|
Rhifyn 7 Awst 2014
|
|
|
|
|
|
|
Cyhoeddi tenantiaid cyntaf ar gyfer
GloWorks - canolfan newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol
ym Mae Caerdydd
Boom Pictures a Sequence, dau gyfranogwr
pwysig yn sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru, fydd y tenantiaid cyntaf
yn GloWorks - canolfan flaenllaw newydd Llywodraeth Cymru ar y glannau yng
nghanol Porth Teigr, Bae Caerdydd.
Mae Boom Pictures yn cymryd drosodd y tri
llawr uchaf i gartrefu 110 aelod o staff tra bo Sequence yn cymryd drosodd yr
ail lawr i letya 50 aelod o staff.
Dywedodd Huw Eurig Davies, un o'r
cyd-sylfaenwyr Boom Pictures: "Bydd cael ein lleoli yn y datblygiad
newydd cyffrous yma yn ddi-os yn hwb pellach i greadigrwydd a llwyddiant
hirdymor ein cwmni".
Dywedodd Paul Thomas, Cyfarwyddwr
Gwerthiannau a Marchnata Sequence: "Rydyn ni'n rhagweld y bydd symud yn
ein helpu i dyfu'r busnes ac yn gyfle i greu mwy o swyddi a denu'r dalent orau
yn yr ardal".
Mae GloWorks yn cynnig lle i fusnesau
creadigol a busnesau cychwynnol gydweithio a chreu cyfleoedd swyddi newydd i
dalent ifanc yng Nghymru.
Darllenwch fwy
|
|
|
Da Vinci'n Demons yn dychwelyd
Mae Da Vinci's Demons wedi dychwelyd a dechreuodd
ffilmio ar 23 Mehefin yng Nghymru.
Mae'r
ddrama teledu ddeallus o UDA yn stori ffuglennol am fywyd cynnar Leonardo da
Vinci. Caiff y sioe ei datblygu a'i chynhyrchu ar y cyd â
BBC Worldwide a'i ffilmio mewn lleoliadau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot
a Pharc Margam.
Cafodd
pennod olaf yr ail gyfres ei darlledu yn y DU am y tro cyntaf yn Amgueddfa
Genedlaethol Cymru ar 3 Mehefin 2014.
Dywedodd Jane Tranter, Pennaeth Adjacent
Productions: "Y
tîm cynhyrchu hynod dalentog o Gymru sy'n bennaf cyfrifol am lwyddiant
rhyngwladol Da Vinci's Demons gan iddo ein helpu ni i greu cyfres ddrama o'r
radd flaenaf ar gyfer cynulleidfa ryngwladol.
"Mae'r
gefnogaeth a roddwyd i Da Vinci's Demons gan Lywodraeth Cymru a busnesau lleol
wedi bod yn allweddol i lwyddiant parhaus y sioe ac mae'n bleser o'r mwyaf i mi
ein bod yn dychwelyd am drydedd gyfres. Mae hyn yn profi yn wir fod buddsoddi mewn talent
yn fuddsoddiad yn y dyfodol".
Cefnogir
y sioe gan dîm sector
Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru.
|
|
|
Take Down fydd y ffilm gyntaf i gael ei
hariannu drwy Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau Cymru gwerth £30m
Mae Pinewood Studios wedi datgelu'r ffilm
nodwedd gyntaf i gael buddsoddiad drwy Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau newydd
Llywodraeth Cymru, gwerth £30m.
Mae'r ffilm nodwedd, y mae Ed Westwick
(Gossip girl), Jeremy Sumpter (Peter Pan, Soul Surfer) a Phoebe Tonkin (The
Vampire Diaries) yn actio ynddi, yn mynd rhagddi yn sgil cael ei hariannu drwy
Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru.
Mae'r stori sydd wedi'i
ffilmio yng Nghymru ac ar Ynys Manaw yn canolbwyntio ar grŵp o fyfyrwyr mewn
ysgol breswyl i blant cyfoethog trafferthus. Maent yn penderfynu mynd
i'r afael â materion eu hunain ar ôl i ddihirod gymryd pawb ar y campws yn
wystlon.
Mae Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau
Llywodraeth Cymru, gwerth £30m ar gael i gynyrchiadau ffilm a theledu deallus
sy'n gymwys yn y DU, drwy Pinewood Pictures, cyfrwng buddsoddi mewn ffilm a
theledu Pinewoods. Mae'n ofynnol i gynyrchiadau sy'n gymwys yn
y DU ffilmio 50% o'u prif ffotograffiaeth yng Nghymru.
Darllenwch
fwy
|
Adroddiad Arfer Da
Darllenwch am adroddiad arfer da y Comisiwn Ewropeaidd ar strategaeth allforio a rhyngwladoli'r diwydiannau creadigol. Cynrychiolodd Llywodraeth Cymru y DU ar y grŵp arbenigol a baratôdd yr adroddiad, sy'n cynnwys astudiaeth achos ar y modd y byddwn yn cefnogi masnach ac allforion rhyngwladol gan y sector creadigol.
Darllenwch y crynodeb gweithredol.
|
|
Hawlfraint yn eich Hurtio, Nodau Masnach yn
eich Mwydro?
Hyfforddiant ar-lein AM DDIM i fusnesau.
Mae'r
Swyddfa Eiddo Deallusol wedi datblygu pedwar modiwl ar-lein i fusnesau er mwyn
eu helpu i nodi eu hasedau eiddo deallusol a rhoi rhywfaint o wybodaeth
sylfaenol iddynt am sut mae eu hamddiffyn. Maent yn cwmpasu:
- nodau masnach
- patentau
- dyluniadau cofrestredig
- hawlfraint
Rhagor o wybodaeth am sut
y gallwch gael hyfforddiant
am ddim.
|
MIPCOM Cannes, 13-16 Hydref 2014
Digwyddiad byd-eang yw MIPCOM sy'n denu cynnwys adloniant ar draws pob platfform.
Yn y digwyddiad, bydd cyfle i rwydweithio â phrif swyddogion penderfyniadau ac mae'n gyfle i ddod o hyd i bartneriaid cyd-gynhyrchu a phrosiectau cyllid.
Y llynedd, daeth 13,500 o gyfranogwyr, 1,700 o gwmnïau arddangos a 4,600+ o brynwyr o fwy na 100 o wledydd.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r tîm Diwydiannau Creadigol
|
|
Y Darlithoedd Gwneud yn Gwneud hi eto
Mae'r Darlithoedd Gwneud a gynhaliwyd yn
Aberteifi dros bedwar diwrnod wedi rhagori ar ddisgwyliadau unwaith yn rhagor. Teithiodd 150 o bobl o
bob cwr o'r byd yn cynnwys Awstralia, UDA, yr Almaen, yr Ariannin a'r
Iseldiroedd i orllewin Cymru. Disgrifiodd
cyfranogwyr y digwyddiad, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, fel y
"digwyddiad gorau i mi erioed fod iddo", "digwyddiad hollol
drawsnewidiol" ac "anhygoel".
Dywedodd David Hieatt, un o Gyd-sylfaenwyr
Darlithoedd Gwneud: "Peidiwch byth â bychanu digwyddiadau
bach. Yn
enwedig digwyddiadau bach o'r radd flaenaf".
Ac mae'r ffaith bod y Darlithoedd Gwneud yn
dod yn gynyddol sefydledig nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y byd yn UDA ac
Awstralia yn profi mai dyna yw'r digwyddiadau hyn.
|
Wythnos Arloesi Digidol Cymru
Roedd Wythnos Arloesi Digidol Cymru yn
rhaglen wythnos o hyd a oedd yn dathlu cyfleoedd digidol i'r sector diwydiannau
creadigol yng Nghymru.
Dydd Iau 10 Gorffennaf – cyflwynodd
Practical Takeaways seminar undydd ar gyfer busnesau creadigol digidol.
Rhoddodd y seminar gyngor ar ehangu y tu hwnt i Gymru yn ogystal ag ymelwa ar
Eiddo Deallusol.
Dydd Gwener 11 Gorffennaf - roedd Sioe
Datblygiad Gemau Cymru yn cynnwys dwy neuadd arddangos, ardal rwydweithio
enfawr a Gwobrau Gemau BAFTA Cymru. Roedd
uchafbwyntiau'r dydd yn cynnwys sesiwn gyda Gary Napper o Creative Assembly, un
o baneli Adloniant Rhyngwladol y DU a Seiat Holi Gemau BAFTA.
I gael y diweddaraf am ddigwyddiadau ewch i
wefan Busnes
Cymru
|
|
Y
Dylathon
Marathon darllen yn ddi-baid am 36 awr yw'r
Dylathon lle bydd sêr enwog yn darllen gwaith Dylan Thomas yn fyw ar lwyfan yn
Theatr y Grand Abertawe rhwng 11am ddydd Sul 26ain ac 11pm ddydd Llun 27ain
Hydref.
Bydd cymysgedd o sêr yn cynnwys Michael
Sheen, Rob Brydon, Ruth Jones, David Emanuel, Ruth Madoc, Greta Scacchi,
Melanie Walters, Sian Phillips, Mal Pope a Jonathan Pryce yn perfformio'r holl
gerddi, straeon byrion, llythyrau a darllediadau enwog yn cynnwys Dan y Wenallt
('Under Milkwood').
Bydd enwau cyfarwydd o'r cyfryngau, ffilm,
theatr, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chwaraeon ynghyd â phlant
ysgol lleol, corau o Gymru a grwpiau ieuenctid a chymunedol yn ymuno â nhw.
Bydd y Dylathon yn creu etifeddiaeth
barhaol i bobl ifanc yng Nghymru.
|
|
Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.
Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.
|
Wefan
Wales.com
Cymru.gov.uk
Tanysgrifiwch yn Saesneg
Dad-danysgrifiwch
|
Ewch ar-lein
|
© Hawlfraint y Goron 2014
|
|