Cylchlythyr mis Tachwedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@llyw.cymru

NPW News Banner

Tachwedd 2017

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Edrych i'r Dyfodol

3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

 

1. Newyddion


Bilingual Go Awards 2017

Llongyfarchiadau i holl enillwyr Gwobrau GO Cymru!


Llongyfarchiadau i holl enillwyr Gwobrau GO Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Enwebwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ar gyfer chwe Gwobr GO eleni a gwnaethant lwyddo i ennill un categori a derbyn Cymeradwyaeth Uchel mewn dau gategori arall.


Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl help y gwnaethom ei dderbyn gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid ar gyfer y gwobrau hyn.


Gwnaeth tîm Cyfleustodau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ennill Gwobr Caffael Cynaliadwy GO am ei waith yn dod ag ynni adnewyddadwy i'w holl gwsmeriaid.
 
Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr yn nhîm Gwasanaethau Caffael Corfforaethol yn Llywodraeth Cymru a dderbyniodd Gymeradwyaeth Uchel yng nghategori Tîm Caffael y Flwyddyn am wella llywodraethu masnachol a chydymffurfio o fewn Llywodraeth Cymru.


Llongyfarchiadau hefyd i Is-adran y Môr a Physgodfeydd, Llywodraeth Cymru a weithiodd gyda'r Gwasanaeth Caffael Corfforaethol a dderbyniodd Gymeradwyaeth Uchel mewn Arloesedd / Menter Caffael am gaffael Asedau Pysgodfeydd - gwaith da iawn!


iCOM Works Ltd

Rydym yn falch o gyhoeddi, y bu iCOM Works Ltd, y darparwr gwasanaeth a reolir o Gaerdydd, a benodwyd i gytundeb fframwaith Buddion i Weithwyr y GCC, yn llwyddiannus wrth ennill Gwobr Busnes Gorau GO (cyflenwyr, darparwyr gwasanaethau a chontractwyr sy'n gweithio gyda sector cyhoeddus Cymru).

 

Dywedodd Dave Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr iCOM Works Ltd, "Rydym yn bendant yn argymell unrhyw fusnes i ymgeisio am Wobrau GO Cymru. Mae'n teimlo'n wych i gael ein cydnabod am y cynnyrch gwych sydd gennym! "

 

Llongyfarchiadau i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru am eu henwebiadau a'u llwyddiant yn y gwobrau.

 

Mae oriel o ffotograffau''r digwyddiad ar gael yma: http://www.goawards.co.uk/wales/winners/gallery/

 

Bydd cynllunio ar gyfer gwobrau 2018 yn dechrau'n fuan felly dechreuwch ystyried eich ceisiadau nawr!

 


Adolygiad o'r GCC a Gwerth Cymru

 

Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn sefydlu adolygiad annibynnol o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys rhanddeiliaid wrth bennu siâp y ddau sefydliad yn y dyfodol, y model cyllido a'r trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer caffael ar lefel genedlaethol. Disgwylir i'r adolygiad gael ei gwblhau o fewn chwe mis.

 

Bydd Marion Stapleton, Dirprwy Gyfarwyddwr Tîm Strategaeth Trawsbynciol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, yn arwain yr adolygiad ac o ganlyniad, cyfeiriad polisi'r dyfodol. Bydd Sue Moffatt yn camu'n ôl o reolaeth y GCC o ddydd i ddydd am gyfnod yr adolygiad, a bydd Jonathan Hopkins yn gyfrifol am y GCC, Gwerth Cymru, Arloesi Masnachol, a Pholisi a Chyflenwi Masnachol. Bydd Sue Moffatt yn parhau fel Cyfarwyddwr Masnachol yn gyfrifol am Lywodraethu a Sicrwydd Masnachol, Gwasanaethau Caffael Corfforaethol Llywodraeth Cymru, Cyfathrebu, yr Uned Fasnachol a Chaffael (TGCh), Cudd-wybodaeth Busnes a chynghori ar agweddau caffael 'Brexit'.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom drwy NPSCommunications@llyw.cymru

 


Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

 
Yn dilyn cyhoeddi'r Adroddiad Caffael Cyhoeddus yng Nghymru gan Swyddfa Archwilio Cymru mis diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad ychwanegol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
 
Rydym yn falch bod Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod pwysigrwydd rôl caffael wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i Gymru.
 
Rydym yn croesawu canfyddiadau'r adroddiad ac mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ail-ffocysu'r GCC a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys ailasesu sut mae'r GCC yn gweithio gyda'i gwsmeriaid, cytuno ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ac adolygu'r weithdrefn optio allan.
 
Byddwn yn ystyried yr holl argymhellion yn yr adroddiad, a byddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach priodol mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid y sector cyhoeddus, partneriaid busnes a phartneriaid cymdeithasol.


Mae'r adroddiad ar gael yma: http://www.audit.wales/cy/cyhoeddi/y-gwasanaeth-caffael-cenedlaethol
 
Rydym yn croesawu'ch adborth felly os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch e-bost atom drwy NPSCommunications@llyw.cymru


Mark Drakeford

Gallu Caffael


Defnyddiodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ei araith yn Procurex i gyhoeddi gwaith ar ddatblygu gallu caffael.
 
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS), i adeiladu gallu masnachol ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn cwmpasu rhaglenni hyfforddi, hyrwyddo uniondeb a safonau moesegol ac yn cefnogi datblygiad a chymwysterau proffesiynol.
 
Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â CIPS drwy nodi ei chefnogaeth i fabwysiadu dull trwydded wirfoddol o weithredu i'w ddefnyddio ledled y proffesiwn caffael a chyflenwi. Caiff y drwydded ei llunio i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol ym maes caffael yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau gofynnol i reoli eu caffael yn briodol a'u bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau eu sefydliad er mwyn cefnogi ei pherfformiad. 

 

 

Bydd y gwaith ar allu yn rhan o raglen bum mlynedd ar gyfer caffael a fydd hefyd yn cwmpasu nifer o brosiectau er mwyn cefnogi'r ddarpariaeth mewn amrywiaeth o flaenoriaethau, gan gynnwys  Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, datgarboneiddio a datblygu gallu.


Procurex yn dod i Gymru am y drydedd flwyddyn


Daeth cynhadledd caffael fwyaf Cymru, Procurex i Gaerdydd ar ddechrau'r mis.
 
Daeth dros 1000 o gynrychiolwyr o fwy na 320 o sefydliadau gwahanol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i'r digwyddiad. Roedd 85 o stondinau arddangos y gallai'r cynrychiolwyr ymweld â nhw ac roedd dewis ganddynt o fwy na 60 o gyflwyniadau a sesiynau grŵp drwy gydol y dydd.
 

Procurex 2017
Pafiliwn Llywodraeth Cymru

Roedd y sesiynau yn seiliedig ar bedair thema strategaeth 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru sef: Cymru sy'n Ffyniannus a Diogel, Cymru sy'n Iach ac Egnïol, Cymru sy'n Uchelgeisiol ac yn Dysgu, a Chymru sy’n Unedig a Chysylltiedig.

 

Disgwylir y caiff digwyddiad Procurex Cymru y flwyddyn nesaf ei gynnal yn y Motorpoint Arena, Caerdydd ar 8 Tachwedd 2018. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn fuan.

 

Os oes gennych unrhyw adborth ar y digwyddiad eleni neu os hoffech gymryd rhan y flwyddyn nesaf rhowch wybod i ni drwy e-bostio: NPSCommunications@llyw.cymru


Rhestr o Fframweithiau Byw


Mae'r rhestr o Fframweithiau'r GCC sydd ar gael i'w defnyddio (o 14 Tachwedd ymlaen) wedi'i diweddaru ar ein gwefan: http://gcc.llyw.cymru/categories/framework-agreements/?lang=cy


2. Edrych i'r Dyfodol


Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl 'Edrych i'r Dyfodol' isod. Cysylltwch ag e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am y digwyddiadau.


Edrych i'r Dyfodol mis Tachwedd:

http://gov.wales/docs/nps/171129-forward-look-cy.pdf



3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.


Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau


Hysbysiadau Dyfarnu Contractau



Y Wybodaeth Ddiweddaraf

  • Gwaith Cadwraeth – rydym yn ystyried y posibilrwydd o gaffael fframwaith sy'n cwmpasu gwaith cadwraeth ar adeiladau rhestredig a henebion o bwys hanesyddol. Y mathau o waith a gwmpesir fydd gwaith cadwraeth arbenigol ond hefyd rhywfaint o waith mwy cyffredinol, fel gwaith adeiladu masnachol, gwaith allanol/tirlunio ac ati lle bo'r gwaith hwnnw o fewn adeiladau hanesyddol neu'n agos atynt. Os ydych yn gwsmer a'ch bod yn credu bod gennych eiddo y bydd angen gwneud y math hwn o waith arno, cysylltwch â ni yn y blwch post categori isod gan fynegi eich diddordeb yn y prosiect yn uniongyrchol

  • Mini-gystadlaethau – cyn bo hir, byddwn yn dechrau dwy fini-gystadleuaeth fel a ganlyn:

    - Gwaith Cynnal a Chadw Lifftiau Masnachol gyda Chyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Penfro
    - Contract Gwasanaethu Mecanyddol gyda Chyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

    Mae'r rhain yn gyfleoedd cyffrous i gydweithio i bawb dan sylw. Os yw eich sefydliad yn dymuno bod yn rhan o'r naill gystadleuaeth neu'r llall, neu os byddai gennych ddiddordeb mewn GCC yn rhoi cefnogaeth i fini-gystadleuaeth tebyg yn eich rhanbarth, cysylltwch â ni yn y blwch post isod.

  • Deunyddiau Glanhau a Phorthorol – rydym yn cynnal trafodaethau ag Arrow County Supplies ynglŷn â newidiadau posibl i brisiau eitemau craidd o'r Fframwaith Deunyddiau Glanhau a Phorthorol. Caiff rhagor o fanylion eu lanlwytho i GwerthwchiGymru maes o law ac erbyn canol mis Rhagfyr 2017.

    Mae'r ymarfer amrywio prisiau blynyddol wedi cael ei gwblhau ar gyfer y fframweithiau canlynol ac mae amserlenni prisio diwygiedig wedi cael eu lanlwytho i GwerthwchiGymru.

    - Deunyddiau Trydanol, Gwresogi a Phlymio
    - Offer Llaw a Chyfarpar Trydanol Bach

    https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?Type=13045&Path=13045


    Cysylltu: NPSConstruction&FM@llyw.cymru

     


    Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

    • Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol Llachar, Lifreion, Gwisg Gwaith a Gwisg Hamdden – cynhelir dau ddigwyddiad lansio fframwaith ar 5 Rhagfyr a 13 Rhagfyr yn Ne a Gogledd Cymru. Bydd y digwyddiadau'n cynnwys marchnad anffurfiol a fydd yn gyfle i brynwyr gwrdd â holl gyflenwyr y fframweithiau wyneb yn wyneb i drafod gofynion ac anghenion yn y dyfodol, a gweld y cynhyrchion allweddol sydd ar gael. Ceir rhagor o wybodaeth i brynwyr yma:
      https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_NPS/bulletins/1c53cf6

    • Fframwaith Prynu Cyfryngau, Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Chysylltiadau Cyhoeddus – cafodd tendrau eu cyflwyno ar gyfer lot 1, Prynu Cyfryngau, ar 18 Hydref ac mae'r broses werthuso'n cael ei chwblhau ar hyn o bryd. Bydd y lot Prynu Cyfryngau ar Fframwaith presennol Gwasanaethau Amlasiantaethol Cymru Gyfan yn cael ei hymestyn er mwyn bodloni gofynion cwsmeriaid yn y cyfamser. Cysylltwch â ni yn y blwch post isod os oes gennych unrhyw ymholiadau.

    • Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo – sylwer nad oes dyddiaduron mewn stoc mwyach. Mae cyfarfod Grŵp Fforwm Categorïau yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2018. Os oes gan unrhyw gwsmeriaid ddiddordeb mewn mynd, neu os oes gennych adborth i ni ddefnyddio yn ystod y cyfarfod, cysylltwch â ni yn y blwch post isod.


      Cysylltu: NPSCorporateServices@llyw.cymru

           


          Fflyd a Thrafnidiaeth

           

          Y Wybodaeth Ddiweddaraf

          • Fframwaith ar gyfer Darparu Telemateg Cerbydau – mae Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw wedi'i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru:
            https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/search/show/search_view.aspx?ID=OCT218771

          • Darnau Sbâr Cerbydau – cytunwyd ar fasged ddiwygiedig o ddarnau sbâr ac mae bellach yn fyw. Mae'r basgedi hyn wedi cael eu lanlwytho i GwerthwchiGymru:
            https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=12743&Path=11759-12740-12743
            Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r fasged ym mis Mawrth 2018.

