Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2022

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2022

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Medi, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Welcome back

Croeso yn ôl, bawb. Gobeithio eich bod chi wedi cael haf gwych ac wedi mwynhau amser rhydd haeddiannol.

Unwaith eto, mae gennym ni dymor prysur o’n blaenau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at symud yn ôl i’r “normal” ôl-Covid newydd.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd sawl newid i’n gwasanaeth sy’n effeithio’n uniongyrchol arnoch chi fel darparwyr gofal plant. Fel arfer, byddwn ni’n defnyddio'r e-fwletin hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth sydd angen i chi ei wybod, felly, mae'n bwysig eich bod chi’n treulio ychydig o amser yn ei ddarllen pan ddaw drwyddo. Ein nod ni yw cael y bwletin allan i chi ar ddechrau pob mis, felly, cadwch olwg amdano.


Datblygu’r gweithlu – amserlen hyfforddi

Training

Mae'r amserlen hyfforddi ddiweddaraf ar gael nawr i'w gweld ar ein gwefan ni. Cliciwch ar y ddolen isod am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen gais am hyfforddiant.

Read more

Blynyddoedd Cynnar Cymru - Datblygu’r gweithlu

Nod Blynyddoedd Cynnar Cymru yw cefnogi’r gweithlu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen er mwyn datblygu gyrfa ym myd gofal plant a chael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth trwy gyfleoedd datblygu proffesiynol o safon. Visit their website for further details and their latest training planner.


Cynnig Gofal Plant Cymru Gwasanaeth Cenedlaethol Digidol

COFW

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cenedlaethol newydd yn yr hydref. Os ydych chi’n darparu’r Cynnig, mae rhai pethau y bydd angen i chi eu gwneud i baratoi.

Gwyliwch y fideo hwn i gael gwybod mwy.

Arddangosiadau ar gyfer darparwyr gofal plant

Mae sesiynau yn cael eu cynnal ym mis Medi trwy Microsoft Teams i ddangos gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru i ddarparwyr gofal plant.

Ymunwch ag un o’r sesiynau canlynol i ddysgu sut i gofrestru fel darparwr gofal plant ar wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru:

·         5 Medi 18:30 tan 20:00 (sesiwn cyfrwng Saesneg)

·         6 Medi 10:00 tan 11:30 (sesiwn cyfrwng Saesneg)

·         6 Sept 18:30 tan 20:00 (sesiwn cyfrwng Cymraeg)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:  

https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-gwasanaeth-cenedlaethol-digidol?_ga=2.208819730.1413300012.1660567645-646438607.1658151215#section-102431


Diweddariad haf o hwyl

Summer of fun

Grantiau

Fel rhan o Haf o Hwyl 2022, rydyn ni’n falch o rannu gyda chi ein bod ni wedi dyfarnu grant i gyfanswm o 44 o ddarparwyr fel eu bod nhw’n gallu cefnogi’r plant yn eu lleoliadau nhw i fwynhau haf o hwyl, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol yn ystod cyfnod yr haf.

Chwarae yn y Parc

Fel rhan o ymgyrch Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru yng Nghaerffili, fe wnaethom gyflwyno sesiynau chwarae mynediad agored, am ddim yn y parc i blant a theuluoedd ddod i chwarae gyda’i gilydd. Fe wnaethom gyflwyno sesiynau trwy gydol gwyliau'r haf, mewn parciau amrywiol ledled yr ardal. Gwnaethom ddarparu gweithgareddau syml eu natur gyda'r bwriad y gallent gael eu hailadrodd gan deuluoedd gartref; ein nod oedd I sicrhau bod gweithgareddau'n gynhwysol ar gyfer pob angen.

Roedd ymhell dros 1000 o blant ac oedolion a fynychodd bob un o'r chwe sesiwn Chwarae yn y Parc. Manteisiodd llawer o deuluoedd ar y cyfle i rannu eu diolchgarwch a’u cyffro trwy gydol pob dydd, ac roedd y plant yn arbennig o hapus, ymgysylltiol, chwareus ac yn arbennig o gyffrous i roi cynnig ar weithgareddau chwarae blêr gartref!

Roedd cyfle hefyd i rwydweithio gyda llawer o ddarparwyr gofal plant a oedd yn wych ac yn graff. Gobeithio bod pawb wedi cael hwyl yn chwarae yn y parc!


Dysgu proffesiynol perthnasol i'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Recruitment

Byddwch chi’n ymwybodol, o fwletinau blaenorol, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ailddatblygu rhai adnoddau hyfforddi i gefnogi gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, bydden ni’n eich annog chi i edrych ar y rhain.

