|
 |
|
Creu'r amgylchiadau economaidd cywir
Fel Llywodraeth, rydym yn falch iawn o'r rhan rydym yn ei
chwarae wrth helpu busnesau i ehangu ac i greu a chadw swyddi.
A ninnau'n Llywodraeth sy'n gadarn o blaid busnesau,
rydym yn gweithio'n galed i greu'r amodau economaidd priodol i gefnogi mentrau
masnachol o bob maint, gan helpu i greu ac i ddiogelu swyddi ym mhob cwr o
Gymru.
Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Cymorth
Amhrisiadwy i Fusnesau yng Nghymru
Mae cymorth
Arloesi a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu Advanta, sy'n fusnes teuluol,
i ddatblygu mathau newydd o gynhyrchion ar gyfer ei gwmni, sy'n cynhyrchu
nwyddau printiedig. Mae'r cymorth hwnnw wedi'i helpu hefyd i sicrhau cynnydd o
30% yn ei drosiant a'i allforion.
Cliciwch
yma i weld a all ein cefnogaeth ni agor
marchnadoedd newydd ar eich cyfer, hybu gwerthiant eich busnes a'i wneud yn fwy
proffidiol.
|
 |
|
Optec Leader yn anelu am y farchnad
fyd-eang
Mae cwmni o Gymru sy'n cyd-osod ceblau
ffeibr optig yn ehangu, gan ddechrau masnachu yn y farchnad byd-eang mewn storio
data, sy'n werth US$23 biliwn.
Diolch i gymorth a gafodd oddi wrth
Lywodraeth Cymru, mae gan y busnes bellach nodau masnach ac offer a fydd yn
sicrhau bod ei broses weithgynhyrchu'n effeithlon a
chywir.
Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Allwch chi ddatrys heriau a arweinir gan ddiwydiant?
Oes diddordeb gennych mewn Gwneud y Gorau o Ynni? Mae
Tata Steel yn awyddus i gydweithio â busnesau yng Nghymru ar:
Adfer gwastraff mewn ffordd gosteffeithiol
Lleihau'r galw am ynni
Systemau ynni adnewyddadwy
Effeithlonrwydd y genhedlaeth nesaf
Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Rhifyn 81 Advances Wales ar gael nawr
Mae gwyddonwyr yng Nghymru yn dod o hyd i ddatblygiadau
arloesol ym maes gofal iechyd mewn lleoedd annisgwyl.
Mae'r rhifyn diweddaraf o Advances Wales yn canolbwyntio
ar y gwyddorau bywyd. Ceir ynddo newyddion ac erthyglau am ddatblygiadau ym
maes ymchwil feddygol yng Nghymru, technoleg iechyd a biotechnoleg.
Darllenwch y rhifyn diweddaraf yma
|
Sicrhau bod y bwyd a diod sydd ar gael i blant yn
fwy maethlon
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cystadleuaeth sy'n rhoi
cyfle i fusnesau ddatblygu atebion arloesol i sicrhau bod y bwyd a diod sydd ar
gael i blant ysgol yn fwy maethlon, ond gan leihau costau ar yr un pryd.
Bydd hyd at £50,000 ar gael i hyd at chwe busnes
yn ystod cam un. Bydd y ddau brosiect gorau'n cael hyd at £350,000 ychwanegol,
sy'n golygu bod cyfanswm o £1 filiwn ar gael ar gyfer y gwaith hwn.
Rhagor o wybodaeth am yr Her hon, sy'n rhan o SBRI (y
Fenter Ymchwil Busnesau Bach)
Gŵyl Arloesedd Cymru – 19-30 Mehefin 2017
Bydd yr Ŵyl hon, sy'n cael ei chynnal ar y
cyd gan gwmnïau a sefydliadau academaidd, yn rhoi llwyfan i arloesedd yng
Nghymru, ac yn rhoi cyfle i arloeswyr rwydweithio gydag arbenigwyr o fyd
diwydiant a dangos eu cynhyrchion i ddarpar gwsmeriaid o Gymru a thu hwnt.
Os hoffech ddod i un o'r digwyddiadau sy'n
cael eu cynnal yng Nghymru, neu os hoffai'ch cwmni gynnal digwyddiad fel rhan o
Ŵyl Arloesedd Cymru, ewch i wefan Gŵyl Arloesedd Cymru.
Sesiwn Friffio ar gfyer Cystadleuaeth Gweithgynhrychu
a Deunyddiau – 21 Mehefin 2017 – Stadiwm SWALEC, Caerdydd
Nod y gystadleuaeth hon yw symbylu busnesau i
arloesi ym meysydd gweithgynhyrchu a deunyddiau. Mae'n bosibl y bydd Innovate UK yn cefnogi
amrywiaeth o brosiectau a fydd yn mynd i'r afael â heriau technegol neu
fasnachol. Y bwriad yw helpu busnesau, yn enwedig BBaChau, i fod yn fwy
cynhyrchiol a chystadleuol ac i dyfu.
Archebwch eich lle
Clinigau Arbenigwyr Gwasanaeth
Arloesi SMART
Beth am alw heibio i gael
rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'ch busnes arloesi? Gallwn eich
helpu i:
- fuddsoddi mewn gwaith ymchwil a datblygu
- cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes
dylunio a gweithgynhyrchu
- diogelu'ch asedau drwy hawliau eiddo deallusol
-
manteisio ar gyfleusterau ac arbenigedd mewn
prifysgolion a cholegauBeth am fynd ati i archebu lle
er mwyn cael siarad yn gyfrinachol ag un o'n harbenigwyr?
Canolfan Waterton
26 Mehefin
Pen-y-bont ar Ogwr
OpTIC Glyndŵr
29 Mehefin
Llanelwy
|
|