Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Gorffennaf 2022

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Gorffennaf 2022

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Gorffennaf, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Haf o Hwyl – grant bach i ddarparwyr gofal plant i gefnogi chwarae ar gyfer plant yn eu gofal

Summer of fun

Mae'r Ffurflen Gais Grant Haf o Hwyl newydd ynghlwm. Y dyddiad cau yw Dydd Llun 15fed Awst 2022. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

Ffurflen Gais Grant Haf o Hwyl (PDF)

Ar gyfer ymholiadau anfonwch e-bost i earlyyearshub@caerphilly.gov.uk.


Gall batris botwm ladd – helpwch ni i gadw babanod, plant bach a phlant cyn oed ysgol yn ddiogel

batteries

Mae’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant (CAPT) a Chymdeithas Batris Cludadwy Prydain ac Iwerddon (BIPBA) yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth a gwybodaeth ar y cyd am ddiogelwch batris botwm.  Mae'r ymgyrch wedi'i chynllunio er mwyn darparu gwybodaeth ac arweiniad arbenigol i rieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd am sut i drin batris botwm yn ddiogel.

Yn ystod y 10 mis diwethaf, mae dau blentyn wedi marw ar ôl llyncu batri botwm. Mae llawer mwy wedi dioddef anafiadau sydd wedi newid eu bywydau nhw.

Mae meddygon yn poeni fwyfwy. Ond nid yw llawer o bobl yn gwybod, naill ai am beryglon batris botwm neu'r ystod eang o gynhyrchion sy'n cael eu pweru gan fatris botwm yn ein cartrefi ni.

Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau argraffadwy y gallwch chi eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac maen nhw'n gallu cael eu defnyddio yn eich lleoliadau chi i godi ymwybyddiaeth.


Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur

Healthy snack

Mae ymarferwyr gofal plant a lleoliadau'r blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at les plant sy'n tyfu. Mae amser cael byrbrydau'n gyfle pwysig i blant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a rhifedd.

Mae Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur yn cydnabod ac yn dathlu'r ddarpariaeth o fyrbrydau o safon mewn lleoliadau.

Mae'n bleser gennym ni gyhoeddi, ers lansio'r Wobr Byrbrydau Iach Safonol Aur newydd ym mis Gorffennaf 2021, bod 31 o leoliadau gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi llwyddo i fodloni'r meini prawf ac wedi cyflawni'r wobr.

Read more

Rydw i'n gallu dysgu ein hiaith a'n diwylliant ni gennych chi!

Billingual
QR

Nid yw byth yn rhy gynnar i ddefnyddio mwy nag un iaith gyda’ch un bach chi. O enedigaeth, mae plant yn gallu dysgu mwy nag un iaith. Y pethau pwysicaf yw:

  • Defnyddio'r iaith rydych chi'n fwyaf cyfforddus â hi
  • Defnyddio ieithoedd mewn ffordd sy'n teimlo'n naturiol i chi
  • Rhoi llawer o gyfleoedd i glywed y ddwy iaith
  • Cael hwyl yn dysgu gyda'ch gilydd

For more information about bilingualism visit https://babylab.brookes.ac.uk/bilingualism

I gael rhagor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU.

Hyfforddiant AM DDIM: Gallwch chi gael mynediad at gwrs byr ar-lein rhad ac am ddim i ddysgu am ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu plant, sut i gynorthwyo'r sgiliau hyn mewn lleoliad a sut i adnabod plant a allai fod yn cael trafferth datblygu'r sgiliau pwysig hyn. I gael mynediad, ewch i https://ican.org.uk/i-cans-talking-point/cpd-short-course/.


Diolch

Dioch

Wrth i ni ddod at ddiwedd blwyddyn academaidd arall, hoffai Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili gydnabod a dweud diolch i chi i gyd am eich ymrwymiad parhaus chi a'ch cefnogaeth chi wrth ddarparu gwasanaeth gofal plant o safon i deuluoedd Bwrdeistref Sirol Caerffili. Unwaith eto, mae eleni wedi bod yn heriol ar adegau, ond rydw i'n meddwl y byddech chi i gyd yn cytuno ei fod wedi bod yn hynod werth chweil!

Os ydych chi’n cynnig gofal plant yn ystod y tymor yn unig, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael gwyliau haf hamddenol achos rydych chi'n haeddu hynny, ac i’r gweddill sy’n parhau i gynnig gofal plant dros yr haf, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau rhywfaint o amser i ffwrdd sy’n heulog ac yn braf achos rydych chi'n haeddu hynny hefyd!  


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr