Cylchlythyr Gwerth Ctmdeithasol - Rhifyn 2

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Social Value Newsletter 2 (Welsh) banner

Cyflwyniad

Croeso i ail rifyn ein Cylchlythyr Gwerth Cymdeithasol, sy'n cynnwys mis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2025.

Yn dilyn llwyddiant ein rhifyn cyntaf, rydyn ni’n parhau i dynnu sylw at y gwaith ystyrlon sy'n cael ei wneud ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn partneriaeth â'n cadwyn gyflenwi a'n cymunedau. Mae Gwerth Cymdeithasol yn fwy na chydsyniad – mae'n ymrwymiad i greu effaith barhaol trwy bob contract, cydweithrediad a sgwrs.

Yn y rhifyn hwn, rydyn ni’n cadarnhau pwysigrwydd ymgorffori Gwerth Cymdeithasol ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. O benderfyniadau caffael i ymgysylltu â'r gymuned, mae ein hymdrechion ar y cyd yn helpu llunio dyfodol mwy cynhwysol, cynaliadwy a gwydn.

Rydyn ni’n falch o rannu straeon newydd, ystadegau wedi'u diweddaru ac enghreifftiau ysbrydoledig o sut mae ein cyflenwyr yn mynd y tu hwnt i'r contract i ddarparu manteision go iawn. Boed yn cefnogi cyflogaeth leol, hyrwyddo lles, neu amddiffyn yr amgylchedd, mae'r cyfraniadau hyn yn dangos pŵer partneriaethau pwrpasol.


Beth yw Gwerth Cymdeithasol ?

Beth yw Gwerth Cymdeithasol ?

Social Value Three key points

Mae Gwerth Cymdeithasol yn disgrifio effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd camau gweithredu gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion. Mae Gwerth Cymdeithasol yn cael ei ategu gan nifer o bolisïau, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dangos yn glir ymrwymiad y Cyngor i flaenoriaethu lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i'r Fwrdeistref Sirol a'n partneriaid. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall y ffordd rydyn ni’n rheoli ein gwariant blynyddol o tua £300 miliwn gyda chyflenwyr, darparwyr gwasanaeth a chontractwyr gyfrannu’n sylweddol at y flaenoriaeth hon.
  • Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn newid y ffordd y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu – bydd gan bobl mwy o lais yn y gofal a’r cymorth maen nhw’n eu cael.
  • Mae cymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ar amcanion polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ac ar adrodd ar ganlyniadau mewn perthynas â chymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol.

Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu'r gwerth mwyaf posibl ar gyfer punt Caerffili ac yn parhau i ddangos bod Caerffili yn gofalu.

Read more (Welsh)

A Home for Spark the Dragon

Blakedown

Mae Blakedown Sport & Play Limited a The Laver Group wedi cynorthwyo tîm y Blynyddoedd Cynnar drwy ddarparu dros 200 o gopïau o'r llyfr stori darluniadol 'A Home for Spark the Dragon' a fydd yn cael ei gyflwyno i deuluoedd mewn Llety Dros Dro.

Diolch i Blakedown Sport & Play Limited a The Laver Group am eu cyfraniad hael trwy’r ymgyrch Gwerth Cymdeithasol.

Mae’r stori, a gafodd ei hysgrifennu gan Michael Sheen, yn dilyn Spark a’i daith i ddod o hyd i gartref newydd gyda chymorth ei ffrindiau. Bydd tîm y Blynyddoedd Cynnar yn rhannu'r llyfr hwn i helpu plant i brosesu’r profiad o fyw mewn llety dros dro, nes iddyn nhw ddod o hyd i gartref newydd.


Apêl Banciau Bwyd ac Ymgyrch Siôn Corn 2025

Hygiene Amnesty

Gyda chostau byw yn parhau i godi, mae llawer o deuluoedd ac unigolion ledled ein Bwrdeistref Sirol yn wynebu dewisiadau amhosibl. I rai, mae hyd yn oed yr eitemau hylendid mwyaf sylfaenol – pethau y mae llawer ohonom ni’n eu defnyddio heb feddwl – yn anfforddiadwy.

Diolch i haelioni staff mewnol a'n cadwyn gyflenwi, mae'r eitemau hyn wedi'u rhoi a'u dosbarthu trwy ein Canolfannau Clyd, Pantrïau Bwyd, a Banciau Bwyd Lleol, gan gyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf.

Beth oedd y rhoddion?

  • Siampŵ a chyflyrydd
  • Sebon corff, sebon a sebon dwylo
  • Sbyngau corff a chlytiau ymolchi
  • Pâst dannedd, brwsys dannedd a chegolch
  • Diaroglydd a nwyddau’r mislif
  • Brwsys gwallt a chribau

Cafodd yr holl eitemau eu rhoi yn eu cyflwr gwreiddiol, heb eu hagor – gan helpu adfer urddas, cysur a hyder i'r rhai mewn angen.

Mae eich caredigrwydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi helpu sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un yn ein cymuned fod heb yr hanfodion.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein datganiad i'r wasg drwy'r botwm isod.

Read more (Welsh)

Ysgol Gynradd Deri

Deri Primary

Fe wnaeth Deco Glass & Glazing Wales ddarparu gwerth cymdeithasol trwy hwyluso integreiddio ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol gynradd a, thrwy hynny, gynorthwyo'r broses o ddarparu addysgu o ansawdd uchel a gwell cymorth staff i grwpiau bach o ddisgyblion.

Dywedodd Susan Martin, Pennaeth, “Roedd y gwaith gan Decoglass o'r safon uchaf ac wedi’i gwblhau yn ôl yr amserlen. Mae'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar yr ysgol yn enfawr. Mae wedi ein galluogi ni i gyfuno grwpiau blwyddyn mewn gofod cynllun agored a galluogi'r athro a'r cynorthwyydd addysgu i ddarparu addysgu grŵp o ansawdd uchel. Mae trefn newydd yr ystafelloedd dosbarth yn sicrhau goruchwylio gan aelod o staff gan alluogi i'r plant gael mwy o le a gweithio mewn lle tawelach.

Fel ysgol fach gyda chyllideb gyfyngedig, ni fyddai modd i ni allu bwrw ymlaen â'r gwaith heb y fenter gwerth cymdeithasol, ac ni fyddai wedi cael yr effaith ar yr addysgu a'r dysgu y mae'n amlwg wedi'i gael.”


Apêl Banciau Bwyd ac Ymgyrch Siôn Corn 2025

 

Food Bank

Lledaenu llawenydd y Nadolig hwn: Cefnogi Ymgyrch Siôn Corn a’r Apêl Banciau Bwyd
Bob Nadolig, mae Cyngor Caerffili yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth ystyrlon drwy ddwy fenter elusennol hanfodol: Ymgyrch Siôn Corn a’r Apêl Banc Bwyd. Mae'r ymdrechion hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i draddodiad – maen nhw’n werth y byd i deuluoedd ac unigolion yn ein cymuned sydd eu hangen fwyaf.

Diolch i garedigrwydd arbennig ein cyflenwyr a'n staff, rydyn ni wedi codi cyfanswm o dros £40,000 i gynorthwyo'r achosion hyn. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n cofio ein teuluoedd mwyaf agored i niwed a’u helpu nhw gyda gofal a thosturi pan fo'n bwysicaf.
Fe wnaethom ni wahodd pob cwmni a roddodd i ymweld â'r banc bwyd lleol, lle cawson nhw fewnwelediad ar effaith eu cymorth.

Pam mae'n bwysig:

  • Bydd Ymgyrch Siôn Corn yn dod â hwyl yr ŵyl i blant a theuluoedd a fyddai, fel arall, yn mynd hebddo.
  • Mae'r Apêl Banc Bwyd yn helpu sicrhau nad oes unrhyw un yn ein cymuned yn mynd heb fwyd dros y gwyliau.

Mae'r mentrau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i werth cymdeithasol, lles cymunedol, ac arweinyddiaeth dosturiol.

Ochr yn ochr â rhoddion arian parod a thalebau hael gan lawer o'n cyflenwyr, daeth nifer o roddion bwyd amrywiol i gefnogi'r apeliadau hefyd.

Read more (Welsh)

Gweithdy Offer Pŵer Ymarferol

Hands On Power Tool Workshop

Fe wnaeth Lightning Solutions Wales ddangos eu hymrwymiad i werth cymdeithasol yng Nghaerffili drwy gynnal gweithdy ymarferol ar gyfer pum cyfranogwr a oedd yn rhan o'n Rhaglen Cyflogadwyedd.

Cafodd cyfranogwyr eu croesawu a'u cyflwyno i amrywiaeth o offer pŵer llaw. Dechreuodd y sesiwn gyda throsolwg llawn gwybodaeth o'r offer a'u cymwysiadau ymarferol. O dan arweiniad arbenigol staff Lightning Solutions, cafodd cyfranogwyr gyfle i ddefnyddio’r offer yn uniongyrchol.

Fe wnaeth y profiad ymarferol hwn feithrin hyder a sgiliau technegol, yn ogystal â chynnig mewnwelediad gwerthfawr i lwybrau gyrfa yn y sectorau crefftau a thechnegol.


Gwisgo â gofal, Islwyn

Islwyn Care 2 wear gallery

Ar y cyd â Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, mae'r fenter newydd gyffrous hon yn darparu dillad wedi'u rhoi i'w hailgartrefu i bobl yn ein cymuned. Bydd y fenter yn darparu sgiliau ymarferol a gwasanaeth cwsmeriaid allweddol, a bydd yn cynnig cyfleoedd gwaith gwirfoddol a chyfleoedd â thâl i Oedolion ag Anabledd Dysgu, gan eu helpu nhw i feithrin hyder ac annibyniaeth.

Cafodd dyddiad rhoi dillad cychwynnol ei drefnu i staff mewnol roi unrhyw ddillad i blant neu oedolion, a gafodd ei gynnal yn Nhŷ Penallta.

Dros y chwe mis diwethaf, mae ein cyflenwyr wedi dangos cymorth anhygoel i'r prosiect trwy amrywiaeth o fentrau gwych, gan ddangos pŵer cydweithredu. Cafodd nifer o eitemau hanfodol eu rhoi a oedd yn cynnwys y canlynol:

Ian Williams Ltd – rhoddodd amser a deunyddiau yn hael i drawsnewid y tu mewn i adeilad y prosiect, gan ei baentio i baratoi ar gyfer ei agoriad mawr. Mae eu cymorth yn sicrhau bod y lle yn groesawgar ac yn barod i wasanaethu'r gymuned.

Cambrian Roofing – rhodd garedig o stemar dillad i'r prosiect. Bydd y cyfraniad hwn yn helpu'r fenter i ennill profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylchedd cefnogol.

Blakedown Sport & Pay Limited – rhodd garedig o reiliau dillad, drychau, ac eitemau hanfodol eraill i gynorthwyo'r prosiect. Bydd hyn yn sicrhau storio dillad yn briodol.


Profiad gwaith

Fe wnaeth S D Maintenance groesawu cyfranogwr o'n rhaglen cyflogadwyedd i'r busnes yn ystod seibiant o astudio, gan gynnig cyfle gwerthfawr i ennill profiad yn y swydd wrth archwilio opsiynau gyrfa yn y dyfodol.

Adborth gan y cwmni

Fe wnaeth y cyfranogwr ddarparu egni gwych yn gweithio ochr yn ochr â gweithredwyr, a oedd yn gwerthfawrogi'r cyfle i rannu eu gwybodaeth a mentora'r genhedlaeth nesaf. Roedd ei bresenoldeb yn atgoffa o bŵer ymgysylltu â'r gymuned a phwysigrwydd buddsoddi mewn pobl ifanc.

Adborth gan y cyfranogwr

Mae'r cyfranogwr yn ddiolchgar iawn am y cyfle i ennill profiad yn y byd go iawn, wedi rhannu bod ei hyder wedi gwella trwy gydol ei amser gydag S D Maintenance, ac yn teimlo'n fwy sicr am ei gyfeiriad yn y dyfodol.

Geirda cryf ar gyfer y dyfodol

Cafodd y cyfranogwr eirda cadarnhaol er mwyn cynorthwyo ymdrechion yn y dyfodol.


