Rydyn ni'n gobeithio cawsoch chi i gyd Nadolig bendigedig a seibiant haeddiannol gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.
Mae gennym ni flwyddyn brysur arall o'n blaenau, gyda nifer o newidiadau, yn enwedig mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg.
Byddwn ni'n eich gwahodd chi i sesiwn ymwybyddiaeth ar 23 Ionawr i drafod y newidiadau mewn perthynas â Dechrau'n Deg a Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd a Gefnogir. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ehangiad mawr o leoedd gofal plant Dechrau'n Deg sydd eu hangen o fis Ebrill 2023 wrth i'r ardaloedd ehangu. Manylion i ddilyn.
Cofiwch, mae eich Swyddog Gofal Plant ar gael os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi gydag unrhyw agwedd ar eich gwasanaeth, a gallwch chi hefyd gysylltu â'n Tîm Hwb Blynyddoedd Cynnar.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chi eto dros y 12 mis nesaf.
Mae'r amserlen hyfforddi ddiweddaraf ar gael nawr i'w gweld ar ein gwefan ni. Cliciwch ar y ddolen isod am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen gais am hyfforddiant.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r camau canlynol erbyn canol dydd ar 13 Ionawr i osgoi colli’r cyfle i gael taliadau:
- Cofrestru’ch lleoliad ar-lein
- Cael eich cymeradwyo gan eich awdurdod lleol
- Gweithredu eich cyfrif ar-lein
- Cadarnhau’r cytundebau ar-lein a gyflwynwyd gan rieni
Os na fydd darparwyr yn gwneud hyn, ni fyddant yn cael taliadau ar gyfer y gofal a ddarperir yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 9 Ionawr. Dysgwch fwy yma: https://www.llyw.cymru/cymorth-i-ddarparwyr-gyda-chynnig-gofal-plant-cymru
Os ydych yn ymwybodol nad yw rhieni sydd eisiau derbyn y Cynnig trwy’ch lleoliad wedi cyflwyno eu cytundeb neu wedi cael eu cytundeb wedi’i gadarnhau gennych, atgoffwch nhw i wneud hynny erbyn canol dydd ar 13 Ionawr. Ni fydd y rhai nad ydynt yn gwneud hyn yn cael eu hariannu am y gofal plant a ddarperir yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 9 Ionawr. Cadarnhewch eich cytundebau yma: https://www.llyw.cymru/darparwyr-yn-rheoli-cytundebau-cynnig-gofal-plant-cymru
“Ychwanega air at beth rwyt ti wedi fy nghlywed i'n dweud”
Mae hon yn strategaeth ddefnyddiol iawn i helpu plant bach i ddechrau uno geiriau gyda'i gilydd. Hyd yn oed os yw eich plentyn wedi gwneud ystum, wedi clebran, neu wedi dweud gair nad oedd yn hollol glir, gallwch chi ddefnyddio'r strategaeth hon i ddangos y geiriau sydd eu hangen y tro nesaf. Gallwch chi ychwanegu llawer o eiriau gwahanol! Dychmygwch fod eich plentyn yn dweud ‘tedi’, beth am ychwanegu
Geiriau labelu
|
Llygaid tedi Hufen iâ i tedi Esgidiau tedi
|
Geiriau gweithredu
|
Mae Tedi yn cysgu Mae Tedi yn feddal Mae Tedi yn wlyb
|
Geiriau teimlad
|
Mae Tedi yn hapus Mae Tedi wedi blino Rydw i'n gyffrous i chwarae gyda tedi
|
Geiriau meddiannol
|
Fy nhedi i yw e Dy dro di gyda tedi Ie, ein tedi ni yw e
|
Geiriau lleoliad
|
Mae tedi o dan y gwely Mae tedi yn y bag Dewch i ni roi tedi ar y gadair
|
Geiriau cymdeithasol
|
Helo tedi Mae tedi yn chwifio, ‘hwyl fawr tedi’ Diolch tedi
|
Mwynhewch ddangos eich plentyn nifer o bethau newydd i'w dweud am ei hoff bethau. Gallwch chi wneud hyn pan fyddwch chi'n chwarae neu yn ystod unrhyw sefyllfa pob dydd!
Am ragor o wybodaeth am ehangu sgiliau siarad eich plentyn: How to help your toddler talk - BBC Tiny Happy People
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://www.llyw.cymru/siarad-gyda-fi
19 Ionawr 2023 (10:00am – 12:00pm)
Tra y gall, ac y bydd plant yn chwarae gyda bron unrhyw beth, mae adnoddau y gallwn eu darparu sy’n hwyluso ac annog chwarae. Gelwir eitemau fel ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, pren a deunyddiau sgrap a ddefnyddir ar gyfer chware, yn rhannau rhydd.
Defnyddir rhannau rhydd yn rheolaidd gan blant mewn lleoliadau chwarae, ysgolion a chanolfannau gofal plant. Mae chwilio am ac ailddefnyddio deunyddiau fel pethau i blant chwarae gyda nhw mewn lleoliadau yn ffordd fach, syml i helpu’r amgylchedd, tra’n gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae a chreadigedd.
Bydd y weminar yn:
- trafod y polisi sy’n cefnogi chwarae rhannau rhydd
- darparu diweddariad ar ymarfer cwmpasu sicrhau adnoddau ar gyfer chwarae a gynhaliwyd gan Chwarae Cymru yn ddiweddar
- archwilio ystod eang o ddatrysiadau sy’n ymateb i gyd-ddeilliannau ar gyfer pobl sy’n rhan o gefnogi chwarae plant a phobl sy’n gweithio i annog ailddefnyddio gwastraff.
Pwy ddylai fynychu?
Anelir y weminar hon at: swyddogion ailgylchu, canolfannau ailgylchu, cwmnïau rheoli gwastraff, gweithwyr chwarae a thimau datblygu chwarae. Bydd Simon Bazley yn ymuno â ni. Mae wedi cynnal ymarfer cwmpasu ar ran Chwarae Cymru ac mae hefyd yn awdur ein taflen wybodaeth Chwilio am ddeunyddiau ar gyfer chwarae plant.
Archebwch eich lle
|