Gan mai hwn yw e-gylchlythyr olaf 2021, hoffai'r Tîm Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus chi dros y 12 mis diwethaf. Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn arall o ansicrwydd a heriau ond, fel erioed, rydych chi wedi ymateb i'r heriau hynny ac wedi parhau i ddarparu gwasanaeth gofal plant rydyn ni i gyd yn hynod falch ohono. Diolch!
Rydyn ni'n dymuno iechyd, hapusrwydd a ffyniant i chi a'ch teuluoedd chi y Nadolig hwn ac yn y Flwyddyn Newydd sydd i ddod.
Isod, mae ychydig o nodiadau atgoffa pwysig i chi a rhai gweithgareddau llawn hwyl.
Ar 15 Tachwedd anfonwyd gwybodaeth at bob darparwr gofal plant am Dewis a rhai cyfarwyddiadau am sut i gofrestru. Gwelwch yr e-fwletin a'r cyfarwyddiadau yma.
Diolch i'r rhai sydd eisoes wedi cofrestru. Rydym wedi cael adborth hyfryd ynghylch pa mor hawdd yw'r broses gofrestru hon a pha mor gyfleus yw gallu diweddaru eich gwybodaeth eich hun.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn erbyn diwedd mis Rhagfyr. Ar ôl cofrestru, yna bydd angen i chi adolygu'ch cofnod a diweddaru'r dyddiad adolygu nesaf. Fel arall, ni fydd y wybodaeth am eich gwasanaeth yn cael ei chyhoeddi'n awtomatig pan fydd y dyddiad adolygu cyfredol yn mynd heibio ac ni fydd eich manylion ar gael i deuluoedd sydd am gael gwybod am eich gwasanaeth.
Gwyliwch y fideo isod sy'n egluro mwy am sut mae Dewis yn gweithio.
Os ydych chi'n teimlo bod angen help arnoch chi gyda hyn, e-bostiwch GGiD@caerffili.gov.uk a bydd rhywun yn cysylltu â chi i gynnig cefnogaeth.
|
Gall pob lleoliad gofal plant ledled Cymru, waeth beth yw ei faint, gael gafael ar gymorth a chefnogaeth gyda'u busnes gan Busnes Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r ddolen hon.
I gael manylion, ewch i wefan Busnes Cymru
|
Gyda 2022 a lansiad y gwasanaeth Cynnig Gofal Plant Cymru digidol yn prysur agosáu, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn darllen y blog byr hwn am yr hyn y mae tîm y prosiect wedi bod yn ei wneud, sut mae pethau wedi mynd a beth maen nhw wedi'i ddysgu ar y ffordd.
Darllenwch y blog yma
|
Angen help i ddiddanu'r plant dros y Nadolig? Dewch i gael ychydig o hwyl gyda'r ryseitiau Nadoligaidd iachus hyn.
Ffyn seleri ceirw
Cynhwysion: Ffyn seleri, menyn cnau daear, mafon, llygaid bwytadwy, pretsels.
Coed Nadolig ffrwythau
Cynhwysion: Bananas, rhesins, ffyn pretsel, sleisiau o gaws.
Dynion eira ffrwythau
Cynhwysion: Bananas, mefus, grawnwin, rhesins, croen oren.
Dyma ychydig o grefftau Nadoligaidd i blant a fydd yn eu cadw nhw'n brysur nes bod Siôn Corn yn cyrraedd.
Rholyn papur Rudolph: Tiwb cardbord, brigau, llygaid gwgli, pom pom
Coeden Nadolig tiwb: Cardbord, paent gwyrdd, pom poms, gemau.
Ewch am dro i weld y Goleuadau Nadolig
Mae hyn yn gweithio orau mewn ardal breswyl lle gall y plant edrych ar yr holl oleuadau ac addurniadau Nadolig. Edrychwch ar yr amrywiaeth o oleuadau y tu mewn, a thu allan. Cymharwch hyn gyda’r goleuadau sydd yn cael eu defnyddio drwy’r flwyddyn. (esgus da i fynd am dro eto mis Ionawr.)
Dilynwch y seren
Gosodwch llwybr o ser y tu allan. Mae angen i’r plant edrych am y ser sydd yn hongian mewn gwahanol lefydd a chwblhau’r gweithgareddau sydd wedi ei enwi ar y ser e.e. Gwneud 10 naid seren, cyffwrdd y llawr 6 gwaith, cerdded am yn ol am 5 cam ayyb. Gwell fyth, gall y plant i ddod lan gyda syniadau eu hun am lwybr ser. Gall blant hyn greu llwybr ser i blant iau.
Ewch ar helfa anrhegion
Lapiwch bocs mewn papur lapio. Cymerwch dro i guddio’r bocs mewn gwahanol lefydd y tu allan i blant ei ddarganfod. Gallwch rhoi cliwiau megis “rwyt ti’n dwym” wrth agosau at y bocs neu “rwyt ti’n oer” wrth i blentyn symud i’r cyfeiriad anghywir.
Cael Byrbryd Arbennig Nadoligaidd y tu allan
Darparwch ddiodydd twym megis sudd afal a bwydydd twym fel mins peis tu allan. Maent yn blasu llawer gwell y tu allan.
Gwnewch addurniadau Nadolig a’i hongian tu allan
Mae’n bosib creu ser syml o frigau ac adnoddau naturiol eraill. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer clymu rhuban, gwau a sgiliau mudol man eraill. Meddydliwch am lle byddai lle da i osod yr addurniadau a pwy fyddai yn mwynhau eu gweld nhw.
|