 Mae Gweinidogion Cymru wedi dyrannu cyllid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus ar gyfer y sector gofal plant, drwy gynorthwyo darparwyr sy'n wynebu problemau cynaliadwyedd.
Dim ond lle mae'n amlwg bod angen cefnogi cynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal plant a bod risg wirioneddol o gau yn yr hirdymor oherwydd effaith niweidiol y pandemig COVID-19 y dylai darparwyr gofal plant wneud cais am y grant.
Mae dau grant ar gael:
Byddwn ni'n derbyn ceisiadau trwy gydol y flwyddyn ariannol hon – 2021–2022 – ond mae cyllid yn gyfyngedig, felly, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais yn gynnar os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cwrdd â gofynion y dyfarniad grant.
Darllenwch y ffurflenni cais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os oes angen arweiniad pellach arnoch chi neu os oes angen cymorth arnoch chi i lenwi'ch cais, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant penodol.
Grant Ailgychwyn ac Adfer COVID-19
I ddarparu cyllid cynaliadwyedd i gefnogi lleoliadau gofal plant i barhau i weithredu drwy gydol a thu hwnt i heriau COVID-19 lle nad oes arian cyhoeddus arall yn cael ei ddarparu ar gyfer yr un costau. Ni fwriedir i'r grant hwn gymryd lle unrhyw elw a gollwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk.
Grant Cynaliadwyedd Tymor Byr
Diben y cymorth y gallwn ei gynnig i'ch lleoliad yw eich helpu i barhau i fod yn gynaliadwy a pharhau i weithredu tra bod nifer y plant sy'n mynychu eich lleoliad yn is nag o'r blaen. Gallai hyn fod oherwydd y pandemig neu ffactorau eraill sydd allan o'ch rheolaeth. Bydd y grant hwn yn eich cefnogi yn y tymor byrrach tuag at gostau rhentu a chaiff ei ddyfarnu ar sail unigol am uchafswm tymor.
Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk.
 Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y cynllun Grantiau Cyfalaf Bach ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ailagor ar gyfer Darparwyr y Cynnig Gofal Plant yng Nghaerffili o Dydd Llun 15 Tachwedd 2021 ar gyfer monitorau TG a CO2 Prynu yn Unig.
Mae pob lleoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n cynnig lleoedd y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed neu sy'n bwriadu cynnig lleoedd yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr y sector preifat a'r sector gwirfoddol, a lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, darpariaeth ar ôl ysgol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, ac ati. Gellir hefyd ystyried ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd yn y broses o wneud cais am gofrestriad Arolygiaeth Gofal Cymru a bron wedi'i gwblhau. Rhaid i'r lleoliad gofal plant fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd i ddarparu lleoedd y Cynnig Gofal Plant ar ran Caerffili, cysylltwch â greenn1@caerffili.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ar sut i gofrestru cyn cyflwyno'ch cais am grant.
Darllenwch y ffurflenni cais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais.
Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i greenn1@caerphilly.gov.uk.
Mae cyllid yn gyfyngedig felly rydym yn eich annog i wneud cais yn gynnar.
|