Fel rhan o'n hymgynghoriad ni ynghylch ein Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 – 2027, hoffem ni glywed eich barn trwy ein dogfen ymgynghori.
Caerffili - Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 9fed o Fai 2022-5ed o Fehefin 2022.
Llenwch y ffurflen ymgynghori, a'i dychwelyd hi i blynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk.
Hoffem ni ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth i'r broses newydd ar gyfer cadw lle ar gyrsiau hyfforddi. Rydyn ni wedi prosesu dros 250 o geisiadau am hyfforddiant ac mae 30 o daliadau ar-lein wedi dod i law, sy'n wych.
Mae rhai o'r cyrsiau bellach yn llawn, ond, mae rhai lleoedd ar gael o hyd os hoffech chi gadw lle.
- Anghenion Dysgu Ychwanegol – 6–8pm (6 sesiwn) – 15, 16, 22, 23, 29 a 30 Mehefin 2022
- Cyflwyniad i Reoli Ymddygiad – (CWRS YN LLAWN)
- Cerddoriaeth a Symudiadau Ffa-La-La – 18 Mehefin neu 2 Gorffennaf, 9.30am–2.30pm
- Cymorth Cyntaf Pediatrig – 16 Gorffennaf, 9.30am–12.30pm
- Cymorth Cyntaf Pediatrig – 11 Mehefin neu 16 Gorffennaf, 1pm–4pm
- Hyfforddiant Person Arweiniol Diogelu Plant: Haen 2 – 9 Gorffennaf, 10am–2pm
- Deall Diogelu Plant ac Oedolion – 15 Mehefin, 6–8pm
- Offeryn Sgrinio WellComm – 14 Mehefin, 6.30pm–7.30pm
Gallwch chi wneud cais am le drwy ddefnyddio'r Ffurflen Cais am Hyfforddiant.
Pan fyddwn ni wedi prosesu eich cais, byddwn ni'n cadarnhau'r trefniant drwy anfon e-bost i'r cyfeiriadau e-bost wedi eu darparu ar y ffurflen gais.
Cofiwch edrych yn eich ffolder sbam neu e-bost sothach i wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli unrhyw negeseuon e-bost pwysig.
Os ydych chi wedi cael lle ar y cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig, cadwch lygad am yr e-bost sy'n gofyn am daliad. Mae angen hyn cyn dechrau'r hyfforddiant.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus.
Hoffech chi ddysgu mwy am y cwricwlwm i Gymru? Ydach chi'n gweithio mewn lleoliad gofal plant yn un o'r ardaloedd canlynol? Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, neu Torfaen. A ydych yn gweithio mewn lleoliad gofal plant nad yw’n cael ei ariannu i gyflwyno darpariaeth Feithrin Cyfnod Sylfaen? Os yw hyn yn berthnasol i chi yna ymunwch ag un o’r sesiynau rydym yn eu cynnal rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf i’ch cefnogi i ddeall egwyddorion y cwricwlwm i Gymru a beth mae hyn yn ei olygu i’ch lleoliad a’ch ymarfer.
Am fanylion pellach gweler Gweminarau yng Nghymru ac Digwyddiadau yng Nghymru, i archebu lle neu i ddysgu mwy e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk
Rydyn ni eisiau eich atgoffa chi o bwysigrwydd diweddaru eich cofnod ar Dewis. Eich cyfrifoldeb chi yw hyn.
Ar hyn o bryd, mae gennym ni 93 o adnoddau wedi dod i ben yn Dewis, sy'n golygu nad yw'r rhain yn ymddangos ar wefan Dewis ac ni all teuluoedd sy'n chwilio am y gwasanaethau hyn ddod o hyd iddyn nhw.
Gwiriwch a yw'ch adnoddau yn weladwy ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Cofiwch, mae angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Dewis o leiaf bob 6 mis i adolygu eich adnodd/adnoddau.
Ar ôl adolygu, rhaid i chi newid y dyddiad adolygu nesaf ar y dudalen cyhoeddi a thicio'r blwch i nodi bod yr adnodd yn barod i'w gyhoeddi. Nid yw rhai darparwyr yn ticio'r blwch hwn, sy'n golygu nad yw'n ymddangos i ni i gyhoeddi'r adnodd.
Cofiwch wirio POB adnodd sydd gennych chi. Er enghraifft, os ydych chi'n feithrinfa ddydd sy'n darparu gofal dydd, clwb gwyliau, clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol, bydd gennych chi 4 adnodd i'w gwirio.
Mae Dewis yn anfon e-byst atgoffa yn ystod yr wythnosau cyn i gofnod ddod i ben. Mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd sylw o'r e-byst hyn ac yn mewngofnodi i Dewis i ddiweddaru eich adnoddau.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda hyn, mae cymorth ar gael – cysylltwch â Hyb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu anfon e-bost i GGiD@caerffili.gov.uk
|
Mae gan Ysgol fabanod Bedwas bwthyn gofal plant newydd ei ddatblygu ar safle’r ysgol i gefnogi dosbarthiad lleoedd gofal plant amlapio, ar ôl ysgol a gwyliau ysgol i blant a theuluoedd yn yr ardal leol.
