Cymru yn denu'r buddsoddiad mwyaf erioed ar gyfer prosiectau arloesedd
Mae Cymru wedi
denu dros £50
miliwn gan Innovate UK yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol – y buddsoddiad
mwyaf erioed – gan ddod â'r cyfanswm sydd wedi'i ymrwymo i dros £100 miliwn yn
ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd y
ffigurau diweddaraf hyn gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart, a
ddywedodd fod y strategaethau Gwyddoniaeth i Gymru ac Arloesedd
Cymru, ac yn dilyn hyn ffurfio Cyngor Cymru ar Arloesi, oll wedi cyfrannu
at sicrhau'r llwyddiant hwn.
Yn ôl y
Gweinidog, bydd y buddsoddiad helaeth hwn mewn nifer o brosiectau strategol
allweddol yn cael effaith hirdymor sylweddol ar yr economi. Maent yn cynnwys
Catapwlt Lled-ddargludydd Cyfansawdd y DU (£50 miliwn), prosiectau caffael y
sector cyhoeddus a elwir yn Gatalyddion y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (£2.5
miliwn), 'Launchpad' Ffotoneg Gogledd Cymru (£0.5 miliwn) a'r nod Catapwlt
Meddygaeth Fanwl yng Nghaerdydd.
Wrth ymweld â
Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe i gofnodi'r buddsoddiad mwyaf
erioed, bu Mrs Hart yn cyfarfod â llawer o gwmnïau arloesol iawn sy'n
canolbwyntio ar dechnoleg. Maent wedi sicrhau dros £3 miliwn o gyllid gan
Innovate UK, yn ogystal ag elwa ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. Darllen rhagor.
|
|
Mwy o fenywod yn y byd gwyddonol yn hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru
Mae adroddiad newydd a
gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y
Menywod yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o annog mwy o ferched a menywod yng
Nghymru i astudio pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a
mathemateg) a dilyn gyrfa yn y sector gwyddoniaeth.
Nod Merched Dawnus ar gyfer
Cymru Lwyddiannus yw mynd i’r afael â’r prinder dybryd o fenywod mewn rolau
STEM yng Nghymru - ac ar draws gweddill y DU.
Mae’r adroddiad 73 tudalen yn
nodi’r angen am newid agwedd ar draws y gymdeithas i chwalu’r rhwystrau
presennol a chreu’r gweithlu medrus sydd ei angen i gefnogi twf economaidd
Cymru i’r dyfodol. Amcangyfrifir y gallai cynyddu nifer y menywod mewn
gwyddoniaeth ar draws y DU fod yn werth £2bn i’r economi cenedlaethol. Darllen
rhagor.
|
|
|
Oergelloedd solar arloesol yn cael cymorth SMARTCymru Llywodraeth
Cymru
Mae Dulas, cwmni dylunio a gweithgynhyrchu systemau ynni
adnewyddadwy, wedi cael cyllid o £57,400 drwy raglen Llywodraeth Cymru SMARTCymru,
i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ei Oergelloedd Gyriant Uniongyrchol Solar.
Gan fod cadw brechlynnau’n oer yn her aruthrol i iechyd
cyhoeddus ar draws y byd sy’n datblygu, gwelodd Dulas – a wnaeth arloesi gydag
oergelloedd brechlynnau solar yn 1982 – fwlch yn y farchnad a mynd ati i
ddatblygu oergell solar heb fatri. Darllen rhagor.
|
|
|
Eysys yn
camu i farchnadoedd tramor newydd gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru
Gyda chymorth drwy gyllid Arloesi Llywodraeth Cymru, mae Eysys
sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd wedi datblygu ac wedi camu i farchnadoedd
tramor gyda’r platfform e-fasnach Holistic.
Mae hon yn rhaglen sy’n
teilwra agweddau penodol ar wefan yr adwerthwr i ddangos i gwsmeriaid y cynnyrch
sydd fwyaf perthnasol iddynt hwy.
Dywedodd y Cadeirydd, Simon Powell: "O’n safbwynt ni,
bu cymorth Llywodraeth Cymru yn allweddol i ganiatáu i ni ddarparu atebion
personoli technoleg y genhedlaeth nesaf i amryfal sectorau.
Heb y gefnogaeth arloesi a gawsom, ni fyddem wedi gallu llwyddo
fel y gwnaethom yn y 24 mis diwethaf.’
Darllenwch ragor a gweld sut
allwn helpu eich cwmni chi.
|
|
|
Cymru yn ymuno â’r
Vanguard Initiative
Yn ddiweddar, ymunodd Cymru fel 26ain aelod o’r Vanguard Initiative for New Growth through
Smart Specialisation – cynllun a ysgogir gan ymrwymiad rhanbarthau diwydiannol
Ewrop i wneud eu priod sectorau diwydiannol yn fwy cystadleuol a gweithio gyda’i
gilydd i ddatblygu prosiectau mawr ar draws yr UE.
Bydd aelodaeth Cymru o’r Vanguard Initiative yn
rhoi i randdeiliaid yng Nghymru gyfleoedd i gydweithredu yn genedlaethol a
rhyngwladol yn y maes arloesi ac mae iddo’r potensial i wella cyfran Cymru o
gyllid grant gan y DU ac Ewrop.
Canfod rhagor.
|
|
|
Cyllid arloesi yn hanfodol i ddiogelu swyddi
Mae’r
cwmni meddalwedd morol a leolir yng Nghaerdydd GeoVS wedi datblygu System Gwybodaeth
Ddaearyddol (GIS) 3D cwbl flaengar yn y maes, gyda help cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Meddai’r
sylfaenydd Rafal Goralski ‘mae’n amlwg na fyddai’r prosiect wedi mynd rhagddo
heb y cyllid arloesi ac mae wedi helpu i greu system sy’n dal i gael ei
defnyddio’n eang a’i datblygu ymhellach.’
Darllenwch ragor a chanfod sut allwn ni helpu eich
busnes.
|
|
|
Advances
Wales - rhifyn 78 allan nawr
Darllenwch am ymchwil, diwydiant a chydweithio clinigol yn
y rhifyn arbennig hwn o Advances Wales ar fiowyddoniaeth.
Yn y rhifyn hwn rhoddir
sylw i dechnoleg wisgadwy newydd a ddatblygwyd gan anesthetyddion sy’n caniatáu
i weithiwr gofal iechyd proffesiynol fonitro arwyddion hanfodol cleifion ym
mherifferi eu golwg; ymchwil wyddonol arweiniol sy’n defnyddio geneteg i
ragweld canlyniadau clinigol yn gywir; ac ateb cynaliadwy ar gyfer gyrru, sy’n
defnyddio technoleg celloedd tanwydd hydrogen i greu ceir effeithlon o ran
tanwydd. Darllenwch
y rhifyn diweddaraf.
|
Cronfa £136 miliwn
newydd i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi cronfa
newydd gwerth £136 miliwn a ategir gan yr UE er mwyn i fusnesau yng Nghymru
gael mynediad i gyllid i’w helpu i hybu eu cynhyrchedd a thwf economi Cymru.
Bydd Cronfa Fusnes Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Gyllid Cymru,
yn helpu busnesau bach a chanolig eu maint i gyflymu eu cynlluniau ehangu trwy
ddarparu cyllid ar ffurf benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti o £50,000 hyd at
£2 filiwn.
Hefyd
bydd y gronfa yn darparu cyllid i ddechrau busnes yn ogystal â chyfalaf risg ar
gyfer creu a datblygu cwmnïau sy’n gwneud ymchwil ac sy’n arloesi, yn cynnwys
cwmnïau deillio, mewn sectorau twf allweddol. Darllen rhagor.
Pecyn ariannol £21
miliwn er mwyn ehangu
Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi £21 miliwn
o gyllid newydd i helpu Mentrau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru i ehangu a
chreu neu ddiogelu mwy na 1,800 o swyddi.
Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu i fusnesau Cymreig trwy ddwy
gronfa Cyllid Cymru a thrwy Gronfa Ad-daladwy newydd £5 miliwn Llywodraeth
Cymru i Fentrau Bach a Chanolig eu Maint, sy’n cynnig cyllid ad-daladwy rhwng
£50,000 a £500,000 i helpu Busnesau Bach a Chanolig eu Maint i greu swyddi. Nod
y gronfa yw creu a/neu ddiogelu o leiaf 500 o swyddi. Darllen rhagor.
Sioe
Deithiol ar Gyflwr Busnesau drwy SMARTInnovation
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weithdai
rhyngweithiol ledled Cymru lle byddwch yn gallu darganfod sut gall eich busnes
gael tri diwrnod o wasanaeth ymgynghori am ddim i gael cyngor ar ddylunio a
gweithgynhyrchu.
Mae’r sesiynau cyntaf
wedi cael eu cynnal yn Nantgarw a Wrecsam ac maent wedi helpu’r cynrychiolwyr i
wella eu cynhyrchion, lleihau risg drwy fabwysiadu dylunio yn y broses datblygu
cynnyrch a deall beth sy’n atal y broses gynhyrchu rhag gwella. Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad
yn eich ardal chi a chael
gwybod sut gellir helpu eich busnes chi.
Launchpad
cyntaf Gogledd Cymru nawr ar agor
Mae cystadleuaeth Launchpad ar gyfer ffotoneg yn gyfle
cyffrous i ddatblygu’r clwstwr thechnolegau ffotoneg, electro-opteg ac
optoelectroneg.
Cam cyntaf y broses ymgeisio
ydy fideo dwy funud a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ydy canol dydd
ar 6 Ebrill 2016. Canfod
sut i gofrestru a chymryd rhan.
Galwad i
arloeswyr Cymreig arddangos eu gwaith arloesol
Mae busnesau a sefydliadau yng Nghymru yn cael eu hannog
i arddangos eu gwaith arloesi yng Nghymru drwy gynnal digwyddiadau fel rhan o
Ŵyl Arloesi Cymru 2016 a gynhelir o 20 Mehefin - 1 Gorffennaf.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd yr Ŵyl yn rhoi
cyfle i arloeswyr rwydweithio gydag arbenigwyr diwydiannau ac arddangos eu cynhyrchion
a’u gwasanaethau i gwsmeriaid posibl a’r cyhoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Mae ceisiadau yn agored
i fusnesau ymuno drwy gynnal gweithdai, arddangosfeydd, diwrnodau agored, dangosiadau,
darlithoedd a chynadleddau. Canfod rhagor a chymryd rhan.
Dilynwch ni ar
@WG_innovation
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion Arloesedd a
chysylltu â thîm Arloesedd adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
gallwch ein dilyn ar Twitter.
|