Canolfannau clyd

Warm Hub

Mae Castell Howell wedi darparu rhoddion o de, coffi, siwgr a bisgedi sy'n helpu creu amgylchedd croesawgar i unigolion mewn angen i sawl un o'n canolfannau clyd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Diolch i'w cymorth, gall y canolfannau gynnig diod gynnes a lle diogel i bobl gysylltu a chael gofal yn ystod cyfnodau anodd.


Caffi Croeso – Grŵp Gwau a Sgwrs

Knit and Natter

Mae'r grŵp Gwau a Sgwrs yng Nghaffi Croeso yn creu lle diogel a chyfeillgar i bobl gysylltu a rhannu.

Diolch i gymorth hael Castell Howell, yn darparu te, coffi, siwgr, a bisgedi, mae'r grŵp yn cynnig cysur a sgwrs mewn amgylchedd cynnes.

Mae'n enghraifft wych o sut y gall ymddygiadau bach wneud gwahaniaeth mawr wrth ddod â chymunedau at ei gilydd.


Tîm Rygbi dan 12 oed Trecelyn

Hedlyn

Mae Hedlyn Building Contractors wedi rhoi £500 yn hael i gynorthwyo tîm rygbi dan 12 oed Trecelyn gan eu helpu nhw i brynu cit newydd sbon.

Mae eu cyfraniad yn helpu chwaraewyr ifanc a'r gymuned yn fawr, gan alluogi plant i barhau i ffynnu a mwynhau'r gêm.


Gweithdai Bwyta'n Iach

wr bishop

Mae WR Bishop wedi parhau i ymweld ag ysgolion cynradd lleol yn y Fwrdeistref Sirol gan gynnal “Gweithdai Bwyta'n Iach” gyda'r plant. Fe wnaeth y plant archwilio a blasu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau wrth gymryd rhan mewn trafodaethau am o ble’r bwyd yn dod a'r hyn y bydden nhw’n ei fwyta gyda nhw fel rhan o bryd iach maethlon.

Mae'r profiad cyfoethogi hwn yn rhan o ymrwymiad WR Bishop i werth cymdeithasol, gan hyrwyddo arferion bwyta iach a thwf addysgol ymhlith dysgwyr ifanc


Cymorth cymunedol a chymorth banciau bwyd

Islwyn

Bob mis, mae Castell Howell yn rhoi cynhyrchion bwyd sy'n cael eu dosbarthu i grŵp cymunedol neu fanc bwyd yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r cyfraniadau hyn yn helpu sicrhau bod cyflenwadau hanfodol yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen fwyaf, gan gynorthwyo teuluoedd ac unigolion yn ystod cyfnodau heriol.

Mae eu hymrwymiad parhaus yn enghraifft o sut y gall busnesau greu effaith gymdeithasol gadarnhaol. Ym mis Rhagfyr, cafodd Islwyn Catering ei ddewis, sy'n cael ei redeg gan staff ochr yn ochr ag unigolion ag anableddau dysgu. Cafodd ei chreu er mwyn helpu’r unigolion hynny i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn amgylchedd diogel.


Cartref Gofal Tŷ Iscoed – Gardd Myfyrio

Ty Iscoed

Ar hyn i bryd, mae Robert Price Builders Merchant a Fusion Electrical & Building Services yn ymgymryd â phrosiect cydweithredol yng Nghartref Gofal Tŷ Iscoed i drawsnewid yr ardal awyr agored yn Ardd Myfyrio i breswylwyr â dementia.

Bydd y gofod tawel hwn yn cynnig lle i breswylwyr ymlacio, mwynhau natur, a chael profiad ymlaciol. Mae'r gwaith hyd yma yn cynnwys dodrefn gardd newydd, goleuadau tawel ac ymlaciol, seddi, ffensys a phaentio newydd.

Mae'r fenter hefyd yn cynnwys adeiladu cafnau blodau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer hygyrchedd i gadeiriau olwyn, gan alluogi pob defnyddiwr i gymryd rhan weithredol mewn plannu a dyfrio hadau a phlanhigion.


Cartref Preswyl Brodawel

Broadawel

Fe wnaeth preswylwyr a staff ein cartrefi gofal preswyl gymryd rhan yn y gystadleuaeth cacennau Nadolig flynyddol. Fe wnaeth pob cartref gyfrannu trwy bobi ac addurno cacennau ar gyfer y digwyddiad. Cafodd ceisiadau eu barnu mewn sawl categori, gan gynnwys cacen Nadolig mwyaf blasus, cacen Nadolig mwyaf creadigol, a thema a dylunio gorau.

