Beth yw goblygiadau hyn i ddarparwyr gofal plant?
Mae'r daflen atodedig ar gyfer rheolwyr a pherchnogion lleoliadau gofal plant yng Nghymru. Mae'n darparu gwybodaeth bwysig i chi am gyflwyno gwasanaeth digidol newydd ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn 2022. Mae hyn yn golygu y bydd pob darparwr gofal plant ledled Cymru yn defnyddio un gwasanaeth cenedlaethol i hawlio taliadau am oriau a ddarperir o dan y Cynnig Gofal Plant mewn unrhyw ardal o Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y gwasanaeth newydd yn agor ym mis Gorffennaf 2022 i rieni wneud cais am ofal o hydref 2022. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i ddarparwyr gofal plant greu cyfrif ar y gwasanaeth newydd o tua Ebrill 2022. Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu maes o law gyda mwy o wybodaeth am hyn.
Cynnig Gofal Plant i Gymru - Taflen Ddigidol (PDF)
|