Cylchlythyr arloesedd – rhifyn 13 – Ionawr 2016

Newyddion Arloesi

=============
Arloesi

Rhifyn 13, Ionawr 2016

Expertise Wales
=============
semiconductor

Buddsoddiad gwerth £50 miliwn yn rhoi Cymru wrth galon y diwydiant sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ewrop

Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, wedi croesawu buddsoddiad gwerth £50 miliwn sy’n rhoi Cymru wrth galon y diwydiant sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ewrop.

Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud y buddsoddiad hwn, dros y bum mlynedd nesaf, i sefydlu Canolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne Cymru, fel rhan o’r rhwydwaith o gatapyltiau Ymchwil a Datblygu.

Dywedodd Mrs Hart: “Bydd y cyhoeddiad hwn o gymorth i wireddu ein huchelgais i greu clwstwr o ganolfannau yn Ne Cymru a fydd yn arbenigo yn y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd.  Byddant yn gweithio ar raddfa Ewropeaidd ac yn cyrraedd y byd i gyd.  Mae’r datblygiad hwn wir yn dangos hyder ym Mhrifysgolion Cymru, yn ei busnesau lled-ddargludyddion a’i sgiliau.

Mae’n ben llanw dwy flynedd o drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, Innovate UK, y sector busnes lled-ddargludyddion yn Ne Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth y DU.” Darllen ymlaen.

=============
ty ca

Cynhyrchiant Tan Y Castell yn cynyddu gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru

Mae becws traddodiadol Tan Y Castell o Sir Benfro wedi prynu offer newydd gyda chymorth cefnogaeth arloesedd.

Dywedodd Paul Mear, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, o safbwynt datblygu cynnyrch newydd, na fyddai’r cwmni wedi gallu tyfu mor gyflym heb y cyllid arloesedd.

“Mae wedi agos drysau newydd i ni ynghylch sut i feddwl am gynhyrchu.” meddai.

I ganfod sut y gall cymorth arloesedd Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes chi darllenwch yma.

=============
fle

Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo i gynnal swyddi Senior Flexonics

Mae Senior Flexonics, cwmni peirianneg o Grymlyn, wedi datblygu Oerydd Ailgylchrededig Nwyon Gwacáu gyda chefnogaeth arloesedd Llywodraeth Cymru.

Mae hyn hefyd wedi cynorthwyo i sicrhau bod y cwmni a’u swyddi yn aros yn y DU ac mae wedi cyfrannu at newidiadau o ran agwedd yn y sefydliad, sydd wedi rhoi mwy o bwyslais ar arloesedd ac Ymchwil a Datblygu.  Darllenwch ymlaen.

=============
std

Arloeswyr y dyfodol yng Nghymru

Mae Oliver Stokes, disgybl ysgol o Drefynwy wedi curo bron i 16,000 o fyfyrwyr i fod yn enillydd Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr 2015.

Rhoddwyd canmoliaeth yn y Gwobrau i uned garbonadu gludadwy Oliver ar gyfer poteli diod, gwobrau sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru a CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn flaenorol).

Roedd 80 o brosiectau yn cael eu harddangos yn y gwobrau eleni, a bydd nifer o’r rhain yn cynrychioli Cymru yn awr yn The Big Bang Fair yn yr NEC yn Birmingham ym mis Mawrth.  Darllenwch ymlaen.

=============
opt

Pad lansio cyntaf Gogledd Cymru

Mae cystadleuaeth Pad Lansio ffotoneg yn cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru.

Mae cynnig Pad Lansio Innovate UK yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu’r clwstwr o dechnolegau ffotoneg, electro-optig ac optoelectroneg.

Mae Padiau Lansio yn darparu cyllid ar gyfer arloesedd busnesau sy’n cefnogi datblygiad ac atgyfnerthu clystyrau o gwmnïau uwch-dechnoleg bach a chanolig eu maint mewn meysydd themâu a lleoliadau daearyddol penodol.

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth ar 11 Chwefror 2016 yn y Ganolfan OpTIC, Llanelwy. Darllenwch fwy am hyn a chael gwybodaeth am y broses gwneud cais

=============
flam

Ymchwil yn ysgogi datblygiad cynnyrch gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru

Mae cwmni Flamgard o Bont-y-pŵl wedi atgyfnerthu ei arbenigedd ymchwil a datblygu mewnol drwy sefydlu labordy ymchwil a datblygu newydd ym mhencadlys y cwmni, gyda chefnogaeth gan gyllid arloesedd Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfleuster yn galluogi Flamgard i gynnal profion penodol i brofi llif aer, gostyngiadau pwysedd a mesurau perfformiad eraill yn ymarferol, gan ddefnyddio offer profi penodedig.

Dywedodd Steve Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni:  “Diolch i SMARTCymru rydym wedi llwyddo i ddatblygu diffoddwr tân o safon uchel ac mae hyn wedi ein cynorthwyo i fod yn un o brif gyflenwyr dyfeisiadau o’r fath yn y diwydiannau prosesau”. I ganfod sut y gallwn gynorthwyo eich cwmni chi darllenwch yma.

