Mae Lifeworks yn eich paratoi chi i ddychwelyd i weithio, gwirfoddoli neu i addysg bellach yn gynt.

 

Lifeworks


lifeworks Nov 2016

Mae Lifeworks yn eich paratoi chi i ddychwelyd i weithio, gwirfoddoli neu i addysg bellach yn gynt.

 

Os ydych chi’n gyn-filwr sy'n chwilio am waith neu'n gweithio mewn swydd nad ydych chi’n ei  mwynhau, fe allwch chi fynychu’r cwrs hwn, dim ots pryd y bu i chi wasanaethu na pha mor hir.   

 

Mae'r cwrs yn ymateb i'ch anghenion. Bydd y cwrs yn siŵr o’ch helpu i wella’ch CV a dysgu sut i ysgrifennu llythyrau eglurhaol da. Ond nid dyma’r unig bethau y bydd y cwrs 5 niwrnod yn canolbwyntio arnyn nhw.  

 

Mae’r elfennau ychwanegol yn cynnwys:

  • Proffilio gyrfaol unigol
  • Trosi sgiliau milwrol penodol yn sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi
  • Hyfforddi ar gyfer newid
  • Awgrymiadau ar ddatgelu (lle bo'n berthnasol)
  • Cyflwyniad i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol os ydych chi'n chwilio am waith
  • Cyfweliadau ffug gyda chynrychiolwyr busnes lleol
  • Esboniad o gwrs cefnogi "Reach Back" Diwydiannau’r Lleng Brydeinig Frenhinol, sydd ar gael yn barhaus gan y Tîm Lifeworks
  • Gwybodaeth am rwydweithiau cefnogi lleol a chenedlaethol eraill 

I atgyfeirio, y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud yw ffonio 0800 319 6844.