Y Cynnig Gofal Plant i Gymru Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Arbennig Darparwyr Gofal Plant

COFW

Annwyl Ddarparwr Gofal Plant,

Er mwyn derbyn taliadau Cynnig Gofal Plant Cymru am ofal ddarparwyd o 9 Ionawr 2023, bydd angen i chi wedi:

  1. Cofrestru eich lleoliad ar-lein a chael eich cymeradwyo gan eich awdurdod lleol: Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant i gael Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
  2. Actifadu eich cyfrif ar-lein: Actifadu eich lleoliad gofal plant i gael Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
  3. Cadarnhau Cytundebau ar-lein gyflwynwyd gan rieni. I wneud hyn, Mewngofnodwch i’ch cyfrif a checiwch eich dangosfwrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Darparwyr yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Os nad yw cytundebau gyda rhieni newydd wedi'u cadarnhau erbyn hanner dydd, 13 Ionawr 2023, ni fydd y gofal plant a ddarperir yn ystod w/c 9 Ionawr yn cael ei ariannu gan y Cynnig Gofal Plant.

Os ydych yn ymwybodol o rieni sy'n dymuno derbyn y Cynnig Gofal Plant, ond heb gyflwyno Cytundeb ar-lein eto, a wnewch chi eu hatgoffa nhw fod rhaid i Gytundeb gael ei gyflwyno a’i gadarnhau gennych chi.

Er mwyn hawlio taliadau, bydd angen ichi ddilyn y camau syml hyn:

  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif
  • Ewch at eich taflenni amser a nodwch Oriau sy wedi’u Harchebu ac Oriau Gwirioneddol (gweler isod)
  • Gwiriwch a chyflwynwch am dâl
  • Byddwch yn derbyn eich cyfeirnod talu
  • Byddwch yn derbyn eich taliad o fewn 3 diwrnod gwaith (gan ddibynnu ar brosesau eich banc)
  • Byddwch yn derbyn hysbysiad talu drwy e-bost

Oriau Cytundeb yw uchafswm yr oriau y bydd angen ar y rhiant mewn unrhyw wythnos. Bydd y rhain yn cael eu rhag-boblogi i mewn i’r taflenni amser.

Oriau wedi'u Harchebu yw'r oriau y mae'r rhiant yn eu harchebu o wythnos i wythnos o fewn yr uchafswm hwnnw. Bydd lleoliadau yn cael eu talu ar sail yr Oriau wedi’u Harchebu. Er mwyn sicrhau tryloywder, bydd rhieni'n gallu gweld yr Oriau wedi’u Harchebu y mae'r lleoliad yn hawlio amdanynt.

Oriau Gwirioneddol yw'r oriau y mynychodd y plentyn mewn gwirionedd.

Mae canllawiau mwy manwl ar gael yma:

Cymorth i ddarparwyr gyda Chynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Mae fideos hyfforddi ar gael yma: Hyfforddiant a digwyddiadau byw ar wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru i ddarparwyr | LLYW.CYMRU

Noder os gwelwch yn dda, dylid hawlio taliadau drwy hen system yr Awdurdod Lleol am y sawl sy wedi bod yn derbyn y Cynnig ers cyn 9 Ionawr– gweler yr atodedig.

Os oes angen mwy o help arnoch cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich awdurdod lleol.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr