I gyd-fynd â lansio ein gwefan newydd ddechrau mis Mai, rydyn ni eisiau rhoi gwybod i chi am ein Hwb y Blynyddoedd Cynnar newydd.
Hwb y Blynyddoedd Cynnar, sy'n cynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, neu aelod o'r teulu sydd angen gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae Swyddogion Hwb y Blynyddoedd Cynnar wrth law i wrando ar sefyllfa teuluoedd, a'u helpu nhw i gael mynediad at y gwasanaethau sydd yn y sefyllfa orau i fod o gymorth.
Gall yr Hwb gynnig cymorth ar amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys:
- Gofal plant
- Gweithgareddau a darpariaeth yn y gymuned i blant a phobl ifanc 0–25 oed
- Ymddygiad plant
- Cymorth i rieni
- Gwasanaethau cymorth
- Gwybodaeth a chyfeirio i wasanaethau eraill
- Cymorth a hyfforddiant i leoliadau gofal plant
Gall unrhyw un sydd angen cyngor a chymorth gysylltu â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.
Yn ein bwletin ym mis Mawrth, fe wnaethon ni sôn am ein gwefan newydd rydyn ni bellach yn bwriadu ei lansio ar 4 Mai, ar ôl gŵyl y banc.
Bydd y wefan yn cynnwys adran benodol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i'r rhai sy'n gweithio yn sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd hi'n cynnwys manylion am ein rhaglen lawn o gyrsiau, ein hamserlen hyfforddiant ddiweddaraf, a ffurflen gais ar-lein.
Ni fydd y wefan ar gael tan 4 Mai, felly, byddwn ni'n anfon bwletin arbennig yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill a fydd yn rhoi'r manylion am y cyfleoedd hyfforddi sydd ar y gweill ym misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf. Cadwch lygad amdano!
Cynnydd yn y gyfradd dalu
O fis Ebrill ymlaen, bydd y gyfradd fesul awr sy'n cael ei thalu am ofal plant o dan y Cynnig yn cynyddu i £5.00 yr awr.
Fel rhan o hyn, bydd y swm y gall lleoliadau ei godi am fwyd hefyd yn cynyddu o £7.50 i £9.00 y dydd. Dyma'r manylion am y swm dyddiol newydd hwn:
- Sesiwn gofal dydd llawn – uchafswm tâl o £9 y dydd (tri phryd am £2.50 y pryd, a dau fyrbryd am 75c y byrbryd).
- Sesiwn hanner diwrnod – uchafswm tâl o £5.75 y sesiwn (dau bryd am £2.50 y pryd, ac un byrbryd am 75c).
- Gofal sesiynol lle nad yw pryd o fwyd yn cael ei ddarparu – uchafswm tâl o 75c am un byrbryd.
Cynnig Gofal Plant Digidol – Byddwch yn barod!
Yn ddiweddarach eleni, bydd y Cynnig Gofal Plant yn mynd yn Ddigidol. Mae hyn yn golygu os ydych chi'n ddarparwr gofal plant sydd, ar hyn o bryd, yn darparu oriau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant neu'n dymuno darparu oriau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, bydd angen i chi gofrestru a rheoli hyn trwy borth gwe newydd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Os ydych chi'n poeni am eich sgiliau digidol a'ch hyder wrth ddefnyddio technoleg, ac angen cymorth ychwanegol, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi creu set o ganllawiau fideo i helpu rhoi hwb i'ch hyder, gan gynnwys creu cyfrif Porth y Llywodraeth, cynilion a lanlwytho dogfennau!
I gofrestru ar gyfer yr adnoddau hyn, cliciwch yma.
Mae o leiaf 1 o bob 100 o bobl yng Nghymru yn awtistig. Nod yr ymgyrch #WeliDiFiBlynyddoeddCynnar sy'n lansio ar 28ain Mawrth yw hysbysu’r sector Blynyddoedd Cynnar o’r adnoddau ar gael i’w cefnogi i fod yn leoliadau sy’n ymwybodol o awtistiaeth.
Mae cynllun ardystio Blynyddoedd Cynnar y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn gallu helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddod yn fwy ymwybodol o awtistiaeth. Mae’n cynyddu eu dealltwriaeth a’u hymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a bod pawb yn wahanol ac yn meddwl yn wahanol.