Rydym yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddatblygu’r ddarpariaeth. Rydym ar agor i ddarparwyr presennol sydd am ddatblygu darpariaethau lloeren, darparwyr newydd ac i warchodwyr plant sydd am gofrestri fel darparwr sefydliad grŵp i blant 2 oed ac i fyny,
Rydym yn rhagweld y bydd y darparwr wedi ei gofrestri yn barod ar gyfer dosbarthiad o fis Medi 2022. Os gwelwch yn dda galwch Fiona Santos am ragor o wybodaeth ar 07810 438505 nei ebost santof@caerffili.gov.uk. Dyddiad cau Mai 25 2022.
Rydym yn chwilio am deuluoedd sydd eisoes wedi elwa o Gynnig Gofal Plant Cymru sy’n fodlon rhannu eu stori fel y gallwn barhau i roi’r si ar led am y Cynnig.
Ydych chi’n gwybod am rywun?
Os ydych chi’n gwybod am deulu sy’n derbyn y Cynnig ar hyn o bryd neu wedi’i dderbyn yn ddiweddar, ac yn credu y byddent yn fodlon rhannu eu stori, hoffem glywed gennych.
Rydym eisiau cael cymaint o amrywiaeth â phosibl, fel ein bod yn rhannu straeon o bob rhan o Gymru, gan gynnwys teuluoedd o bob cefndir fel teuluoedd LGBTQ a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, teuluoedd Cymraeg eu hiaith, teuluoedd rhiant sengl a chyfunol ac ati. Bydd pob teulu sy’n cymryd rhan yn cael taleb £50 am eu hamser.
COFW Astudiaeth Achos
Mae gan y Sector Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol (nid yw hyn yn cynnwys Gwarchodwyr Plant) hyd at fis Medi 2022 i sicrhau bod gan 50% o’u staff nhw gymwysterau hyd at o leiaf lefel 2 mewn Gwaith Chwarae gyda 50% o’r rhai sydd wedi cymhwyso yn meddu ar gymhwyster Gwaith Chwarae lefel 3 llawn.
Mae’r llythyr sydd wedi’i ddosbarthu’n eang i’w weld yma: Estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflawni'r cymhwyster gofynnol i gydymffurfio â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (llyw.cymru)
Os oes angen i chi neu eich staff chi uwchsgilio, mae cymwysterau Gwaith Chwarae wedi’u hariannu ar gael drwy golegau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau fel Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs.
Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn ni'n agor y Fframwaith i ddarparwyr ychwanegol ymuno â ni i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg ac/neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar i ateb y galw cynyddol. Byddwn ni'n ehangu Dechrau'n Deg ychydig ym mis Medi, ac rydyn ni wedi nodi rhai bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n Fframwaith rhagorol, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ar wefan GwerthwchiGymru i gael yr hysbysiad pan fydd yn mynd yn fyw.
|
Mae’r Tîm Iaith Gynnar yn cyflwyno neges y mis Siarad Gyda Fi, a’r cyntaf yw ‘Y lle gorau i ni yw wyneb yn wyneb gyda chi’.
Os ydych chi gyda phlentyn, y lle gorau i fod yw ar eu lefel nhw (hyd yn oed os yw hyn yn golygu gorwedd ar y llawr!) er mwyn i chi allu gweld wynebau eich gilydd.
Mae hyn yn golygu y gallwch chi:
- Gweld mynegiant wyneb eich gilydd
- Gweld beth mae'r plentyn yn ymddiddori ynddo a rhoi'r geiriau cywir i gyd-fynd â'r hyn y mae'n gallu ei weld/yn ei wneud
- Gall y plentyn wylio'ch ceg i weld sut rydych chi'n gwneud y synau mewn geiriau
Beth am geisio bod wyneb yn wyneb am 5 munud yn ychwanegol bob dydd a gweld faint mae'n newid eich rhyngweithiadau!
I gael rhagor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i wefan Siarad â fi.
|
Lleoliadau’r blynyddoedd cynnar yn barod i helpu i roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith - Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi canmol gwaith lleoliadau’r blynyddoedd cynnar wrth iddynt baratoi i helpu i roi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith. Mewn ymweliad â meithrinfa ddydd Llandogo Early Years yn Sir Fynwy, gwnaeth y Gweinidog gyfarfod ag ymarferwyr y blynyddoedd cynnar sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir yn benodol. Darllen mwy
Adnoddau dysgu digidol newydd ar gyfer atal a rheoli heintiau - mae arferion atal a rheoli heintiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth dda yn hanfodol ar gyfer cynnal amgylchedd diogel i bawb a lleihau'r risg o ledaenu heintiau a chlefydau heintus. Mae set o fodiwlau dysgu digidol i helpu unrhyw un sy’n ymwneud â’r sector gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i wybod sut i ymddwyn i leihau lledaeniad heintiau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma. Darllen mwy
Dweud eich dweud ar ddiogelu - mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol ers 2021. Diben y safonau yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant cyson o ansawdd da sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau, ac y gallwn ni, fel ymarferwyr, ddiogelu pobl hyd eithaf ein gallu. Mae modd i chi ddweud eu dweud ar y drafft drwy gwblhau’r arolwg ar-lein. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin 2022
Cynnydd mewn isafswm cyflog - atgoffir Cylchoedd a Meithrinfeydd fod cyfraddau isafswm cyflog yn codi ym mis Ebrill a bod angen sicrhau fod cyflogau’n adlewyrchu hynny: Minimum wage rates for 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)
|