Mae ceisiadau ar gyfer gofal plant i deuluoedd â phlant wedi'u geni rhwng 01/1/2019 a 31/03/2019 bellach ar agor.
Mae ffurflenni cais ar gael ar wefan y Cyngor yn www.caerffili.gov.uk/cynniggofalplant.
Rhowch wybod i unrhyw rieni rydych chi'n gweithio gyda nhw sydd â phlant cymwys.
Yn dilyn adolygiad o’r gyfradd fesul awr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £6 miliwn ychwanegol o gyllid y flwyddyn i gefnogi cynnydd o 11% yn y gyfradd fesul awr, gan ei chodi o £4.50 yr awr i £5 yr awr o fis Ebrill. Byddan nhw hefyd yn darparu cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn i gefnogi aliniad parhaus cyfraddau cyllid meithrin a gofal plant y Cyfnod Sylfaen o dan y Cynnig Gofal Plant a buddsoddiad ychwanegol o £3.5 miliwn mewn gofal plant Dechrau’n Deg.
Bydd y cynnydd hwn yn helpu darparu mwy o gynaliadwyedd ledled y sector gofal plant yng Nghymru, gan sicrhau y gall rhieni sy’n gweithio barhau i elwa ar y Cynnig Gofal Plant. Bydd hefyd yn galluogi darpariaeth barhaus o ofal ac addysg o ansawdd uchel, gan roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. I gefnogi hyn, maen nhw hefyd wedi ymrwymo i adolygu'r gyfradd o leiaf bob tair blynedd.
Yn ogystal â'r cynnydd yn y gyfradd fesul awr ar gyfer gofal plant, bydd yr uchafswm y gall lleoliadau ei godi am fwyd hefyd yn cynyddu o £7.50 i £9 y dydd, gan adlewyrchu’r cynnydd ym mhrisiau bwyd a phrisiau cyfleustodau ac ynni.
Cliciwch yma i ddarllen y datganiad gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r amseru wedi newid ar gyfer cyflwyno’r gwasanaeth digidol cenedlaethol. Bydd y gwasanaeth bellach yn cael ei gyflwyno i rieni o’r hydref 2022 ymlaen.
Mae cwestiynau cyffredin ar gyfer darparwyr ar gael ar https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-gwasanaeth-cenedlaethol-digidol a byddant yn cael eu diweddaru wrth i ni gael mwy o wybodaeth i’w rhannu gyda chi.
Gellir gweld yr hyfforddiant Cymunedau Digidol Cymru y cyfeirir ato yn y daflen drwy'r ddolen isod.
Sgiliau Digidol Hanfodol ar gyfer darparwyr gofal plant (gov.wales)
Dydd Iau 3ydd o Fawrth 6.30-7.30yh neu Dydd Mercher 9fed o Fawrth 6.30-7.30yh.
Ar-lein trwy Microsoft TEAMS
Cais i ymuno â MS Teams LlICh yn y BC ComIT
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm Blynyddoedd Cynnar, neu danfonwch e-bost at ComIT@Torfaen.gov.uk.
Mae gan y Sector Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol (nid yw hyn yn cynnwys Gwarchodwyr Plant) hyd at fis Medi 2022 i sicrhau bod gan 50% o’u staff nhw gymwysterau hyd at o leiaf lefel 2 mewn Gwaith Chwarae gyda 50% o’r rhai sydd wedi cymhwyso yn meddu ar gymhwyster Gwaith Chwarae lefel 3 llawn.
Mae’r llythyr sydd wedi’i ddosbarthu’n eang i’w weld yma: Estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflawni'r cymhwyster gofynnol i gydymffurfio â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (llyw.cymru)
Os oes angen i chi neu eich staff chi uwchsgilio, mae cymwysterau Gwaith Chwarae wedi’u hariannu ar gael drwy golegau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau fel Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs.
Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn cynnal pedair sesiwn fyw ar-lein am ddim i roi gwybodaeth a syniadau i’r rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar i helpu plant byddar. P’un a oes gennych chi blant byddar yn eich lleoliad chi ar hyn o bryd ai peidio, bydd y sesiynau hyn yn eich helpu chi i fyfyrio ar eich ymarfer chi a’ch arfogi chi i fod yn barod ar gyfer plant byddar nawr neu yn y dyfodol.
Byddwch chi hefyd yn cael dwy weminar wedi'u recordio ar adrodd straeon synhwyraidd a defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol os byddwch chi'n gwneud un neu fwy o'r pedwar.
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/a-bright-start-for-every-deaf-child-tickets-213430776197
Nod yr e-fwletin misol hwn i ddarparwyr oedd lleihau nifer y negeseuon e-bost rydyn ni'n eu hanfon atoch chi drwy roi’r e-fwletin misol hwn yn eu lle sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a datblygiadau sy’n berthnasol i’ch busnes chi.
Ffeithiau a ffigyrau
Mae'r ffigurau hyn wedi bod yn galonogol iawn ac rydyn ni am achub ar y cyfle hwn i bwysleisio pwysigrwydd darllen y bwletin hwn pan fydd yn cyrraedd eich mewnflwch fel eich bod chi'n cael gwybod am y wybodaeth, y rheoliadau, y grantiau, y canllawiau diweddaraf a'r gwasanaethau sy'n berthnasol i chi.
Gan fod y bwletin wedi bod yn weithredol ers chwe mis bellach, byddem ni'n gwerthfawrogi eich barn chi drwy lenwi'r arolwg byr hwn.
|