Rhai o negeseuon allweddol yr ymgyrch yw y:
- Dylai plant awtistig a’u teuluoedd deimlo eu bod yn cael eu deall a’u cynorthwyo o gychwyn eu taith addysg.
- Mae gan godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth y pŵer i newid bywydau plant awtistig a’u teuluoedd.
- Bydd cwblhau cynllun ardystio’r Blynyddoedd Cynnar yn rhoi’r cyfarpar i sefydliad a’u staff ddeall a chynorthwyo pobl awtistig yn well o gychwyn eu taith addysg.
Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth a gwella bywydau plant awtistig a'u teuluoedd. Dewch yn lleoliad Blynyddoedd Cynnar Ymwybodol o Awtistiaeth yn https://autismwales.org/cy/addysg/rwyn-gweithio-mewn-lleoliad-blynyddoedd-cynnar/
Nod menter Plant Bach Hapus y BBC yw lleihau'r ‘bwlch geiriau’ drwy roi cymorth i rieni o ran helpu datblygu geirfa eu plant bach yn yr amgylchedd dysgu yn y cartref. Mae Plant Bach Hapus y BBC yn cynnig pecyn bach i bob lleoliad meithrin drwy'r Post Brenhinol a fydd yn cynnwys pedwar poster A3 – dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg – wedi'u dylunio i fywiogi wal unrhyw feithrinfa, ac sy'n cynnwys gwybodaeth hawdd ei deall.
Bydd y pecyn yn cynnwys:
- Poster gwybodaeth Plant Bach Hapus gyda dolenni i rieni a gofalyddion gael mynediad i'r wefan.
- Poster technegau ar gyfer siarad Plant Bach Hapus sy'n dangos technegau ‘hawdd eu gwneud’ i helpu rhieni a gofalyddion i ddatblygu sgiliau iaith eu plant bach.
- Gwybodaeth sy'n esbonio menter Plant Bach Hapus y BBC, a sut mae'n helpu cefnogi timau meithrinfeydd o ran dysgu yn y blynyddoedd cynnar.
- Manylion am sut i gael mynediad at yr hyfforddiant i hyrwyddwyr am ddim, sef sesiwn hyfforddi rithwir, awr o hyd, sy'n egluro'r dull, taith o amgylch y wefan, ac adnoddau a thechnegau iaith allweddol y gallwch chi eu rhannu â rhieni a gofalyddion.
Os hoffech chi gael y pecyn, anfonwch e-bost i Hwb y Blynyddoedd Cynnar ac fe wnawn ni anfon eich manylion ymlaen.
Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn ni'n agor y Fframwaith i ddarparwyr ychwanegol ymuno â ni i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg ac/neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar i ateb y galw cynyddol. Byddwn ni'n ehangu Dechrau'n Deg ychydig ym mis Medi, ac rydyn ni wedi nodi rhai bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer lleoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n Fframwaith rhagorol, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ar wefan GwerthwchiGymru i gael yr hysbysiad pan fydd yn mynd yn fyw.
|
Yn dilyn cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 y llynedd, a'n prosesau newydd ni i helpu plant ag oedi datblygiadol sy'n dod i'r amlwg, mae angen i ni nawr ehangu nifer y darparwyr gofal plant lle gallwn ni gynnig lleoliadau wedi'u hariannu yn ystod tymor yr ysgol cyn iddyn nhw ddechrau meithrinfa Cyfnod Sylfaen. Cadwch lygad am hysbyseb lle byddwn ni'n gwahodd darparwyr i gofrestru ar gyfer cyflwyno'r cynllun hwn a'r gofynion y bydd eu hangen arnoch chi i roi cymorth i'r plant hyn. Bydd hon yn broses wahanol (symlach, gobeithio!) i'r broses gaffael lawn flaenorol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi! 😊
|
Mae'n bwysig nad ydyn ni'n rhoi negeseuon cymysg i'r plant yn ein gofal. Os ydyn ni eisiau iddyn nhw gael ffordd iach o fyw, mae angen i ni sicrhau nad ydyn ni'n eu gorlwytho nhw yn sydyn â llawer iawn o wyau siocled.
Yn lle rhoi wyau Pasg, beth am roi cynnig ar wyau iogwrt o'r rhewgell – wedi'u gwneud gan ddefnyddio 500g o iogwrt, llond llaw o granola, llond llaw o lus, a llond llaw o fafon? Cymysgwch y cyfan, ei roi mewn mowldiau siâp ŵy, a'u rhewi nhw am 2 awr.
|
|