Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2021

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2021

Croeso i'r Bwletin Darparwyr Gofal Plant NEWYDD . Rydyn ni'n sylweddoli eich bod chi'n cael llawer o negeseuon e-bost ac weithiau mae gwybodaeth bwysig yn mynd ar goll. Felly, byddwn ni'n lleihau nifer yr e-byst rydyn ni'n eu hanfon atoch chi ac, yn eu lle, bydd ybwletin e-bost misol hwn sy'n cynnwys y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'ch busnes.

Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr erthyglau nodwedd isod yn ddefnyddiol i chi. Os hoffech chi i unrhyw beth gael ei gynnwys mewn bwletinau yn y dyfodol, e-bostiwch GGiD@caerffili.gov.uk.

Dewis Cymru


Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili yn gwella'r ffordd y gall teuluoedd gael gwybod am wasanaethau gofal plant.

Mae gwybodaeth am eich gwasanaeth eisoes wedi'i chadw yng nghronfa ddata y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (‘y Gwasanaeth’). Gall teuluoedd gael gwybodaeth drwy naill ai ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth neu chwilio ar wefan y Gwasanaeth. Rydyn ni wrthi'n gwella'r wefan hon i'w gwneud hi'n haws i deuluoedd ei defnyddio, a byddwn ni'n ei rhannu â chi maes o law.

Mae gennym ni gyfle cyffrous i hyrwyddo'ch gwasanaeth ymhellach ar blatfform arall, o'r enw Dewis Cymru. Gwefan genedlaethol yw Dewis Cymru sy'n cynnwys gwybodaeth am dros 6,000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol ledled Cymru, ac mae'n cael ei hyrwyddo'n helaeth fel y siop un stop i deuluoedd gael gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau.

Ar hyn o bryd, Caerffili yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru nad yw'n darparu gwybodaeth am wasanaethau gofal plant ar wefan Dewis Cymru, ac rydyn ni am unioni hynny. Rydyn ni'n anelu at uwchlwytho holl fanylion y darparwyr gofal plant sydd gennym ni ar hyn o bryd ar gronfa ddata y Gwasanaeth, i'r porth erbyn diwedd mis Awst.

Dyma rai o'r manteision:

  • Gwasanaeth am ddim
  • Hyrwyddo gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant ar lefel genedlaethol
  • Cysondeb ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd eisoes yn darparu gwybodaeth ar wefan Dewis Cymru
  • Mae modd chwilio ar draws ffiniau i helpu teuluoedd sy'n chwilio am wasanaethau mewn ardaloedd awdurdodau cyfagos

Dyma ddolen i'r wefan fel y gallwch chi gael golwg arni – www.ggd.cymru. Os ydych chi am wybod rhagor am Dewis Cymru, mae hefyd rai Cwestiynau Cyffredin.

Rydyn ni wedi diweddaru hysbysiad preifatrwydd darparwyr y Gwasanaeth i adlewyrchu'r newid hwn. I ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd, cliciwch yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y newid hwn neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i GGiD@caerffili.gov.uk.

DEWIS Bilingual

Archwiliad Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar 2021

Childcare survey

Byddwch cystal â threulio ychydig funudau yn llenwi ein Harolwg Archwilio Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar.

Rydyn ni'n cynnal yr arolwg hwn i nodi cymwysterau a sgiliau'r gweithlu gofal plant a chwarae cyfredol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, a nodi anghenion o ran cymwysterau a hyfforddiant y gweithlu am y 2 flynedd nesaf.

Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn cael ei defnyddio i adrodd i Lywodraeth Cymru a hefyd i gynllunio'r cyrsiau a'r cymwysterau sydd eu hangen yn y Fwrdeistref Sirol am y ddwy flynedd nesaf. Ni fydd unrhyw fanylion personol yn cael eu casglu.

Dylai'r arolwg hwn gael ei lenwi gan bob unigolyn sy'n gweithio mewn lleoliadau Gofal Plant a/neu Chwarae (gan gynnwys gwarchodwyr plant). Gall yr Arweinydd ei llenwi yn eich lleoliad ar ran yr holl staff.

dweud eich dweud

Grant ar gael ar gyfer Offer TG

Laptop

Mae'n bleser gennym ni gyhoeddi bod y cynllun Grantiau Cyfalaf Bach ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ailagor ar gyfer Darparwyr y Cynnig Gofal Plant yng Nghaerffili o ddydd Llun 6 Medi 2021 ar gyfer prynu offer Technoleg Gwybodaeth yn unig.

Mae pob lleoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ac sy'n cynnig lleoedd y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed neu sy'n bwriadu cynnig lleoedd, yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr yn y sectorau preifat a gwirfoddol, a lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, darpariaeth ar ôl ysgol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau ac ati. Gellir hefyd ystyried ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd wrthi'n gwneud cais am gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a bron wedi'i gwblhau. Rhaid i'r lleoliad gofal plant fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Sicrhewch eich bod chi'n llenwi'r ffurflen gais yn llawn, ac yn darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Anfonwch y ddwy ddogfen, erbyn y dyddiad cau, mewn e-bost i greenn1@caerffili.gov.uk

Ffurflen gais (fersiwn Word)

Telerau ac amodau (fersiwn Word)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 15 Hydref 2021. Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. Mae cyllid yn gyfyngedig, felly, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais yn gynnar.

Os nad ydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd i ddarparu lleoedd y Cynnig Gofal Plant ar ran Caerffili, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, anfonwch e-bost i greenn1@caerffili.gov.uk.


Newyddion eraill…

Byddwch yn ymwybodol y bu tair byrgleriaeth mewn lleoliad gofal plant dros yr wythnosau diwethaf. Cafodd eitemau gwerthfawr eu dwyn, gan gynnwys ffôn symudol yn cynnwys manylion rhieni a phlant. Byddwch yn wyliadwrus a threulio ychydig o amser yn darllen drwy'r cyngor hwn gan Heddlu Gwent am atal troseddau.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr