PWYSIG – Mae Dechrau'n Deg yn ehangu i 50% o Fwrdeistref Sirol Caerffili – Sesiwn Wybodaeth Bwysig i BOB Darparwr Gofal Plant nas cynhelir

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Arbennig Darparwyr Gofal Plant

Ehangu Dechrau'n Deg – Sesiwn Wybodaeth Bwysig i BOB Darparwr Gofal Plant Nas cynhelir

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae'r ardaloedd sy'n gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg yn ehangu o fis Ebrill 2023. Yng Nghaerffili, bydd bron hanner o'r Fwrdeistref Sirol yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg.

Rydyn ni'n annog pob darparwr gofal plant i fod yn bresennol yn ein sesiwn wybodaeth ar ddydd Llun 23 Ionawr 2023 am 6.30pm trwy Microsoft Teams.

Noder bod y sesiwn hon ar gyfer darparwyr Dechrau'n Deg presennol (y rhai ar y System Brynu Ddeinamig) a'r rhai sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer cynnig lleoedd gofal plant Dechrau'n Deg.

Bydd y sesiwn hon yn mynd i'r afael â'r pynciau canlynol:

  • Trosolwg o Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili
  • System Brynu Ddeinamig ‘Lleoliad Gofal Plant yn y Sector nas cynhelir’ – Sut y byddwch chi'n ymuno â ni i gynnig lleoedd gofal plant Dechrau'n Deg
  • Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg Ebrill 2023 – i gynnwys dros 50% o'r Fwrdeistref Sirol – bydd hwn yn cael ei hysbysebu'n gyhoeddus ar 01/02/2023, mynnwch wybod yma yn gyntaf!
  • Proses Ymgeisio Gofal Plant Dechrau'n Deg Newydd – Ar gyfer rhieni a darparwyr
  • Proses Lleoliad Gofal Plant wedi'i ariannu (Lleoliadau a Gynorthwyir)
  • Cymorth Ychwanegol i blant gydag anghenion sy'n dod i'r amlwg a chymhleth

Cofrestrwch eich presenoldeb yma erbyn dydd Mercher 18 Ionawr 2023. Bydd gwahoddiad i'r cyfarfod yn dilyn.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr