Bwletin Arbennig Darparwyr Gofal Plant - Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar – Cynllun Grantiau Bach 2022-2023

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Arbennig Darparwyr Gofal Plant

Grant

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar – Cynllun Grantiau Bach 2022-2023

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar – Cynllun Grantiau Bach 2022-2023

yn agor ar gyfer Darparwyr Cynnig Gofal Plant yng Nghaerffili o ddydd Llun 5 Rhagfyr 2023.

Mae pob lleoliad sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr yn y sector preifat a gwirfoddol, a lleoliadau a gynhelir sy’n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, ac ati. Gellir hefyd ystyried ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd yn y broses o wneud cais i gofrestru; bydd angen i’r Awdurdod Lleol fod yn fodlon bod y darparwr yn wirioneddol yn y broses o wneud cais i AGC, gan gynnwys y dyddiad y disgwylir cwblhau’r cofrestriad o fewn 6 mis neu cyn diwedd y flwyddyn ariannol (pa un bynnag sydd gyntaf). Rhaid i'r lleoliad gofal plant fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Dylid gwneud pob cais i Awdurdod Lleol ardal cyfeiriad y lleoliad fel y’i cofrestrwyd gydag AGC; ni all darparwr wneud cais i fwy nag un Awdurdod Lleol er y gallent fod yn cymryd plant o fwy nag un ardal Awdurdod Lleol. Os oes gan ddarparwr fwy nag un lleoliad cofrestredig (ym Mwrdeistref Sirol Caerffili) yna byddai angen iddo wneud ceisiadau unigol ar gyfer pob lleoliad i CBSC; ni fyddwch yn gallu trosglwyddo arian rhwng prosiectau.

Darllenwch y ffurflenni cais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais.

Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i blynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk 

Closing date is 31 December 2022. Mae cyllid yn gyfyngedig felly rydym yn eich annog i wneud cais yn gynnar.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr