Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2022

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2022

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Tachwedd, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Not registered

Gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru bellach yn fyw

Aeth gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru yn fyw ar ddydd Llun 7 Tachwedd. 

Os ydych chi'n darparu gofal plant wedi'i ariannu gan y Cynnig Gofal Plant, dylech chi fod wedi'ch cofrestru ar-lein ar gyfer y gwasanaeth. Os nad ydych chi, ni fydd rhieni'n gallu dod o hyd i'ch lleoliad ac ni fyddwch chi'n gallu parhau i ddarparu'r cynnig.

Yn gryno, mae ychydig o gamau i'r broses:

  • Mewngofnodwch i Borth y Llywodraeth a llenwi'r cofrestriad. Os nad oes gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth, cliciwch ar ‘Creu manylion mewngofnodi’ a dilyn y camau.
  • Ar ôl ei gwblhau, bydd angen i ni gymeradwyo'r cofrestriad. Byddwn ni'n eich ffonio chi i gwblhau ychydig o wiriadau diogelwch.
  • Ar ôl ei gymeradwyo, bydd Llywodraeth Cymru yn anfon PIN actifadu atoch chi drwy’r post
  • Pan fydd y PIN yn cyrraedd, cliciwch ar yr un ddolen uchod, mewngofnodi drwy Borth y Llywodraeth a rhoi'r PIN actifadu.
  • Mae eich cofrestriad wedi'i gwblhau, a bydd dangosfwrdd eich Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno i chi.

Cofrestrwch nawr!

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau yn dilyn unrhyw un o'r camau hyn, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar am gymorth a byddwn ni'n gwneud yr hyn a allwn i helpu. Ffoniwch 01443 863232 neu e-bostio HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.

Os ydych chi wedi colli'r hyfforddiant hyd yn hyn neu eisiau gwylio'r recordiad, dyma'r dolenni:

Bydd y drydedd gyfres o ddigwyddiadau byw yn edrych ar sut i hawlio taliadau ac yn cael eu cynnal ar y dyddiadau isod. Does ond angen i ddarparwyr fynychu un o'r tair sesiwn sydd ar gael. 


Ffordd i Ddwyieithrwydd

Billingual

Ydych chi’n edrych i gynyddu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn eich safle?  Hoffech chi gymorth gyda hyn trwy gynllun sydd yn arwain a helpu chi cam wrth gam ac yn annog y defnydd o’r Gymraeg yn fywyd pob dydd?

Mae llefydd ar gael i recriwtio safleoedd newydd ymlaen i’r cynllun Ffordd i Ddwyieithrwydd.  Os bydd eich safle yn elwa o hyn, plîs cadw llygaid mas am hyfforddiant fydd yn cynnig mwy o wybodaeth am y cynllun yn ogystal â chyfle i arwyddo lan.

Gyda’r targedau’r llywodraeth mewn golwg, gallem ni helpu cyrraedd miliwn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sicrhau fod yr Iaith Gymraeg yn fynnu ar gyfer genedlaethau’r dyfodol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rhiannon Tucker. Ffôn: 01443 820913.


Amser Rhigwm Mawr Cymru 2023

Rhyme time 2023
Rhyme Time 2023

Bydd yr Amser Rhigwm Mawr Cymru nesaf yn digwydd rhwng 6–10 Chwefror 2023.

Amser Rhigwm Mawr Cymru yw’r dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon, a drefnir gan BookTrust Cymru fel rhan o’n rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ei nod yw hybu ac annog gweithgareddau rhannu rhigymau hwyliog a phleserus ar gyfer plant ifanc yng Nghymru rhwng 0 a 5 oed, yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n cefnogi sgiliau cyfathrebu a llythrennedd cynnar a chreadigrwydd.

Ym mis Chwefror 2022 cymerodd plant yn y Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfnod Sylfaen ran mewn digwyddiadau Amser Rhigwm Mawr Cymru ledled Cymru ac ar lein.

Neges allweddol eleni fydd ‘Bwrlwm y Rhigwm i Bawb’.

Ymhlith y gweithgareddau bydd:

  • Dosbarthu hyd at 25,000 o sticeri a thystysgrifau Amser Rhigwm Mawr Cymru i ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, canolfannau plant a phartneriaid eraill sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar
  • Gweithgareddau a sesiynau ar thema Amser Rhigwm Mawr Cymru mewn lleoliadau sy’n cymryd rhan
  • Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i hybu Amser Rhigwm Mawr Cymru ac annog teuluoedd i rannu rhigymau a chaneuon
  • Gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus i hybu Amser Rhigwm Mawr Cymru ac annog lleoliad a theuluoedd i gymryd rhan
  • Rhannu’r holl gynnwys newydd gan artistiaid, beirdd a pherfformwyr dawnus.

Ac i gofrestru yn Saesneg ewch i: https://www.booktrust.org.uk/what-we-do/booktrust-cymru/the-big-welsh-rhyme-time/


Siarad gyda fi – Siarada gyda fi am beth gallwn ni ei weld

Talk with me

Mae gwneud sylwadau am bethau y gall eich plentyn eu gweld yn ffordd wych o'i helpu i ddysgu siarad. Gallwch chi wneud hyn mewn arferion pob dydd:

  • Wrth gerdded i’r siop, ‘ci yw e, mae’n gi mawr blewog’
  • Mewn archfarchnad ‘mae angen i ni brynu bananas, mae’r bananas yn drwm!’
  • Yn y parc, ‘rydych chi’n dringo’n uchel’, ‘mae’r ferch yn neidio’.
  • Wrth roi’r dillad i ffwrdd gyda’ch gilydd, ‘mae gen i hosan streipïog’, ‘mae’r dillad yn wlyb’.
  • Gwneud cinio gyda’ch gilydd ‘gadewch i ni arllwys y llaeth’, ‘waw, dyna foron mawr’.

Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau gwneud hyn! Mae clywed yr un geiriau drosodd a throsodd yn helpu plant i’w dysgu nhw, felly efallai byddwch chi’n siarad am hoff bethau eich plant yn rheolaidd. Gwnewch sylwad ac aros rhag ofn eu bod nhw eisiau ymateb. Os ydyn nhw'n rhoi cynnig arni hi, dywedwch yn ôl wrthyn nhw. Os ydyn nhw’n dweud ‘nana’ gallwch chi ddweud ‘ie, banana yw hi’. Mwynhewch yn rhannu'r geiriau i gyd am y pethau maen nhw'n eu gweld bob dydd!

Am ragor o wybodaeth ar sut i ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi

Lawrlwythwch y poster Dewch i Siarad â'ch Babi i'w arddangos yn eich lleoliad (PDF)


Ewch i’n gwefan newydd

Childcare provider website

Cofiwch gael golwg ar ein gwefan newydd. Mae ganddi lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd sydd â phlant rhwng geni a 7 oed. www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk  

Mae yna adran benodedig i ddarparwyr gofal plant lle gallwch chi hefyd ddarllen unrhyw e-fwletin blaenorol y byddech chi wedi eu colli. Gadewch i ni wybod sut y byddech chi’n gwella hyn.


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr