Mae’r cynnig i brofi yn wirfoddol, ond ar ôl lleihau’r cyfyngiadau dros yr haf, rydym yn annog dysgwyr ym mlwyddyn 7 ac uwch a staff mewn gofal plant, ysgolion a cholegau i barhau i brofi yn rheolaidd gan ddefnyddio citiau profi LFD, fel bod modd adnabod heintiau cyn mynd i’r ysgol neu gymdeithasu ag eraill a lledaeni’r haint i ffrindiau neu deulu heb wybod.
Ar ôl ystyried y data rydym yn argymell bod lleoliadau yn parhau i gynnig profion asymptomatig LFD am dair wythnos arall. Bryd hynny, bydd swyddogion adolygu'r data sydd ar gael unwaith eto ac yn cyfleu unrhyw newidiadau. Daethpwyd i'r penderfyniad hwn er mwyn cefnogi'r nod sylfaenol o sicrhau bod dysgwyr/plant yn treulio cynifer o ddiwrnodau â phosibl yn yr ysgol/ gofal plant trwy gyfrannu leihau trosglwyddiad posibl mewn lleoliadau a chaniatáu casglu data mwy cadarn.
Gofynnir i leoliadau barhau i archebu eu hailgyflenwadau o LFDs yn y ffordd arferol - mae nodyn atgoffa o sut i archebu citiau prawf LFD wedi'i gynnwys isod.
Mae modd i leoliadau archebu citiau profi LFD drwy’r ddolen hon: https://request-testing.test-for-coronavirus.service.gov.uk/
Bydd angen eu UON, sydd ar gael drwy’r banciau asedau Addysg a Gofal Plant:
Gofal Plant: Asedau Cyhoeddedig (assetbank-server.com)
Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch â’r mewnflwch os gwelwch yn dda - eduandcctesting@llyw.cymru.
Mae’r ddogfen ‘Standard Operating Procedure’ (SOP) wedi ei ddiweddaru yn ddiweddar i gynnwys y canlynol:
- Canllawiau ar hunanynysu fel cyswllt aelwyd wedi’u diweddaru;
- Gwybodaeth ychwanegol ar Effeithiolrwydd Clinigol;
- Diweddariad i ‘Testing Technology’ yn nodi bod pob cit profi LFD sy’n cael ei ddefnyddio ar y foment yn rhydd o latecs rwber naturiol, gan gynnwys y swabiau, a’u bod yn addas ar gyfer y rheiny sydd ag alergeddau latecs.
Mae’r SOP wedi’i ddiweddaru ar gael ar y banc asedau uchod.
Mae AGC wedi rhoi gwybod i bob lleoliad cofrestredig am y diweddariad hwn.
Y tîm Covid Profion Addysg a Gofal Plant
|
|