Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

A rolwg o ddarparwyr gofal plant 2021: eich barn ar y farchnad gofal plant leol

Childcare survey

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eisiau cael gwybod eich barn ar ofal plant yn eich ardal leol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae eich barn chi'n bwysig i ni, a bydd yn helpu sicrhau bod Cyngor Caerffili yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi. Bydd hefyd yn helpu sicrhau bod gwasanaethau gofal plant hygyrch, o safon, yn cael eu darparu ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r holiadur hwn yn cael ei ddosbarthu i bob darparwr gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin, gwarchodwyr plant, a darparwyr gofal y tu allan i'r ysgol. Bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i Gyngor Caerffili, fel rhan o'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant. O ystyried y pandemig cyfredol, mae eich barn chi'n berthnasol i lywio'r galw am ofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn y dyfodol.

Diolch i chi ymlaen llaw am lenwi'r holiadur hwn. Byddwch cystal â llenwi'r holiadur hwn, a'i ddychwelyd erbyn 12 Tachwedd 2021.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi eisiau trafod, mae croeso i chi gysylltu â Ruth Lee neu Fiona Santos drwy anfon e-bost i fis@caerffili.gov.uk.

dweud eich dweud
GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr