o wahanol bobl, mewn llawer o sefyllfaoedd gwahanol. Dylech chi gynnwys teulu a ffrindiau mewn gweithgareddau hwyl i greu llawer o sgwrsio i'ch plentyn ymuno ag ef! Beth am gael picnic, ymweld â’r parc neu fynd am dro i sgwrsio am yr hyn rydych chi’n ei weld/ei glywed/ei wneud! Cofiwch:
- Dylech chi fod wyneb yn wyneb wrth siarad â'ch plantos
- Mae’n haws i blentyn clebran a siarad heb ddymi neu botel
- Mwynhewch a siarad am yr hyn sydd o ddiddordeb i'ch plentyn
Awgrymiadau ar gyfer rhyngweithio â phlantos: Cyngor ar gyfer siarad ag wyrion ac wyresau ifanc a chael y sgyrsiau gorau gyda nhw - BBC Tiny Happy People (Saesneg)
Am ragor o wybodaeth am ehangu sgiliau siarad eich plentyn: Sut i helpu eich plentyn bach i siarad - BBC Plant Bach Hapus
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|