|
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
E-fwletin y Tîm Gofal Plant
Tachwedd 2019
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth neu unrhyw gefnogaeth gyda’r testunau a drafodir isod cysylltwch â’r Tîm Gofal Plant ar childcareteam@wrexham.gov.uk neu 01978 292094
Cymhwyster Gwaith Chwarae
Ar gyfer staff sydd heb gofrestru ar gyfer y cymhwyster eto, mae’r cyllid wedi’i gapio, felly dim ond ar gyfer ymarferwyr sy'n uwchsgilio y mae cyllid ar gael. Mae Coleg Cambria, Plato Training a Chwarae Cymru yn cynnig y cymhwyster.
Manylion cyswllt ar gyfer Coleg Cambria:
Gari Thomas
Ffôn:07738-112478
01978-267189
Manylion are gyfer Plato Training:-
Lisa@platotraining.co.uk
07896545484
PLAYWALES L2APP:-
O fis Ionawr 2020, bydd CIW yn mynd ar-lein ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gyflawni eich holl fusnes gyda ni drwy CIW ar-lein.
Bydd CIW yn ysgrifennu at yr holl ddarparwyr gofal plant a chwarae i roi gwybod iddynt fod angen iddynt gwblhau a chyflwyno SASS gan ddefnyddio CIW ar-lein. Bydd SASS ar agor o'r 6 Ionawr 2020 ac yn cau ar 4 Chwefror 2020.
Mae’n ofynnol bod yr holl ddarparwyr gofal plant a chwarae yn cwblhau SASS, gan ei fod yn rhan o’r casgliad data blynyddol. Os ydych chi angen unrhyw gefnogaeth i lenwi eich SASS cysylltwch â’r tîm gofal plant a bydd un o’r swyddogion gofal plant yn fodlon dod i’r lleoliad i’ch cefnogi.
 |
|
Plant mewn angen
Dathlwyd Plant mewn Angen ar 15 Tachwedd. Wnaethoch chi fel lleoliad gynnal digwyddiad codi arian ar gyfer yr achos arbennig hwn, er enghraifft gwneud cacennau, gwisgo pyjamas am y diwrnod. Byddem wrth ein boddau yn gweld unrhyw luniau yr hoffech eu rhannu gyda’r Tîm Gofal Plant i weld faint o hwyl a gafwyd.
Dyma lun hyfryd gan Julie’s Child-minding yn dangos eu darn celf hyfryd ar gyfer Plant mewn Angen.
|
Proses hyfforddi newydd ar-lein
Ydych chi’n ymwybodol o’n porth hyfforddi ar-lein newydd sydd gennym er mwyn i leoliadau archebu eu cyrsiau hyfforddi? Hoffem glywed eich safbwyntiau am y system. Ydi o'n gweithio'n dda? A yw’r system ar-lein yn syml? Rhannwch unrhyw safbwyntiau gyda’r Tîm Gofal Plant.
Hefyd, dyma’r ddolen gyswllt os hoffech gael mynediad at yr hyfforddiant ar-lein:-
www.wrexham.gov.uk/ChildcareTraining
 |
|
Digwyddiad Rhwydweithio Chwarae blêr y Nadolig
Roedd ein digwyddiad rhwydweithio'r tymor hwn yn canolbwyntio ar syniadau crefftau blêr y Nadolig. Roedd yn ddigwyddiad llawn hwyl a rhyngweithiol gan gyflwyno syniadau newydd i'r lleoliadau eu defnyddio gyda'u plant yn ystod tymor y Nadolig.
Mae ein digwyddiadau Rhwydweithio yn wych er mwyn rhannu syniadau a chael sgwrs anffurfiol am unrhyw gwestiynau yr hoffech gael atebion iddynt.
|
Panel Anabledd
Fel lleoliad, oes gennych chi blentyn a fyddai'n elwa o Ddwylo Ychwanegol? Os felly, gweler isod y calendr o derfynau amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau. Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am Ddwylo Ychwanegol neu eich bod eisiau ffurflen gais cysylltwch â'r Tîm Gofal Plant ar Childcareteam@wrexham.gov.uk
|
Dyddiad y Panel
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
|
|
20 Tachwedd
|
25 Hydref
|
|
18 Rhagfyr
|
29 Tachwedd
|
|
15 Ionawr
|
27 Rhagfyr Ceisiadau ar gyfer hanner tymor Chwefror
|
|
19 Chwefror
|
31 Ionawr Ceisiadau ar gyfer gwyliau’r Pasg
|
|
18 Mawrth
|
28 Chwefror
|
|
15 Ebrill
|
27 Mawrth Ceisiadau ar gyfer hanner tymor mis Mai
|
|
20 Mai
|
24 Ebrill
|
|
17 Mehefin
|
29 Mai Ceisiadau ar gyfer gwyliau’r haf
|
|
15 Gorffennaf
|
26 Mehefin
|
|
19 Awst
|
31 Gorffennaf
|
 |
|
Digwyddiad Calan Gaeaf / Tân Gwyllt
Rydym yn gobeithio bod y plant wedi mwynhau cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau Calan Gaeaf neu noson tân gwyllt yn eich lleoliad. Beth oedd eu hoff weithgaredd? Hoffem weld unrhyw luniau yr hoffech eu rhannu gyda ni ar gyfer y bwletin nesaf. Os ydych chi’n dymuno anfon unrhyw luniau anfonwch nhw ar e-bost at y Tîm Gofal Plant ar childcareteam@wrexham.gov.uk
|
 |
|
Lluniau Rhyng-genhedlaeth
Fe benderfynodd Hwyaid a Chywion Bach Cylch Chwarae Gresffordd y byddent yn ymuno â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn felly gwahoddwyd teidiau a neiniau'r plant ynghyd ag aelodau o'r WI lleol ac aelodau hŷn y gymuned i Fore Coffi.
Cyn y digwyddiad bu’r plant yn brysur yn peintio a phlannu bylbiau bychan i roi anrheg i bob person gan y plant a'r cylch chwarae.
|
Gweler isod ddolen gyswllt ar gyfer Boogie Beats ynglŷn ag uno cenedlaethau yn Wrecsam.
https://news.wrexham.gov.uk/bringing-generations-together-in-wrexham/
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
Oeddech chi’n gwybod y gall WFIS ddarparu gwybodaeth a chyngor arbenigol yn rhad ac am ddim i deuluoedd ar ystod o destunau, nid gofal plant, costau gofal plant a Chynnig Gofal Plant Cymru yn unig?
Gall WFIS eich helpu gyda:
- Ffynonellau o gefnogaeth leol i deuluoedd
- Iechyd a Lles
- Tai;
- Cyngor ar fudd-daliadau a dyledion
- Gweithgareddau i blant a phobl ifanc ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol;
- Rhianta a chefnogaeth rhianta;
- Datblygiad plant, ymddygiad, cwsg ac ati
- Cymorth perthnasoedd
- Anabledd ac anghenion ychwanegol
- A llawer mwy...
Gall WFIS gefnogi teuluoedd o feichiogrwydd hyd at ben-blwydd y plentyn yn 20 oed.
Wyddech chi fod gan WFIS Ymgynghorwyr Cefnogi Rhieni?
Mae’r Ymgynghorwyr Cefnogi Rhieni yma i gynorthwyo teuluoedd i ganfod gwasanaethau ac i’w cefnogi pan fod materion cymhleth, materion iechyd meddwl, anableddau neu anghenion ychwanegol, neu Saesneg fel iaith ychwanegol, fel enghreifftiau.
Cysylltwch â WFIS i ddysgu mwy neu i wneud cais am gefnogaeth ar gyfer teulu yn eich lleoliad. Noder mae angen i rieni roi caniatâd i WFIS gysylltu â nhw.
Rhif ffôn: 01978 292094
E-bost: fis@wrexham.gov.uk
Galw heibio: Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd Dydd Llun - Dydd Gwener 10:30 – 2:30
Facebook: www.facebook.com/WrexhamFamilyInformationService
Twitter: www.twitter.com/WrexhamFIS
|