Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2022

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Gorffennaf 2022

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Awst, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Ymgynghori: Newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

NMS

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Mae’r ddogfen ymgynghori a’r dogfennau atodol yn esbonio’r newidiadau hyn.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 28 Mehefin tan 20 Medi 2022.

dweud eich dweud

Digwyddiadau diwrnod chwarae

Playdays

Diwrnod Chwarae yw'r dathliad blynyddol o hawl plant i chware ac fe'i cydlynir gan Chwarae Cymru, Play EnglandPlay Scotland a PlayBoard Northern Ireland.

Cynhelir Diwrnod Chwarae 2022 ar Ddydd Mercher 3 Awst.

I ddathlu, rydyn ni wedi trefnu sawl digwyddiad ‘Chwarae yn y parc’. Dewch draw i ddigwyddiad chwarae yn y parc, mynediad agored, am ddim i rieni a phlant chwarae gyda’i gilydd.

Amseroedd: 10am tan 2pm

  • Dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022 – Parc Rhymni, y tu ôl i’r Stryd Fawr, Rhymni NP22 5NB
  • Dydd Mercher, 3 Awst 2022 – Parc Morgan Jones (Bydd gwahanol ddigwyddiadau i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael eu cynnal yma ar y diwrnod hwn!), y tu ôl i Nantgarw Road, Caerffili CF83 1AP
  • Dydd Mercher, 10 Awst 2022 – Parc Ystrad Mynach – gyferbyn â’r Orsaf Heddlu, Caerphilly Road, Ystrad Mynach CF82 7EP
  • Dydd Mercher, 17 Awst 2022 – Parc Bargod, yn agos i Moorland Road, Bargod CF81 8PL
  • Dydd Mercher, 24 Awst 2022 – Parc Waunfawr, Waunfawr Park Road, Crosskeys NP11 7PF
  • Dydd Mercher, 31 Awst 2022 – Maes y Sioe, Coed Duon, Twynyffald Road, Coed Duon NP12 1HZ

Bydd celf a chrefft, chwarae anniben, gemau awyr agored, ac ardal chwarae i blant bach a babanod. Bydd gweithgareddau'n ceisio bod yn gynhwysol ar gyfer pob angen.

I gael rhagor o wybodaeth am bob parc a'r cyfleusterau, ewch i: https://greenspacescaerphilly.co.uk/cy/

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Thîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu anfon e-bost i HwbyBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.

Gwiriwch y wefan am unrhyw newidiadau i’r amserlen hon


Digital skills

Haf o Hwyl – grant bach i ddarparwyr gofal plant i gefnogi chwarae ar gyfer plant yn eu gofal

Summer of fun

Mae'r Ffurflen Gais Grant Haf o Hwyl newydd ynghlwm. Y dyddiad cau yw Dydd Llun 15fed Awst 2022. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

Ffurflen Gais Grant Haf o Hwyl (PDF)

Ar gyfer ymholiadau anfonwch e-bost i Hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk.


Cyfleoedd newydd i ddarparu Dechrau'n Deg a lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar

Puppet

Cyn bo hir byddwn ni’n agor y Fframwaith ar gyfer darparwyr ychwanegol i ymuno â ni i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg ac/neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar i ateb y galw cynyddol. Byddwn ni'n ehangu Dechrau'n Deg ychydig ym mis Medi, ac rydyn ni wedi nodi rhai bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n Fframwaith rhagorol, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ar wefan GwerthwchiGymru i gael yr hysbysiad pan fydd yn mynd yn fyw.

Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, felly cadwch lygad am e-fwletin arbennig yn eich mewnflwch dros y diwrnodau nesaf.


Siarad gyda fi – Cân fach dwt wrth newid fy nghlwt!

Sing with me
Sing with me

Gall caneuon a rhigymau helpu’r rhai bychain i ddysgu darllen yn y dyfodol. Weithiau mae gan blant hoff rigwm ac eisiau i chi ei ganu drosodd a throsodd, mae hynny’n iawn! Beth am ei wneud yn fwy o hwyl gan:

  • Ychwanegu symudiadau iddyn nhw gael ymuno.
  • Oedi ar y rhan gyffrous i weld a ydyn nhw’n cyffroi, er enghraifft ‘Troi ein dwylo, Troi ein dwylo, Troi a throi a throi…’.
  • Eistedd yn wynebu eich gilydd wrth ganu fel eich bod chi’n gallu gweld wynebau eich gilydd a dangos y geiriau a’r symudiadau’n glir i’r un bach.

Am ragor o wybodaeth am gyfathrebu â phlant bach, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Newyddion eraill…

  • Rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio ar amserlen hyfforddi misoedd Medi, Hydref a Thachwedd a byddwn ni’n anfon yr holl fanylion am hyn atoch chi yn ystod mis Awst.
  • Yn anffodus, rydyn ni wedi gorfod canslo ein sesiynau hyfforddi Cymorth Cyntaf Pediatrig gan nad yw’n darparwr hyfforddiant ni’n gweithredu mwyach. Rydyn ni wrthi’n ceisio darganfod darparwr arall. Bydd unrhyw ddarparwr sydd wedi talu am yr hyfforddiant a heb ei gael yn cael ad-daliad.
  • Mae Camau yn cynnig ychydig o hyfforddiant Cymraeg lefel mynediad a allai fod o ddiddordeb i chi.

Ewch i’n gwefan newydd

Cofiwch gael golwg ar ein gwefan newydd. Mae ganddi lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd sydd â phlant rhwng geni a 7 oed. www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk  

Mae yna adran benodedig i ddarparwyr gofal plant lle gallwch chi hefyd ddarllen unrhyw e-fwletin blaenorol y byddech chi wedi eu colli. Gadewch i ni wybod sut y byddech chi’n gwella hyn.


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr