Ar ôl misoedd lawer o gynllunio a dylunio gan y tîm, rydyn ni'n gyffrous i gyhoeddi bod ein gwefan newydd ni bellach yn fyw. Gobeithiwn ni y byddwch chi'n dwlu arni gymaint ag rydyn ni.
Gallwch chi ymweld â'r wefan yn www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk/. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth a chyngor am y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd â phlant o enedigaeth hyd at 7 oed.
Mae yna hefyd adran benodol i ddarparu gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant presennol a darpar ddarparwyr gofal plant gan gynnwys gweithio ym maes gofal plant, y cymorth rydyn ni'n ei ddarparu, hyfforddiant a datblygu proffesiynol, a mwy. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw syniadau ar sut i wella hyn.
Mae’r wefan wedi’i dylunio i fod yn hawdd i'w defnyddio ar ffonau symudol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch i’r rhai sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i ddefnyddio Saesneg clir ar y wefan i gyd fel bod ymwelwyr yn gallu deall y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yn hawdd a dod o hyd i wybodaeth yn gyflym.
Wrth i'n gwasanaeth ni ddatblygu a thyfu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, byddwn ni'n parhau i ddiweddaru ac ychwanegu gwybodaeth i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion teuluoedd.
Am unrhyw gwestiynau neu wybodaeth am ein gwasanaethau ni, cysylltwch â GGiD@caerffili.gov.uk.
Mae gan Ysgol Idris Davies gyfleuster Gofal Plant ar safle’r ysgol i gefnogi’r gwaith o ddarparu lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg, cofleidiol, ac o bosibl ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau i blant a theuluoedd yr ardal leol.
Rydym yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddatblygu’r ddarpariaeth. Rydym ar agor i ddarparwyr presennol sydd am ddatblygu darpariaethau lloeren, darparwyr newydd ac i warchodwyr plant sydd am gofrestri fel darparwr sefydliad grŵp i blant 2 oed ac i fyny,
Rydym yn rhagweld y bydd y darparwr wedi ei gofrestri yn barod ar gyfer dosbarthiad o fis Medi 2022. Os gwelwch yn dda galwch Fiona Santos am ragor o wybodaeth ar 07766 303557 nei ebost willic23@caerphilly.gov.uk
Dyddiad cau 22 Mehefin 2022.
Gweminar chwarae ar gyfer iechyd a lles
30 Mehefin 2022 (10:00am - 12:30pm)
Ar-lein dros Zoom
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod chwarae plant, yn enwedig pan nad yw wedi ei or-strwythuro na’i or-gyfarwyddo gan oedolion, yn cynnig llu o fuddiannau i blant o bob oed. Mae chwarae’n helpu plant i ddatblygu gwytnwch a sgiliau sy’n fuddiol wedi tyfu’n oedolyn. Mae’r buddiannau uniongyrchol i les corfforol ac emosiynol plant yr un cyn bwysiced.
Bydd y weminar yn:
- Tynnu sylw at y ffyrdd y gall chwarae wella deilliannau iechyd ar gyfer plant
- Archwilio sut y gallem gefnogi mwy o blant i chwarae, a hynny’n fwy aml
Digwyddiad RHAD AC AM DDIM
Mae’r gwaith yma’n cefnogi uchelgais ‘Creu Gwent Iachach’, ble ‘Yn 2030 mae’r mannau lle’r ydym yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn chwarae yn ei gwneud yn haws i bobl yn ein cymunedau fyw bywyd iach, boddhaus.’
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei anelu at ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd yn ogystal â phobl sy’n gweithredu ar lefel strategol mewn meysydd pynciol sy’n dylanwadu ar chwarae, yn cynnwys Addysg, Cynllunio, Ffyrdd / Trafnidiaeth a Hamdden. Mae’r seminar ar gyfer pobl sy’n gweithio ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
I archebu lle: www.chwaraecymru.org.uk/cym/digwyddiadau
Gweminar partneriaeth, a drosglwyddir gan Chwarae Cymru gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Gwent Aneurin Bevan
Offeryn sicrhau ansawdd yw Safon Ansawdd Caerffili sy’n sicrhau bod lleoliadau’n darparu gwasanaeth sy’n ychwanegol at y gofynion mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi'u nodi a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae Blynyddoedd Cynnar Caerffili wedi diweddaru Safon Ansawdd Caerffili yn ddiweddar i sicrhau ei bod yn unol â'r rheoliadau a'r arferion cyfredol diweddaraf.
Mae unrhyw leoliad gofal plant yn gallu cofrestru i ymgymryd â Safon Ansawdd Caerffili, fodd bynnag, bydd yn ofynnol i bob lleoliad sydd wedi'i gontractio i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gael Safon Ansawdd Caerffili cyfredol yn ei lle o leiaf. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau sy’n cynnig lleoliadau Dechrau’n Deg, darparu Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Cynnig Gofal Plant Cymru a lleoedd mewn Lleoliadau sydd â Chymorth.
I ddechrau, bydd eich Swyddog Gofal Plant chi yn cysylltu â chi’n fuan neu gallwch chi gysylltu ag ef yn uniongyrchol i fynegi eich diddordeb chi.
Ar hyn o bryd, mae llawer o faterion yn ymwneud â denu gweithwyr i'r gweithlu Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar a'u recriwtio a'u cadw nhw. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol (gan gynnwys Caerffili) a sefydliadau i ganolbwyntio ar wneud y mwyaf o'r cymorth sydd ar gael i'r sector ac i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Mae dogfen gymorth wedi’i chynhyrchu sy'n gallu bod yn ddefnyddiol i chi ar yr adeg heriol hon:
220513-Trosolwg-or-cymorth-sydd-ar-gael-gofal-plant-a-gwaith-chwarae-cy.pdf (arolygiaethgofal.cymru)
Y cam nesaf i Lywodraeth Cymru yw adolygu ac adnewyddu cynllun gweithlu 10 mlynedd Chwarae Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar a fydd yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae hyfforddiant Dewis ar gael nawr
Rydyn ni'n cydnabod bod rhai lleoliadau gofal plant yn cael anawsterau wrth ddiweddaru eu gwybodaeth nhw ar Dewis.
Felly, byddwn ni'n cynnal sesiwn hyfforddi ddydd Mercher 29 Mehefin 2022, 6-8pm.
Cliciwch yma i gadw eich lle chi
|
Gallwch chi helpu’ch plentyn bach chi i ddechrau ymddiddori mewn llyfrau unrhyw bryd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n barod i ddarllen neu edrych ar stori gyfan eto. Yn lle darllen y geiriau, beth am geisio:
Dod o hyd i lyfr am rywbeth maen nhw'n ei hoffi yn barod. Er enghraifft, rhowch lyfr am gludiant ger eu ceir tegan rhag ofn y gallai fod o ddiddordeb iddyn nhw.
Sôn am y lluniau. Beth bynnag mae'ch un bach chi'n edrych arno ar y dudalen, dywedwch wrthyn nhw beth ydyw.
Gwnewch eich llyfr eich hun am eich plentyn chi gan ddefnyddio lluniau neu luniadau. Gallai gweld eu hunain a'r bobl y maen nhw'n eu hadnabod mewn llyfr cartref ei gwneud hi'n fwy cyffrous i edrych ar y stori.
Defnyddiwch leisiau doniol ar gyfer cymeriadau i wneud y stori’n llawn hwyl a chyffrous.
I gael rhagor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU.
|
|