          • Llogi Cerbydau II – cynhelir ymarferion mini-gystadleuaeth gan ein tîm ar ran sawl cwsmer. Os bydd angen help ar unrhyw gwsmer i nodi'r dull cyflenwi mwyaf costeffeithiol (dyfarniad uniongyrchol neu gystadleuaeth arall), cysylltwch â ni yn y blwch post isod.
            Sylwer: Mae manylion cyswllt cyflenwyr wedi cael eu diweddaru'n ddiweddar ar y dogfennau masnachol a gedwir ar GwerthwchiGymru. Cynghorir prynwyr i fwrw golwg dros y dogfennau a gyhoeddir ar GwerthwchiGymru er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf wrth drefnu gwaith drwy'r fframwaith.

          • Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig – mae'r fframwaith wedi cael ei ymestyn (yn amodol ar gytuno ar unrhyw amrywiadau prisiau) am gyfnod o 12 mis tan 15 Tachwedd 2018. Nid yw Buckley Tyres wedi cytuno i'r estyniad a bydd yn cael ei dynnu oddi ar y fframwaith yn unol â'i gais. Cynhelir adolygiadau prisiau gyda'r holl gyflenwyr ar wahân i ATS (cytunwyd ar bris a fydd yn weithredol o 1 Mehefin 2017, am gyfnod o 12 mis).

          • Tanwyddau Hylif – caiff y fframwaith ei ymestyn am gyfnod olaf o 12 mis a chynhelir adolygiadau prisiau ddechrau 2018. Ceir rhagor o ymgysylltu â chwsmeriaid ynghylch aildendro ar gyfer y ddarpariaeth hon ddechrau 2018.

          • Gwirio Trwyddedau Gyrwyr – cynhaliwyd cyfarfod o'r Grŵp Fforwm Categorïau ar 15 Tachwedd gyda'r holl sefydliadau sydd wedi mynegi diddordeb yn y gofyniad hwn i drafod darpariaeth yn y dyfodol. Dylai unrhyw sefydliad sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r Grŵp Fforwm Categorïau hwn anfon e-bost i flwch post Fflyd GCC. Mae'r adroddiad canlyniadau ar gael ar GwerthwchiGymru:
            https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=6508&Path=6260-6508

          • Amserlen Fflyd – rydym yn gweithio gydag aelodau Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan i ddatblygu amserlen ar gyfer caffael Fflyd yn y dyfodol. Rydym yn sefydlu gweithgorau er mwyn ystyried y meysydd gwaith canlynol er mwyn ysgogi arfer gorau ac arbedion maint:

            - Safoni manylebau cerbydau
            - Modelau pennu costau oes gyfan

            Credwn fod manteision sylweddol i safoni ac mae gennym astudiaethau achos i gefnogi hyn. Byddem yn ddiolchgar i glywed gan gwsmeriaid a hoffai gydweithio yn y maes gwaith hwn. Byddem yn croesawu enwebiadau gan gwsmeriaid ar gyfer aelodau'r Grŵp Fforwm Categorïau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn y blwch post isod.


              Cysylltu: NPSFleet@llyw.cymru


              Bwyd

              Bwyd  


              Hysbysiadau Dyfarnu Contractau


              • Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diodydd Ffres (gan gynnwys Cig Rhewedig) – mae'r fframwaith hwn bellach yn fyw ac ar gael i'w ddefnyddio, ac mae 80% o'r cyflenwyr wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae dogfennaeth ganllaw i'w gweld ar GwerthwchiGymru:
                https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=14580&Path=6480-14580

                Rydym yn awyddus i gynorthwyo cwsmeriaid gydag ymgysylltu unigol neu gydweithredol o dan y fframwaith hwn. Cysylltwch â ni yn y blwch post isod i drafod.
                Byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflenwyr llwyddiannus a Basware i ddatblygu gwybodaeth eFasnachu Cymru am y farchnad/catalogau ar gais.

              • Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diodydd wedi'u Pecynnu  mae'r fframwaith nawr ar gael i'w ddefnyddio. Hoffai'r GCC ddiolch i'r holl gyfranogwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus am eu cymorth a chefnogaeth yn ystod y broses gaffael hon.
                Caiff dogfennaeth ganllaw ei lanlwytho i GwerthwchiGymru yn fuan.
                Byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflenwyr llwyddiannus a Basware i ddatblygu gwybodaeth eFasnachu Cymru am y farchnad/catalogau ar gais. Cysylltwch â ni yn y blwch post isod os hoffech drafod hyn ymhellach.


                Cysylltu: NPSFood@llyw.cymru


                Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

                  

                Y Wybodaeth Ddiweddaraf

                • Fframwaith Adnoddau Digidol a TGCh Hyblyg – datblygwyd yr arfarniad opsiynau yn dilyn ymgysylltu â chwsmeriaid a chyflenwyr dros y misoedd diwethaf. Caiff ei gyflwyno Grŵp Cyflenwi GCC ym mis Rhagfyr 2017.

                • Fframwaith Cynnyrch a Gwasanaethau TG GCC (NPS-ICT-0019-15) – hoffem atgoffa cwsmeriaid y bydd y catalog Cynnyrch a Gwasanaethau TG Cymru Gyfan yn cael ei dynnu o eFasnachu Cymru o 1 Rhagfyr 2017 ymlaen. Os bydd hyn yn achosi unrhyw broblemau i'ch sefydliad, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch post cyn 1 Rhagfyr. Bydd catalogau penodol ar gyfer sefydliadau cwsmer yn parhau i fod ar waith. Byddwch yn ymwybodol o ohebiaeth flaenorol bod Misco UK Ltd (Lot 7 a Lot 10) yn nwylo gweinyddwyr. Cawsom gadarnhad ar 28 Tachwedd fod Millennium Business Systems (Lot 9) yn nwylo'r gweinyddwyr. Bydd rhagor o fanylion ar gael ar GwerthwchiGymru. Cafodd neges ei danfon at Benaethiaid Caffael i'w hysbysu. Os oes gan gwsmeriaid unrhyw ymholiadau, dylent gysylltu â'r blwch post isod.

                • Fframwaith Gwasanaethau Ceblau Strwythuredig (NPS-ICT-0041-15) – mae'r Fframwaith hwn yn cynnwys chwe rhanbarth daearyddol. Mae 10 cyflenwr ar y fframwaith, ac mae wyth ohonynt yn BBaChau, gan gynnwys pedwar BBaCh sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

                  Yn ogystal â gwasanaethau ceblau strwythuredig, ceir nifer o wasanaethau a nwyddau cysylltiedig dewisol y gellir eu caffael drwy'r fframwaith, gan gynnwys y canlynol ond heb eu cyfyngu iddynt: Catena Ceblau Asgwrn Cefn, Categori 5e, Categori 6 a Chategori 6A, Prif Linellau Ceblau Ffeibr Optig a Mwg Isel Di-Halogen (prif linellau dado), Blychau Llawr, Pwyntiau Rhwydwaith, Trawsnewidwyr Ffeibr, Paneli Clwt, Estyll, Cabinetau a Cheblau Cyfnerthedig ar gyfer Gwaith Allanol. Bydd cyfnod cychwynnol dwy flynedd y fframwaith yn dod i ben ar 31/07/2018. Ceir opsiwn i ymestyn y fframwaith am gyfnodau pellach hyd at ddwy flynedd.

                  Mae'r opsiynau'n cael eu harfarnu ar hyn o bryd, a chyflwynir diweddariad i Grŵp Cyflenwi GCC ym mis Rhagfyr. Bydd GCC yn ymgynghori â chwsmeriaid a chyflenwyr fframweithiau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, ond, yn y cyfamser, os bydd gennych unrhyw adborth dylech gysylltu â ni drwy'r blwch post isod.

                • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Cydweithio Rhwng Cyflenwyr ar Waith - cymerodd mwy nag 20 o gyflenwyr ran mewn sesiynau rhyngweithiol yn ystod gweithdai diweddar, i feddwl am syniadau a allai gyfrannu at y nodau cenedlaethol a rennir. Pleidleisiodd cyflenwyr i nodi tri cham gweithredu y maent wedi cytuno i gydweithio arnynt, ar draws fframweithiau TGCh, er mwyn cyflawni buddiannau pendant dros y chwe mis nesaf. Bydd y cyflenwyr sy'n ymrwymo i'r gweithredu yn cymryd rhan mewn o leiaf un cam gweithredu, sy'n cynnwys: 

                  - Cydweithio â'r Prince's Trust ar Gynllun Mentora ar-lein ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yng Nghymru. Rydym yn gobeithio gallu lansio'r fenter gyffrous hon ym mis Rhagfyr.
                  - 'Mabwysiadu / Noddi Cymuned' lle fydd cyflenwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned (BiTC), sy'n ymgysylltu â'r trydydd sector, partneriaid busnes, awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid cymunedol eraill i gyflwyno rhaglen o weithgareddau.
                  - 'Prosiectau Cymunedol' sy'n cael eu trafod gyda Busnes yn y Gymuned i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu prosiectau i gyflenwyr gyflawni canlyniadau cynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru.

                  Byddwn yn ymgynghori â chwsmeriaid ynglŷn â'r cyfleoedd, ond, yn y cyfamser, os hoffech gael gwybod rhagor neu gymryd rhan, cysylltwch â Dave Williams drwy'r blwch post isod.


                    Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru


                    Gwasanaethau Pobl

                    Gwasanaethau Pobl

                     

                    Y Wybodaeth Ddiweddaraf

                    • Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol – mae cais wedi'i anfon i Grŵp LIN Cymru gyfan gydag opsiynau ar gyfer dyfodol y fframwaith a ddaw i ben ar 30 Medi 2018. Os bydd cwsmeriaid yn dymuno trafod y mater hwn ymhellach, dylent gysylltu â'r blwch post isod.

                    • Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth – rydym wedi dechrau ystyried opsiynau o ran strwythur cenhedlaeth nesaf y fframwaith hwn, gan gynnwys modelau cyflenwi amgen a lotiau. Cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Fforwm Categorïau i rannu ein canfyddiadau a cheisio cytundeb ynghylch y camau nesaf ym mis Chwefror 2018. Caiff aelodau presennol y Grŵp Fforwm Categorïau eu gwahodd i'r cyfarfod, ond dylai unrhyw gwsmeriaid eraill sy'n dymuno bod yn bresennol gysylltu â'r blwch post i roi gwybod i ni.


                    Adroddiadau Canlyniadau'r Grŵp Fforwm Categorïau


                      Cysylltu: NPSPeopleServices&Utilities@llyw.cymru


                      Gwasanaethau Proffesiynol

                        

                      Digwyddiadau Categorïau

                        • Cyfarfod Grŵp Fforwm Categori Fframwaith Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau Ariannol - dydd Mercher, 6 Rhagfyr. Rhagor o wybodaeth: 
                          http://gov.wales/docs/nps/171129-forward-look-cy.pdf

                        • Ymgynghoriaeth Eiddo – cynhaliwyd digwyddiad i gyflenwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 14 Tachwedd i gael adborth gan y farchnad ar ein cynnig ar gyfer adnewyddu'r cytundeb hwn. Roedd llawer iawn o bobl yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnwys mwy nag 80 o gynrychiolwyr, a chafwyd trafodaeth fywiog. Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad yng Nghyffordd Llandudno ar 23 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn y blwch post isod.

                         

                        Hysbysiadau Dyfarnu Contractau sydd ar Ddod

                        • Gwelliannau a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni Cartref: Rhaglen Cymru Gynnes – mae'r darparwr gwasanaeth i reoli a chyflwyno cynllun tlodi tanwydd Cymru gyfan a arweinir gan alw (Nyth) ar y cam gwerthuso ar hyn o bryd a chaiff y contract ei ddyfarnu ym mis Rhagfyr 2017.


                        Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

                        • Cynllun Tlodi Tanwydd Cymru Gyfan Seiliedig ar Ardaloedd (Arbed) – cyhoeddwyd 22 Medi 2017:
                          https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/search/show/search_view.aspx?ID=SEP215951
                          Mae'r ddogfennaeth dendro'n cael ei llunio ar hyn o bryd a chaiff yr Hysbysiad Contract ei gyhoeddi cyn diwedd 2017.

                        • Ymgynghoriaeth Eiddo - cyhoeddwyd hysbysiad tybiannol ar gyfer adnewyddu'r fframwaith Ymgynghoriaeth Eiddo ar 2 Tachwedd. Mae'r cytundeb newydd yn cael ei lunio ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio cyhoeddi'r Hysbysiad Contract ddiwedd mis Ionawr 2018.

                        • Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd - mae hysbysiad tybiannol hefyd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer adnewyddu'r fframwaith Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i lunio'r cytundeb newydd a byddem yn croesawu ymholiadau gan gwsmeriaid sydd â diddordeb yn y gwasanaethau hyn o bosibl. Cysylltwch â blwch post Gwasanaethau Proffesiynol GCC.

                         

                        Y Wybodaeth Ddiweddaraf

                        • Hyfforddiant Cyfreithiol – mae cyflenwyr ar fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr GCC yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant a digwyddiadau briffio cyfreithiol. Mae rhai ohonynt am ddim ac mae'n rhaid talu am eraill. Mae'r amserlen ar gael yma: http://gov.wales/docs/nps/171124-legal-services-training.docx
                          Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn y blwch post isod.



                          Cysylltu: NPSProfessionalServices@llyw.cymru


                          Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

                          e-bostiwch: NPSCommunications@cymru.gsi.gov.uk