=============
healt

Archwiliad iechyd i fusnesau arloesedd

Mae gwasanaeth Arloesi SMART Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth tri diwrnod o gyngor am ddim i fusnesau ar ddylunio a gweithgynhyrchu.

Mae’r cymorth hwn yn rhan o becyn newydd o gefnogaeth SMART sy’n cael ei chefnogi gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd.

 Mae Rhys Hughes, o P&A Group wedi elwa o dderbyn y cyngor hwn.  Dywedodd “Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yn awr i’n helpu i ddatblygu ein prosesau gweithgynhyrchu ac yn yr wythnosau diwethaf rydym wedi cyflogi unigolyn â chefndir o gynhyrchu a chynllunio i’n cynorthwyo gyda’r gwelliannau sydd eu hangen.

I gael gwybodaeth ar sut y gallwn gynorthwyo eich busnes chi darllenwch yma.

=============

Taith Exporting is GREAT yn ymweld â Chymru

Estynnir gwahoddiad i gwmnïau yng Nghymru fynychu cyfres o ddigwyddiadau am ddim er mwyn datblygu eu busnes allforio.

Mae taith Exporting is GREAT, menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Masnach a Buddsoddi y DU yn ymweld â Chymru rhwng 15 a 26 Chwefror.

Bydd y digwyddiadau, a fydd yn cael eu cynnal mewn deg lleoliad ar hyd a lled y wlad, yn gallu darparu cyfle i’ch busnes gwrdd ag arbenigwyr i drafod cyfleoedd busnes rhyngwladol ac i ofyn am gyngor ar eu marchnadoedd targed drwy gyfres o gyfarfodydd un i un a seminarau - beth bynnag yw eich maint neu sector.  Darllenwch fwy a threfnu eich apwyntiad er mwyn sicrhau bod eich busnes yn gallu cysylltu â’n rhestr gynhwysfawr o gysylltiadau rhyngwladol.

=============

Lansio Cyfeiriadur Busnesau Cymru

Mae Busnes Cymru wedi lansio cyfeiriadur ar-lein newydd o Fusnesau Cymru er mwyn cynorthwyo cwmnïau i hyrwyddo eu hunain i ddarpar gwsmeriaid newydd, a chodi eu proffil.

Gall defnyddwyr wneud chwiliad cyflym am fusnesau yng Nghymru yn ôl eu henw, sector, rhanbarth a hidlwyr eraill ac mae’r broses rhestru a chwilio yn rhwydd.

Gallwch hybu eich nwyddau, gwasanaethau a’ch cymwysterau i fusnesau eraill a darpar gwsmeriaid a galluogi i fusnesau a defnyddwyr eraill ganfod eich busnes chi yma.

=============

Hwb ariannol o £14 miliwn gyda chefnogaeth yr UE i beirianneg uwch yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £14 miliwn gyda chefnogaeth yr UE i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn sector peirianneg Cymru.

Gyda chefnogaeth ariannol gwerth £8.6 miliwn gan yr UE, bydd Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau technegol arbenigol a rheoli sy’n allweddol i’r sector peirianneg uwch a deunyddiau.  Darllenwch ymlaen.

=============

Rhyddhad Ardrethi ar Fusnesau Bach wedi’i ymestyn am flwyddyn gyda £98 miliwn

Bydd Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, yn ôl Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.

Mae’r cynllun £98 miliwn, fydd yn helpu dros dri chwarter o fusnesau yng Nghymru, yn golygu na fydd oddeutu hanner pob busnes cymwys yn talu ardrethi busnes eto yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Darllenwch ymlaen.

=============

BioCymru 2016 – 1-2 Mawrth, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd

BioCymru yw’r digwyddiad blaenllaw ar gyfer y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.  Gyda llu o siaradwyr byd-enwog, gweithdai, cynllun partneru a noddwyr, y digwyddiad hwn yw un o’r cynadleddau mwyaf yng Nghymru ar y Gwyddorau Bywyd.

Mae’r thema o gysylltu a chydweithio eleni yn cynnig cyfle unigryw yng Nghymru i ryngweithio gydag unigolion allweddol, arloeswyr, buddsoddwyr, cwmnïau ac academyddion.  Bydd cyfle i chi ymuno mewn trafodaethau amrywiol a rhannu eich syniadau chi a datblygu cysylltiadau newydd gyda thros 600 o fynychwyr Darllenwch ymlaen.

=============

Gŵyl Arloesedd Cymru 2016 – 20 Mehefin - 1 Gorffennaf

Bellach yn ei 3edd flwyddyn, bydd Gŵyl Arloesedd Cymru yn arddangos arloesedd yng Nghymru drwy nifer o ddigwyddiadau, seminarau a gweithdai sy’n cael eu cynnal gan gwmnïau a chan academia.

Bydd yr Ŵyl yn darparu cyfle i arloeswyr rwydweithio gydag arbenigwyr diwydiant ac arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau i ddarpar gwsmeriaid ac i’r cyhoedd o Gymru a thu hwnt. Darllenwch ymlaen.

=============

Dilynwch ni ar  @WG_innovation

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion Arloesedd a chysylltu â thîm Arloesedd adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gallwch ein dilyn ar Twitter.

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.