Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Chwefror 2021

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Chwefror 2021

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Gwefan newydd yn dod yn fuan!

website homepage

Mae gennym ni newyddion cyffrous i'w rhannu gyda chi.

Rydyn ni'n gweithio ar wefan newydd ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar. Bydd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor am y blynyddoedd cynnar, darpariaeth gofal plant a gwasanaethau cymorth cynnar i ddarpar rieni neu deuluoedd â phlant o enedigaeth hyd at 7 oed. Bydd hefyd adran benodol ar gyfer darparwyr gofal plant a fydd yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, cymorth, ffurflenni, hyfforddiant a mwy.

Rydyn ni'n rhagweld y bydd y wefan yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2022.


Dweud eich dweud ar y bwletin hwn

Survey

Nod yr e-fwletin misol hwn i ddarparwyr oedd lleihau nifer y negeseuon e-bost rydyn ni'n eu hanfon atoch chi drwy roi’r e-fwletin misol hwn yn eu lle sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a datblygiadau sy’n berthnasol i’ch busnes chi.

Ffeithiau a ffigyrau

Stats

Mae'r ffigurau hyn wedi bod yn galonogol iawn ac rydyn ni am achub ar y cyfle hwn i bwysleisio pwysigrwydd darllen y bwletin hwn pan fydd yn cyrraedd eich mewnflwch fel eich bod chi'n cael gwybod am y wybodaeth, y rheoliadau, y grantiau, y canllawiau diweddaraf a'r gwasanaethau sy'n berthnasol i chi. 

Gan fod y bwletin wedi bod yn weithredol ers chwe mis bellach, byddem ni'n gwerthfawrogi eich barn chi drwy lenwi'r arolwg byr hwn.

dweud eich dweud

Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi cyfle i lacio rhai o'r Safonau Gofynnol

NMS

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru unwaith eto wedi caniatáu llacio rhai safonau o fewn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a byddwch chi i gyd wedi cael e-bost gan yr Arolygiaeth yn amlinellu hyn.

Os hoffech chi wneud cais i ni i lacio un o ragor o'r safonau hyn dros dro, anfonwch e-bost atom ni yn BlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk i gael y ffurflen gais. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos.


Nodyn Atgoffa am Grant Covid-19

Piggybank

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 4 Mawrth 2022!

Mae Gweinidogion Cymru wedi dyrannu cyllid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus ar gyfer y sector gofal plant, drwy gynorthwyo darparwyr sy'n wynebu problemau cynaliadwyedd. Mae'r cyllid sydd ar gael yn gyfyngedig a bydd y cyfle i wneud cais yn dod i ben yn fuan.

Byddwn ni'n derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ariannol hon – 2021-2022 – yn unig, felly rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais cyn gynted â phosibl os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n bodloni gofynion y dyfarniad grant.

Darllenwch y ffurflenni cais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o arweiniad neu gymorth arnoch chi i lenwi eich cais chi, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant penodol.

  • Grant Ailgychwyn ac Adfer COVID-19 – Darparu cyllid cynaliadwyedd er mwyn helpu lleoliadau gofal plant i barhau i weithredu drwy gydol heriau COVID-19, a thu hwnt i hynny, lle nad oes unrhyw arian cyhoeddus arall yn cael ei ddarparu i dalu'r un costau. Nid yw'r grant hwn wedi'i fwriadu i gymryd lle unrhyw elw sydd wedi cael ei golli yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk
  • Grant Cynaliadwyedd Tymor Byr – Diben y cymorth y gallwn ni, o bosibl, ei gynnig i'ch lleoliad chi yw eich helpu chi i aros yn gynaliadwy a pharhau i weithredu tra bod nifer y plant sy'n dod i'ch lleoliad chi yn is nag o'r blaen. Gallai hyn fod oherwydd y pandemig neu ffactorau eraill sydd allan o'ch rheolaeth chi.  Bydd y grant hwn yn eich helpu chi yn y tymor byrrach tuag at gostau rhentu a bydd yn cael ei ddyfarnu yn sail unigol am uchafswm o un tymor. Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk

Grant Cwricwlwm Newydd i Gymru

Curriculum

Cafodd y Cwricwlwm Newydd i Gymru ei gyhoeddi yn benodol ar gyfer lleoliadau sydd ddim yn cael eu cynnal ar 10 Ionawr 2022.

I helpu gyda'ch gwybodaeth a’ch dysgu am y cwricwlwm newydd, rydyn ni'n cynnig grantiau i dalu am oriau staff i gael mynediad at fodiwlau Llywodraeth Cymru  ar-lein. Mae'r ffurflen gais ar gyfer y grant hwn wedi'i dosbarthu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, byddem ni'n eich annog chi i dderbyn y cynnig o grant. Mae’r dyddiad cau wedi’i ymestyn am 2 wythnos arall tan 14 Chwefror 2022.

Yn ogystal, ac i helpu eich dysgu, byddwch chi'n cael copi printiedig o’r cwricwlwm newydd gennym ni drwy’r post yn yr wythnosau nesaf.

Gwyliwch am y cyfle i fynd i sesiwn ragarweiniol sy'n cael ei chynnal gan CWLWM ddiwedd mis Mawrth – bydd rhai o fanylion yn dilyn.


Cofrestriadau gyda Dewis

Dewis Logo

Yn ddiweddar, gwnaethom ni anfon e-bost at bob darparwr nad oedd wedi'i gofrestru gyda Dewis eto gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam a dyddiad cau o 28 Ionawr ar gyfer hyn. Fodd bynnag, mae gennym ni tua 50 o ddarparwyr o hyd nad ydyn nhw wedi cwblhau hyn o hyd. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn ni'n cysylltu â'r darparwyr hynny dros y ffôn i gynnig cymorth. Os gallwch chi, dylech chi achub ar y cyfle hwnnw pan rydyn ni'n cysylltu â chi. Rydyn ni'n gwerthfawrogi nad yw hyn bob amser yn gyfleus, felly mae'n bosibl trefnu apwyntiad os yw hynny'n haws i chi.

Ffoniwch 01443 863232 neu e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk 


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr