Bwletin Arbennig Darparwyr Gofal Plant - Coronafeirws

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Arbennig Darparwyr Gofal Plant - Coronafeirws

Coronafeirws

Gan fod lleoliadau gofal plant nawr wedi ailagor ar ôl gwyliau'r haf, rydyn ni am sicrhau bod gennych chi'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch y pandemig coronafeirws, yn benodol mewn perthynas â lleoliadau gofal plant.

Am ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, cliciwch ar y dolenni isod.

  • Canllawiau gofal plant a gwaith chwarae – Sut i baratoi eich gwasanaeth gofal plant i ganiatáu i fwy o blant fynychu, a'u diogelu nhw a'ch staff rhag y coronafeirws.
  • Lefel Rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau – Beth sydd angen i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau a threfnwyr gweithgareddau a digwyddiadau wneud yng Nghymru ar lefel rhybudd 0.
  • Hunanynysu – Sut a phryd mae angen i chi a’ch aelwyd hunanynysu os oes gennych chi symptomau, os ydych chi wedi cael canlyniad positif, neu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19

Staff a plant symptomatig

Rhaid i unrhyw un sydd ag un neu ragor o dri phrif symptom COVID-19 (peswch newydd parhaus, tymheredd uchel a/neu golli synnwyr arogli neu flasu) barhau i ddilyn canllawiau Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ynghylch profi ac ynysu a hunanynysu gyda'u haelwyd wrth aros am ganlyniad y prawf PCR.

Bydd profi hefyd ar gael mewn rhai ardaloedd i'r rhai sydd ag amrywiaeth ehangach o symptomau, fel blinder, poen yn y cyhyrau, gwddf tost, pen tost, trwyn yn rhedeg, cyfog, chwydu neu ddolur rhydd. Nid oes angen i unrhyw un sy'n cael prawf oherwydd y symptomau ehangach hyn hunanynysu wrth aros am ganlyniad eu prawf PCR. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n gallu parhau i fynychu eu lleoliad gofal plant wrth aros am ganlyniad prawf. Bydd angen iddyn nhw hunanynysu os yw canlyniad y prawf yn bositif. Fodd bynnag, ni ddylai plant nac oedolion sydd â dolur rhydd neu sy'n chwydu fynychu'r lleoliad nes iddyn nhw fod heb symptomau am 48 awr, hyd yn oed os yw canlyniad y prawf PCR yn negatif.

Eithriadau rhag hunanynysu

Os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â chi oherwydd rydych chi wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf COVID-19 positif ac roeddech chi wedi eich brechu'n llawn ar adeg dod i gysylltiad â'r person wedi'i heintio, nid oes angen i chi hunanynysu.

Ystyrir eich bod chi wedi eich brechu'n llawn os yw 14 diwrnod wedi mynd heibio ers i chi gael cwrs llawn o frechiad wedi'i gymeradwyo, a chafodd ei wneud yn y Deyrnas Unedig.

Os nad ydych chi wedi cwblhau eich cwrs brechu llawn (fel arfer dau frechiad ar wahân), o leiaf 14 diwrnod cyn cysylltiad agos, neu os ydych chi wedi cael brechiad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, bydd angen i chi hunanynysu os yw'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi.

Dylai staff ysgol/meithrinfa sydd wedi'u nodi fel cysylltiadau agos â pherson sydd wedi'u heintio ac nad ydyn nhw wedi'u brechu'n llawn gael eu heithrio o'r lleoliad a bydd gofyn iddyn nhw hunanynysu am 10 diwrnod o ddyddiad y cysylltiad diwethaf. Os nad ydych chi'n sicr am statws brechu unrhyw aelod o staff, dylen nhw gael eu heithrio o'r lleoliad nes eu bod nhw wedi'u rhyddhau gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Felly, efallai y byddai'n ddoeth cadarnhau pa staff sydd wedi'u brechu'n llawn a chael cadarnhad ar gyfer eich cofnodion.

Bydd gofyn i gysylltiadau agos gael prawf PCR ar ddiwrnod 2 (neu cyn gynted â phosibl ar ôl dod i gysylltiad) ac unwaith eto ar ddiwrnod 8. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw achosion unigol asymptomatig yn cael eu nodi a'u gofyn i hunanynysu. Er nad oes angen iddyn nhw hunanynysu, dylai unrhyw gysylltiadau fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o haint a sicrhau bod mesurau hylendid da, fel golchi dwylo ac ati, yn cael eu cynnal a bod mesurau rheoli haint yn cael eu gweithredu.

Ystyr cysylltiad agos yw unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â choronafeirws, yn benodol:

  • rhywun rydych wedi cael sgwrs wyneb yn wyneb ag ef o fewn llai na metr iddo,
  • wedi cael cyswllt corfforol croen i groen ag ef, neu
  • sydd wedi peswch drosoch, neu rydych wedi bod mewn math arall o gyswllt ag ef o fewn metr iddo am 1 funud neu fwy
  • rhywun rydych wedi treulio mwy na 15 munud gydag ef o fewn dau fetr iddo
  • rhywun rydych wedi teithio mewn car neu gerbyd bach arall gydag ef, neu rydych wedi bod yn agos ato ar drafnidiaeth gyhoeddus

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd trwy e-bostio ClefydTrosglwyddadwy@caerffili.gov.uk, mae'r staff yn cadw golwg ar y mewnflwch hwn 7 diwrnod yr wythnos, 9.30am–5pm.

 


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr