 |
|
Partneriaeth y Gogledd yn mynd o nerth i nerth
Mae’r
hyn mae cwmni teuluol yn ei gynhyrchu, ynghyd â’i gyfran o’r farchnad, wedi
cynyddu ar ôl iddo weithio mewn
partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai.
Gwnaeth GL Jones
Playgrounds, sydd wedi'i leoli yng Ngwynedd, fanteisio ar gynllun y Bartneriaeth
Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Mae hwn
yn helpu busnesau i arloesi a thyfu drwy eu rhoi mewn cysylltiad â phrifysgol
ac unigolyn sydd wedi graddio er mwyn gweithio ar brosiect penodol.
Gall
prosiectau KTP barhau rhwng 12 a 36 mis a chânt eu cyllido'n rhannol yng
Nghymru gan grant a roddir gan Lywodraeth Cymru.
Rhagor
o wybodaeth
|
 |
|
Busnesau’n chwalu’r rhwystrau
Gwnaeth dros 1300 o
entrepreneuriaid, buddsoddwyr ac arloeswyr dyrru i Stadiwm SWALEC ar gyfer 4ydd
Venturefest Cymru. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn.
Daeth y nifer mwyaf erioed o
gynrychiolwyr ynghyd ar gyfer y digwyddiad. Y nod oedd sbarduno twf busnes yng
Nghymru. Roedd arddangoswyr yn cynnwys OR3D, a hwnnw'n gwmni sydd wedi cael
cymorth Arloesi gan Lywodraeth Cymru.
I gofrestru’ch diddordeb yn
Venturefest 2017 ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.
|
 |
|
Mae Screentec yn rhoi gwedd fwy gystadleuol i fusnesau
Mae cwmni Screentec yng Nglynrhedynog wedi elwa ar gymorth ymgynghori oddi wrth Lywodraeth
Cymru, a hwnnw’n gymorth am ddim. Roedd y cymorth, a gefnogwyd gan gyllid yr UE,
yn helpu i nodi meysydd busnes y gellid eu gwella'n gyffredinol. Rhoddwyd
argymhellion am y camau a oedd yn angenrheidiol i sicrhau'r gwelliannau
hynny.
Caiff y cymorth ei ddarparu gan ymgynghorwyr
cymwys ac mae'r cymorth hwnnw'n canolbwyntio ar helpu pobl i fod yn fwy
cystadleuol drwy wella cynhyrchiant, ansawdd ac effeithlonrwydd, ynghyd â
datblygu cynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd.
Rhagor
o wybodaeth
|
Wi-Fi
Cyflym o'ch sedd ar awyren
Ymhlith
yr heriau y mae byd diwydiant wedi’u rhoi i Lywodraeth Cymru ar ei phorthol
newydd mae dod o hyd i ateb er mwyn gwella lled band ar gyfer teithwyr ar
awyrennau a rheoli asedau tanddaearol Prydain yn well. Mae ein hadran newydd ar
heriau a chydweithio ym maes Diwydiant ar wefan Arbenigedd Cymruar yn ei gwneud
yn bosibl i fusnesau a’r byd academaidd nodi cyfleoedd i gydweithio. I weld
rhestr lawn o'r heriau, ewch i Arbenigedd
Cymru.
Heriau Menter Ymchwil Busnesau Bach– Creu gwerth o decstiliau sy’n dod o fatresi
gwastraff
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio
cystadleuaeth gwerth £350k i fusnesau ddatblygu syniadau a phrofi dulliau
arloesol er mwyn creu gwerth allan o Decstiliau sy’n dod o Fatresi Gwastraff.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyllid o 100%i brofi pa mor ymarferol
yw’r atebion arloesol hynny ac i ddangos
bod rhagor o atebion cynaliadwy ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem hon.
I gael mwy o
wybodaeth, cliciwch yma.
Enwi enillwyr Launchpad Ffotoneg y Gogledd
Mae pump o’r cwmnïau mwyaf cyffrous sydd yn eu
cyfnodau cychwynnol ac sy’n canolbwyntio ar fusnesau ym maes ffotoneg, electro-opteg
ac opto-electroneg yn y Gogledd wedi dod i’r brig yng Nghystadleuaeth Innovate
UK. Bydd y cwmnïau’n cael cymorth gan amryw o bartneriaid gan gynnwys
Llywodraeth Cymru.
Rhagor
o wybodaeth
.
Briff
ar gyfer y Gystadleuaeth: Deunyddiau a Gweithgynhyrchu ̶ 1 Rhagfyr
2016
Bydd Innovate UK yn buddsoddi dros £15m mewn
prosiectau arloesol sy’n ymwneud â deunyddiau a gweithgynhyrchu. Os ydych yn
teimlo y gallai eich prosiect fod o fudd i bobl oresgyn heriau technegol a
masnachol, dewch i’n digwyddiad briffio.
Rhagor
o wybodaeth
Seremoni Gwobrau Arloesi ar gyfer Myfyrwyr 15 Rhagfyr 2016
Bydd y seremoni wobrwyo yn rhoi sylw i waith y genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac yn gwobrwyo’r gwaith hwnnw. Mae'r seremoni'n dilyn dwy arddangosfa lwyddiannus a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Stadiwm SWALEC ym mis Hydref. Gwnaeth pob arddangosfa roi llwyfan i 80 o'r prosiectau dylunio mwyaf arloesol gan bobl ifanc ledled Cymru. Bydd y prosiectau a fydd yn ennill yn cael eu harddangos yn y Senedd rhwng 10am a 2pm.
Rhagor o wybodaeth
BioCymru 7 - 8 Mawrth 2017
- Canolfan Mileniwm Cymru
Bellach yn ei 15fed
flwyddyn, thema'r digwyddiad yw Iechyd a Chyfoeth, lle bydd y ffocws ar y
cyfleoedd unigryw mewn Therapi Celloedd, Meddygaeth Aildyfu a Thechnolegau
Meddygol. Bydd digwyddiad 2017 yn dod ag arbenigwyr y diwydiant, buddsoddwyr mewn
gwyddorau bywyd a rhwydweithiau rhyngwladol at ei gilydd. Bydd hefyd yn
canolbwyntio ar gyfathrebu rhwng busnesau, y byd academaidd a gofal iechyd.
Rhwng
nawr â 2 Rhagfyr, mae BioCymru yn cynnig gostyngiad o 40% i Gynrychiolwyr sy’n
archebu’n gynnar. Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth am sut i drefnu lle yn y
digwyddiad.
Rhagor o wybodaeth
|