Cyhoeddwyd y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn benodol ar gyfer lleoliadau nas cynhelir nas ariannu ar 10fed o Ionawr 2022.
I gefnogi eich gwybodaeth a’ch dysgu am y cwricwlwm newydd, rydym yn cynnig grantiau i dalu am yr oriau y bydd yn ei gymryd i gael mynediad at fodiwlau ar-lein Llywodraeth Cymru. Mae’r ffurflen cais ar gyfer y grant hwn wedi’i chylchredeg yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, byddem yn eich annog i dderbyn y cynnig o grant. Rydym wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y lleoliadau nas cynhelir nas ariennir hynny sydd eto i wneud cais am bythefnos arall tan 11fed o Fawrth 2022.
Er nad yw’n cael ei ariannu i ddarparu’r Cyfnod Sylfaen, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei bod yn ofynnol i bob lleoliad gofal plant nas cynhelir ddarparu gofal sy’n unol ag addysgeg y Cyfnod Sylfaen/cwricwlwm newydd ac felly dylent gael cymorth i gallu rhoi cymorth i’r plant sydd yn eu ofal, a unrhyw anghenion dysgu a datblygu sydd wedi'u nodi. Mae hwn yn gam arwyddocaol tuag at sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel a chydraddoldeb i bob plentyn. Ystyrir bod gwneud y modiwlau yn esiampl o arfer gorau a bydd AGC yn edrych amdano yn ystod arolygiadau.
Ochr yn ochr â’r copi caled o’r Cwricwlwm newydd, bydd y grant hwn yn talu am amser staff o fewn lleoliadau a gwarchodwyr plant i gael mynediad i’r modiwlau ar-lein. Mae’r gwybodaeth hwn i gyd wedi'i ddosbarthu yn y Bwletin diweddaraf, ac yn y llythyr a anfonwyd gyda'r post o'r Cwricwlwm newydd wythnos diwethaf.
Mae partneriaid CWLWM yn darparu cyflwyniad i’r Cwricwlwm newydd mewn gweithdai diwedd mis Mawrth – felly cadwch lygad allan am rhain. Bydd hwn yn cael ei hysbysebu yn fuan iawn.
|