Newyddion Llyfrgelloedd | Library News

coc

Newyddion Llyfrgelloedd

Library News

Newyddion Llyfrgelloedd am yr wythnos yn dechrau 22 Mai

Library News for the week beginning 22 Mai

jub

Hwyl Jiwbilî!

Mae gan Lyfrgelloedd Wrecsam weithgareddau gwych i chi gymryd rhan ynddynt fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî. Ar gyfer plant mae gennym gystadleuaeth Dylunio Coron, gyda gwobr ar gyfer pob oedran categori. Rydyn ni’n gofyn i blant ddylunio coron sy’n cynnwys rhywbeth sy’n ymwneud â: bywyd y Frenhines neu, gydag arfbais neu symbolau brenhinol. Y grwpiau oedran ar gyfer y gystadleuaeth hon yw: 6 oed ac iau; 7-11 a 12-16. I oedolion mae cystadleuaeth Taith Jiwbilî o amgylch ein llyfrgelloedd. Os llwyddwch i ddod o hyd i ddelweddau cudd y Jiwbilî ym mhob llyfrgell gallwch gymryd rhan yn y raffl i ennill taleb anrheg Amazon. Yn olaf, a dim ond am hwyl, mae gêm Bingo Jiwbilî – casglwch eich ‘cerdyn’ o’ch llyfrgell leol a darllenwch lyfr yn ymwneud â phob categori. Ceir rhagor o fanylion yn eich llyfrgell leol. Y dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau yw 20 Mehefin 2022.

Jubilee Fun!

Wrexham Libraries has some great activities for you to take part in as part of the Jubilee celebrations.  For children we have a Design a Crown competition, with a prize for each age category.  We are asking children to design a crown which includes something relating to: the Queen’s life or, with a coat of arms or with royal symbols.  The age groups for this competition are: 6 years and under; 7-11 and 12-16.  For adults there is a Jubilee Tour competition around our libraries.  If you manage to find the hidden Jubilee images in every library you can enter the prize draw to win an Amazon gift voucher.  Finally, and just for fun, there is a Jubilee Bingo game – collect your ‘card’ from your local library and read a book relating to each category.  More details can be found at your local library. Closing date for the competitions is 20th June 2022.


aom

Awdur y Mis

Magwyd Jon Gower yn Llanelli a graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt. Mae’n gyn-ohebydd celfyddydau a chyfryngau BBC Cymru, y mae galw mawr amdano fel cynhyrchydd, cyflwynydd a siaradwr cyhoeddus, ac mae’n teithio’r byd fel llysgennad Gŵyl y Gelli. Mae’n awdur toreithiog gyda’i nofel 2010 Uncharted wedi derbyn clod beirniadol di-ben-draw, tra enillodd ei lyfr An Island Called Smith wobr John Morgan Travel. Enillodd ei nofel Gymraeg Y Storïwr Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012. Mae Jon bellach yn byw yng Nghaerdydd.  Mae llyfrau gan Jon Gower ar gael yn eich llyfrgell leol.

Author of the Month

Jon Gower grew up in Llanelli and graduated in English from Cambridge University.  He is a former BBC Wales arts and media correspondent, who is much in demand as a producer, presenter and public speaker, and travels the world as an ambassador for the Hay Festival. He is a prolific author with his 2010 novel Uncharted received unstinting critical acclaim, whilst his book An Island Called Smith won the John Morgan Travel award. His Welsh-language novel Y Storïwr won the Wales Book of the Year Award in 2012. Jon now lives in Cardiff.  Books by Jon Gower are available from your local library.


bb

Welsh books on BorrowBox

Did you know Wrexham Libraries offer a service where you can download 10 eBooks for free for 21 days via the BorrowBox App?  The Welsh Books Council have teamed up with BorrowBox to supply all of the Welsh language eBooks via this app. Borrowing digital content has never been simpler, smarter or more convenient. BorrowBox digital content is available any time from work, home or anywhere 24/7. Browse their library of the world's best authors and titles as well as enjoying newsletters, bonus interviews and author profiles.  How and where you enjoy your favourite titles is your choice in just a few easy steps, all you need is a valid library card.  For more details visit www.wrexham.gov.uk/libraries and follow the online service link.

Llyfrau Cymraeg ar BorrowBox

Oeddech chi’n gwybod fod Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnig gwasanaeth lle gallwch lawrlwytho 10 eLyfr a 10 eLyfr Clywedol am ddim am 21 diwrnod drwy Ap BorrowBox? Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymuno â BorrowBox i gyflenwi pob un o eLyfrau Cymraeg trwy'r ap hwn.  Dydi benthyg cynnwys digidol erioed wedi bod mor syml, clyfar nac yn fwy cyfleus. Mae cynnwys digidol BorrowBox ar gael ar unrhyw adeg a hynny o'r gwaith, cartref neu unrhyw le a hynny 24/7. Porwch drwy eu llyfrgell o awduron a theitlau gorau'r byd yn ogystal â mwynhau newyddlenni, cyfweliadau bonws a phroffiliau awduron.  Chi sy’n dewis sut ac yn lle y byddwch chi’n mwynhau’ch hoff lyfrau a hynny drwy ddilyn ychydig o gyfarwyddiadau syml. Yr unig beth sydd arnoch chi ei angen yw cerdyn llyfrgell dilys. Am fwy o fanylion ewch i www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd a dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein.


rs

Cyngor Galw Heibio yn llyfrgell Rhos

Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, PaCE a Chymunedau am Waith yn cynnal gwasanaeth galw heibio am ddim yn llyfrgell Rhos ddydd Mercher 25 Mai 10 – 12yp. Os hoffech gael gwybodaeth a chyngor ar ofal plant, cyrsiau am ddim, dychwelyd i'r gweithle, gwneud cais am swyddi a llawer mwy, beth am ymweld â nhw. Does dim angen archebu lle, ac mae croeso cynnes yn eich disgwyl. Am fwy o wybodaeth ffoniwch y llyfrgell ar 01978 840328.

Advice Drop In at Rhos library

Family Information Serive, PaCE and Communities for Work will be holding a free drop in service at Rhos library on Wednesday 25 May 10 – 12pm.  If you would like information and advice on childcare, free courses, getting back into the workplace, applying for jobs and much more then why not pay them a visit.  There is no need to book, and a warm welcome awaits you.  For more information call the library on 01978 840328.


bh

Llyfrgelloedd ar gau dros Gwyliau Banc

Bydd holl Lyfrgelloedd Wrecsam ar gau ddydd Iau 2il a dydd Gwener 3ydd Mehefin. Bydd llyfrgelloedd Wrecsam, Owrtyn a Brynteg yn gweithredu eu horiau agor arferol ddydd Sadwrn 4 Mehefin, a bydd yr holl lyfrgelloedd eraill yn ail-agor ddydd Llun 6 Mehefin. Bydd ein holl wasanaethau ar-lein yn parhau ar agor a gellir eu cyrchu drwy www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd a dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein.

Bank Holiday Closures

All of Wrexham’s Libraries will be closed on Thursday 2nd and Friday 3rd of June.  Wrexham, Overton and Brynteg libraries will operate their normal opening hours on Saturday 4th June, with all other remaining libraries re-opening on Monday 6th June.  All of our online services will remain open and can be accessed via www.wrexham.gov.uk/libraries and follow the online services link.


book

Welsh Book Review

O’r Cyrion i’r Canol gan Ieuan Wyn Jones

Hunangofiant cyn-arweinydd Plaid Cymru ar cyn-ddirprwy Brif Weinidog.

Dyma hanes y cyfreithiwr a aeth yn Aelod Seneddol ac yna’n Aelod Cynulliad Ynys Mon.  Hyfrydwch yw cael croesawu cyfrol o atgofion hynod ddifyr gan wleidydd a fu’n chwarae rhan mor ganolog yn ein hanes gwleidyddol diweddar. Drwy gydol y blynyddoedd cyffrous hyn roedd yr awdur ynghanol y berw gwleidyddol yng Nghymru, ac yn fawr ei ddylanwad ac yn uchel ei barch, hyd yn oed gan wleidyddion o fewn y pleidiau gwleidyddol eraill – camp nid bychan.  Mae’r atgofion hyn yn arbennig o werthfawr i ddeall gweithredoedd a manylion llywodraeth y glymblaid rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur pan wasanaethodd yr awdur yn ddirprwy i Rhodri Morgan, a symudodd ei blaid i brif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru am y tro cyntaf yn ei hanes.  Yn dilyn ei ymddeoliad ei brif ddiddordeb yw ei ymwneud â sefydlu M-SParc, sef Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru.   Llunnir y cyfan o’r cynnwys mewn arddull bersonol, hawdd ei darllen a fydd yn sicr o ysbrydoli nifer fawr o ddarllenwyr, a hyfryd yw gweld cynifer o ffotograffau a lluniau, rhai swyddogol a llai personol, wedi eu cynnwys. Dyma wledd o ddarllen difyr.  Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.