Aeth preswylwyr a staff i’r dathliad yng Nghartref Preswyl Brodawel yng Nghaerffili. Fe wnaeth y busnesau canlynol ddarparu rhoddion:

WR Bishop – Ffrwythau ffres

Don Woosnam Dairies – Llaeth a sudd oren

Terry’s Patisseries – Cacennau a phwdinau

Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn, ac roedd y rhoddion yn darparu lluniaeth hyfryd i'r rhai a oedd yn bresennol.


Hwb Hamdden a Lles Caerffili

dr

Dros y 6 mis diwethaf, mae Morgan Sindall, sy'n cyflawni'r gwaith o adeiladu'r hwb hamdden a lles newydd yng Nghaerffili, wedi cwblhau nifer o fentrau yn llwyddiannus.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Noddi’r rhaglen Healthy Dragons mewn sawl ysgol gynradd ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r rhaglen yn ategu Cwricwlwm Cymru, gan ennyn diddordeb disgyblion drwy sesiynau egnïol, creadigol sy'n gwella iechyd a lles. Mae'n wych bod prosiect Hwb Hamdden a Lles Caerffili o fudd i bobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • 12 awr o wirfoddoli mewn prosiectau cymunedol
  • 1 swydd amser llawn
  • 302 o sesiynau rhyngweithio gyda disgyblion mewn gweithgareddau STEM yn yr ysgol
  • Yn bresennol mewn digwyddiadau gyrfaoedd/gweithdai gyrfaoedd
  • 25 awr o oriau arbenigol i fusnesau bach a chanolig lleol
  • £2,500 o roddion 'mewn nwyddau'
  • Rhoddion amnest banciau bwyd a hylendid personol

Click to edit this placeholder text.


Canolfan Sgiliau a Dysgu Pontllan-fraith

Wynne

Drwy gydol y gwaith parhaus o adeiladu Canolfan Sgiliau a Dysgu Pontllan-fraith (Canolfan Pontllan-fraith ar gyfer Dysgwyr Agored i Niwed yn gynt), mae Wynne Construction wedi parhau i gyflawni nifer o fentrau. 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cyfrannu 30 awr at fentrau addysg
  • 1 lleoliad profiad gwaith
  • 33 awr o ryngweithio gyda disgyblion
  • Rhoi deunyddiau a darparu llafur ar gyfer Ysgol Gynradd Coed Duon – gardd sy'n canolbwyntio ar y gymuned
  • Rhoddion i fanciau bwyd
  • Cyfweliadau ffug gyda disgyblion blwyddyn 11 mewn nifer o ysgolion uwchradd ledled y Fwrdeistref Sirol
  • 18 awr o wirfoddoli
  • £2,400 o roddion 'mewn nwyddau'
  • 4 awr o gymorth gyrfaoedd
  • Yn bresennol mewn cyfarfodydd grwpiau cymunedol lleol

Yn bresennol mewn digwyddiadau rhwydweithio busnes ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth lleol


Ysgol Gynradd Plasyfelin

Plas y Felin

Dros y 6 mis diwethaf, mae Bam Construction wedi bod yn darparu adeilad sero net Ysgol Gynradd Plasyfelin newydd ac wedi parhau i gyflawni nifer o fentrau.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • 2 swydd gyfwerth ag amser llawn leol
  • 71 awr o gymorth cyflogaeth
  • 52 awr yn gweithio gydag ysgolion lleol
  • 28 wythnos o brentisiaethau
  • £200 o roddion 'mewn nwyddau'
  • £582,000 o wariant lleol
  • Digwyddiad cwrdd â'r contractwr
  • Prosiectau ysgolion This is Engineering
  • Digwyddiad gyrfaoedd rhwydwaith cyflym
  • Noddi Ysgol Gynradd Plasyfelin i gymryd rhan yn y rhaglen addysg 'Bumbles of Honeywood', sy'n dechrau ym mis Chwefror.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Perthnasau Cyflenwyr drwy Caffael@caerffili.gov.uk neu ffonio


facebooktwitterinstagramyoutubeflickr