Parhewch i ddefnyddio'r pob modiwlau i’ch cynorthwyo wrth ichi baratoi ar gyfer y tymor newydd.  Mae'r modiwlau'n hyn yn cynnwys meysydd canlynol: datblygiad plant, dysgu yn yr awyr agored, pontio, arsylwi, chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae a dysgu dilys a phwrpasol.

Mae modiwlau newydd wedi eu datblygu i gefnogi ymarferwyr wrth iddynt baratoi i roi’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar waith.

Mae’r gyfres newydd o fodiwlau yn cyd-fynd â’r modiwlau a gyhoeddwyd ar Hwb, ond maent yn unigryw yn eu ffocws ar leoliadau a ariennir nas cynhelir.

Mae’r modiwl cyntaf, sef ‘Datblygiad Sgematig: Patrymau o ymddygiadau ailadroddus sydd I’w gweld yn chwarae plant’ bellach ar gael ar Hwb.

Bydd y modiwl hwn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ddatblygiad sgematig a sut y gall amgylcheddau effeithiol hwyluso dealltwriaeth plant. Bydd hefyd yn eich cefnogi i fyfyrio ar eich ymarfer ac ystyried sut y gall darpariaeth effeithiol effeithio ar ddysgu a datblygiad plant.

Bydd tri modiwl newydd yn cael eu cyhoeddi.

  • Deall Cwricwlwm i Gymru a phroses datblygu Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
  • Deall y pum llwybr datblygiadol ac addysgeg.
  • Arweinyddiaeth mewn lleoliad meithrin nas cynhelir

Gellir cael mynediad at yr holl fodiwlau o’r un ddolen â’r Modiwl datblygiad sgematig a rhown wybod ichi pan fydd y rhain ar gael hefyd. 


Ydych chi am ddarparu Lleoedd Dechrau'n Deg, Addysg Blynyddoedd Cynnar a/neu Leoedd a Gefnogir ac a Gynorthwyir?

General

Rydym ar fin lansio ein trefniant ariannu newydd (System Prynu Deinamig - SPD) ar gyfer cyflwyno Lleoedd Dechrau'n Deg, Addysg Blynyddoedd Cynnar a/neu Leoedd a Gefnogir ac a Gynorthwyir, ac ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg wrth iddo symud tuag at gynnig cyffredinol ar gyfer pob plentyn 2 oed.

Daw'r Fframwaith presennol ar gyfer Darparu Lleoedd Gofal Plant i ben ym mis Mawrth 2023, felly bydd unrhyw leoliad gofal plant, gan gynnwys y rhai sydd ar y Fframwaith presennol ar hyn o bryd, yn gallu gwneud cais i’r SPD newydd pan fydd yn mynd yn fyw'r wythnos nesaf.

Peidiwch â phoeni os byddwch yn colli'r dyddiad cau gan y bydd cyfleoedd i wneud cais yn parhau ar agor drwy gydol yr SPD tan 2026.

Byddwch i gyd yn falch o glywed ein bod wedi ceisio gwneud y broses o wneud cais i’r SDP mor syml â phosibl i'ch annog i ymuno â ni yn y fenter gyffrous hon.

Gellir cael gwybodaeth a mwy o fanylion ar wefan GwerthwchiGymru o ddydd 5 Medi 2022.


Siarad gyda fi – Gadewch i ni siarad a chwarae bob dydd

Let's talk

Oeddech chi'n gwybod, os yw plentyn yn dewis y gweithgaredd, mae'n debygol o aros yn hirach. Does dim rhaid i chwarae gynnwys teganau. Mae unrhyw beth y mae eich plentyn chi yn ei fwynhau yn cyfrif fel chwarae – hyd yn oed os yw’n drefn ddyddiol, helpu gyda swydd neu amser bath. Er mwyn siarad a chwarae bob dydd, beth am:

  • Gadael i’ch plentyn chi ddewis beth i’w wneud gyda’ch gilydd
  • Dweud y gair am yr hyn y gall eich plentyn chi ei weld neu wneud
  • Copio beth mae e’n ei wneud gyda theganau er mwyn cael ei sylw

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Ewch i’n gwefan newydd

Cofiwch gael golwg ar ein gwefan newydd. Mae ganddi lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd sydd â phlant rhwng geni a 7 oed. www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk  

Mae yna adran benodedig i ddarparwyr gofal plant lle gallwch chi hefyd ddarllen unrhyw e-fwletin blaenorol y byddech chi wedi eu colli. Gadewch i ni wybod sut y byddech chi’n gwella hyn.


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr