Cylchlythyr mis Hydref y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Hydref 2017

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Edrych i'r Dyfodol

3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

 

1. Newyddion


Logo Procurex Cymru

Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer Procurex


Mae llai na 2 wythnos cyn Gŵyl Caffael Cymru, sy'n cynnwys Procurex Cymru a Gwobrau GO Cymru ar 9 Tachwedd yn Arena Motorpoint, Caerdydd.


Byddwn ar gael drwy'r dydd ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yng nghanol llawr yr arddangosfa, felly galwch i mewn i gwrdd â'n tîm a fydd yn barod i drafod unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Mae hwn yn gyfle bendigedig i brynwyr ddeall pa fframweithiau sydd ar gael i'w defnyddio, ac i gyflenwyr ddysgu mwy am baratoi i gyflwyno tendrau, a chyfleoedd sydd ar ddod i fod yn gyflenwr i'r sector cyhoeddus yng Nghymru.


Ymhlith y siaradwyr ar y diwrnod bydd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a fydd yn rhoi trosolwg o Raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Caffael. Bydd hyn yn trafod yr angen i weithio'n wahanol er mwyn cyflawni mwy o arbedion ariannol, cefnogi economi fwy llewyrchus a diogel a helpu ein cwsmeriaid i gydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth Cymru.


Mae modd cofrestru, ac mae digwyddiad Procurex Cymru am ddim i bersonél yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Peidiwch â cholli prif ddiwrnod Cymru ar gyfer addysg a rhwydweithio ym maes caffael – cofrestrwch heddiw: http://www.procurexlive.co.uk/wales/cy/archebwch-nawr/


Cod ar Gyflogaeth Foesegol

Rhoi'r Cod ar Waith


Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiynau yn nigwyddiad Procurex Cymru Byw ar 9 Tachwedd, a fydd yn cwmpasu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Nod y Cod yw sicrhau bod gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi'n gyfreithlon ac yn deg, ac na chaiff caethwasiaeth ac arferion cyflogaeth anfoesegol eu goddef.

 

Bydd y sesiwn yn cynnwys cefndir cryno i'r Cod, gyda'r rhan fwyaf o'r sesiwn yn cwmpasu manylion am sut i roi ei 12 ymrwymiad ar waith, gan gynnwys rhai astudiaethau achos. Hefyd, bydd arddangosiad o Adroddiad TISC https://wales.tiscreport.org/ sef yr adnodd ar-lein ar gyfer adrodd ac olrhain yr ymrwymiadau drwy gadwyni cyflenwi.

 

Bydd y sesiwn yn para 40-45 munud ac yn cael ei chynnal ddwywaith ar y dydd, am 1pm a 2pm yn y Parth Rhwydweithio sy'n agos i'r Brif Arena.

 

Ceir rhagor o wybodaeth am y Cod Ymarfer yma: 
http://llyw.cymru/topics/improvingservices/bettervfm/code-of-practice/?skip=1&lang=cy


Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: Sue.Hurrell@llyw.cymru


Bilingual Go Awards 2017

Gwobrau GO Cymru

 

Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol chwe enwebiad i gyd yn Seremoni Wobrwyo GO Cymru eleni! Bydd tîm Gwasanaethau Pobl yr GCC, tîm Fflyd yr GCC, tîm Polisi Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru a Thîm Polisi Morol Llywodraeth Cymru i gyd yn cystadlu am Wobr Menter Gaffael GO – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Thai. Gallai tîm Cyfleustodau'r GCC ennill Gwobr Caffael Cynaliadwy GO ac mae tîm Gwasanaethau Caffael Corfforaethol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tîm Caffael GO y Flwyddyn.


Mae nifer o enwebiadau'r GCC o ganlyniad i waith caled gan gwsmeriaid, rhanddeiliaid ac aelodau'r Grwpiau Fforwm Categori. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu holl gyfraniadau a chymorth gan wneud y prosesau caffael yn llwyddiant.

 


Rhestr o Fframweithiau Byw


Mae'r rhestr o Fframweithiau'r GCC sydd ar gael i'w defnyddio wedi'i diweddaru er mwyn adlewyrchu'r fframweithiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar. Mae i'w chael ar ein gwefan: http://gcc.llyw.cymru/categories/framework-agreements/?lang=cy


Digwyddiadau eGyrchu/eFasnachu 


Mae'r grwpiau defnyddwyr wedi'u hanelu at unigolion allweddol sy'n rheoli eGyrchu neu eFasnachu yn eu sefydliadau. Maent yn cynnig fforwm er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer gorau, a rhoi adborth ar yr adnoddau eGaffael a ddefnyddir er mwyn cael mynediad at fframweithiau'r GCC.


Cynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf y grwpiau defnyddwyr eGyrchu/GCC ac eFasnachu/GCC ym mis Medi a chawsant groeso cynnes. 


Caiff y digwyddiad eGyrchu nesaf ei gynnal ddydd Mercher 6 Rhagfyr, GIG 1 Charnwood Court, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ, gan y cadeirydd newydd, Christine Thorne, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.


Am ragor o fanylion, neu i ymuno yn y naill grŵp neu'r llall, cysylltwch â Helen Oliver, Uwch-reolwr Rhanddeiliaid, drwy e-bostio Helen.Oliver@llyw.cymru


Pwy yw Pwy yn y GCC


Mae'r ddogfen 'Pwy yw Pwy yn y GCC' (Cyfeiriadur Cysylltiadau yn flaenorol) wedi'i ddiweddaru ac mae bellach ar gael ar GwerthwchiGymru:
https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources_Download.aspx?id=13362


Erbyn hyn, mae modd cysylltu â'n tîm ymgysylltu â rhanddeiliad drwy'r blwch negeseuon e-bost canlynol: NPSEngage@llyw.cymru


Cyfleoedd Gwaith


Mae Cyngor Sir Ceredigion yn hysbysebu'r swydd ganlynol:

 

Teitl y swydd: Rheolwr Categorïau Corfforaethol
Cyfeirnod y swydd: REQ100807
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13/11/2017
Lleoliad: Canolfan Rheidiol, Aberystwyth
Cyflog: £33,437 - £35,444

Contract: Parhaol

Oriau: 37 awr yr wythnos

Disgrifiad: Arwain, cyfarwyddo a chydlynu’r gwaith o ddarganfod a sicrhau y rheolir yn effeithiol perthynas contract a chyflenwr er mwyn sicrhau y gwerth gorau am arian a chyflawni arbedion a dargedwyd o fewn y categori / is-gategori penodol. Byddwch chi’n gyfrifol am dîm bach gan fod yn allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaeth caffael effeithiol ac effeithlon i’r Cyngor.

 

 

Dylid gwneud cais ar-lein yn y cyfeiriad canlynol:
http://www.ceredigion.gov.uk/Cymraeg/Preswyliwr/Swyddi-Gyrfaoedd/Pages/default.aspx


2. Edrych i'r Dyfodol


Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl 'Edrych i'r Dyfodol' isod. Cysylltwch ag e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am y digwyddiadau.


Edrych i'r Dyfodol Hydref

http://gov.wales/docs/nps/171027-forward-look-cy.pdf



3. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.


Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau


Hysbysiadau Dyfarnu Contractau sydd ar Ddod

  • Darparu Deunyddiau Goleuadau Priffyrdd - mae'r fframwaith wrthi'n cael ei werthuso a chaiff ei ddyfarnu erbyn diwedd mis Hydref.  Bydd holl ddogfennaeth canllawiau'r fframwaith ar gael ar GwerthwchiGymru ar ôl ei ddyfarnu.

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

  • Diwygiadau i ganllawiau'r fframwaith - gwnaed nifer o ddiwygiadau i wybodaeth am y fframwaith ar GwerthwchiGymru yn ddiweddar, gan gynnwys rhestri cysylltiadau cyflenwyr diwygiedig ac atodlenni prisiau ar gyfer y fframweithiau canlynol:
    - Gwasanaethau Glanhau
    - Deunyddiau Glanhau a Phorthorol
    - Cam 1 Rheoli Cyfleusterau - Gwasanaethau a Reolir
    - Cam 2 Rheoli Cyfleusterau - Gwasanaethau Diogelwch
    - Cam 2 Rheoli Cyfleusterau - Gwasanaethau Mecanyddol
    - Cam 3 Rheoli Cyfleusterau - Cynnal a Chadw a Gosod Lifftiau Grisiau Teithwyr a Nwyddau a Domestig
    - Atebion o ran Dodrefn.

    Sicrhewch fod gennych y canllawiau diweddaraf, sydd ar gael ar GwerthwchiGymru, cyn bwrw ati â'ch proses gaffael:
    https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=13045&Path=13045
    Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost uchod.

  • Creighalen - sylwer ein bod wedi cytuno ar amrywiad pris â Compass Minerals yn unol â chytundeb y fframwaith. Mae catalogau ac atodlenni prisiau Compass Minerals ar GwerthwchiGymru wedi'u diweddaru:
    https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=7540&Path=13045-7540

  • Atebion o ran Dodrefn - rydym wedi cael adborth gan gyflenwyr ar y fframwaith Atebion o ran Dodrefn y gall rhai danfoniadau dodrefn fod yn anodd oherwydd gwybodaeth annigonol sydd wedi'i chynnwys ar archebion prynu. Felly, gofynnwn yn garedig i bob cwsmer gynnwys y wybodaeth ganlynol ar archebion prynu, os yw ar gael:
    - y cyfeiriad danfon penodol
    - unrhyw gyfarwyddiadau danfon penodol (h.y. amseroedd agor a chau ar gyfer adeiladau)
    - cyswllt â rhif ffôn ar gyfer y lleoliad danfon.
    Dylai'r wybodaeth hon sicrhau y caiff pob danfoniad ei gynllunio'n briodol. 


Cysylltu: NPSConstruction&FM@llyw.cymru

 


Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


Hysbysiadau Dyfarnu Contractau

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

  • Fframwaith Prynu Cyfryngau, Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Chysylltiadau Cyhoeddus - cafodd tendrau eu cyflwyno ar gyfer lot 1, Prynu Cyfryngau, ar 18 Hydref ac maent bellach yn cael eu gwerthuso. Bydd y lot Prynu Cyfryngau ar Fframwaith presennol Gwasanaethau Amlasiantaethol Cymru Gyfan yn cael ei hymestyn er mwyn bodloni gofynion cwsmeriaid yn y cyfamser. Cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod os oes gennych unrhyw ymholiadau.

  • Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo - mae rhestr graidd y fframwaith â phrisiau papur diwygiedig bellach ar gael ar GwerthwchiGymru ac wedi'i diweddaru yn Basware. Mae'r rhestr ddi-graidd wedi'i harchifo a'i disodli ag 'eitemau â gostyngiad ychwanegol' sy'n benodol i'r sector:
    https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=13081&Path=11755-13081
    Sylwer nad oes dyddiaduron mewn stoc mwyach.
    Mae cyfarfod Grŵp Fforwm Categorïau yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2018. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd, cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod.


Cysylltu: NPSCorporateServices@llyw.cymru

       


      Fflyd a Thrafnidiaeth

       

      Y Wybodaeth Ddiweddaraf

      • Fframwaith ar gyfer Darparu Telemateg Cerbydau - mae Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw wedi'i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru:
        https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/search/show/search_view.aspx?ID=OCT218771
        Mae'r Arfarniad Opsiynau wedi'i ddrafftio a chaiff ei gylchredeg i aelodau'r Grŵp Fforwm Categorïau (CFG) er mwyn ei gymeradwyo yn fuan. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y CFG ac Uwch-reolwyr, bydd gwaith yn dechrau ar baratoi tendr.

      • Darnau Sbâr Cerbydau - mae cyfarfodydd adolygu contractau â chyflenwyr wedi'u cynnal. Mae gwaith yn parhau o ran adolygu'r fasged graidd o ddarnau sbâr. Bydd manylion am y basgedi craidd a awgrymwyd yn cael eu hanfon i sefydliadau cwsmeriaid er mwyn eu cymeradwyo cyn mynd yn fyw ddechrau mis Tachwedd 2017. O ran budd i'r gymuned, mae'n bleser gennym roi gwybod bod y fframwaith Darnau Sbâr Cerbydau wedi cyflwyno nifer o roddion arian parod i brosiectau ledled Cymru, yn ogystal â chreu wyth swydd lawn amser a dwy swydd ran-amser yng Nghymru.

      • Llogi Cerbydau II – cynhelir ymarferion mini-gystadleuaeth gan ein tîm ar ran sawl cwsmer. Os bydd angen help ar unrhyw gwsmer i nodi'r dull cyflenwi mwyaf cost-effeithiol (dyfarniad uniongyrchol neu gystadleuaeth arall) cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod.

      • Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig - bydd y fframwaith hwn yn dod i ben ar 15 Tachwedd 2017. Mae gan y fframwaith ddarpariaeth i'w estyn am gyfnod pellach o hyd at ddwy flynedd mewn lluosrifau nad yw'n fwy na 12 mis. Rydym yn awyddus i estyn y ddarpariaeth hon am 12 mis yn amodol ar gydsyniad cwsmeriaid. Os nad yw unrhyw gwsmer am symud ymlaen gyda'r estyniad, cysylltwch â'r blwch post Fflyd isod cyn gynted â phosib.

      • Tanwyddau Hylif - rydym wedi gwneud cais am adborth yn ddiweddar gan randdeiliaid o ran arfer yr opsiwn ar gyfer estyniad terfynol y fframwaith Tanwydd Hylif. Ni chafwyd gwrthwynebiadau o ran cymryd yr estyniad terfynol am 12 mis ychwanegol, mewn grym o 9 Ebrill 2018. Felly, ein bwriad bellach yw dechrau'r broses estyn. Cynhelir ymgysylltiad arall â rhanddeiliaid ynghylch ail-dendro ar gyfer y ddarpariaeth hon ddechrau 2018.

      • Piblinell Fflyd - rydym yn gweithio gydag aelodau Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan i ddatblygu caffael piblinell fflyd yn y dyfodol. Rydym yn sefydlu gweithgorau er mwyn ystyried y meysydd gwaith canlynol er mwyn ysgogi arfer gorau ac arbedion maint:
        - Safoni manylebau cerbydau
        - Pennu costau modelau oes gyfan
        - Gwiriadau trwyddedau gyrru

        Yn seiliedig ar y diffyg ymgysylltu ar gyfer y gofynion uchod hyd yn hyn, byddem yn ddiolchgar os gallai cwsmeriaid gadarnhau a oes angen i ni fwrw ymlaen â'r rhain. Os oes, byddem yn croesawu ceisiadau gan gwsmeriaid ar gyfer aelodau'r CFG. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod.


        Cysylltu: NPSFleet@llyw.cymru


        Bwyd

        Bwyd  


        Hysbysiadau Dyfarnu Contractau

        • Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diodydd Ffres (gan gynnwys Cig Rhewedig) - mae'r fframwaith hwn bellach yn fyw ac ar gael i'w ddefnyddio, gyda 80% o'r cyflenwyr yng Nghymru.
          Ceir dogfennaeth canllawiau ar GwerthwchiGymru:
          https://www.sell2wales.gov.wales/Authority/Resources/Resources.aspx?ID=&Type=14580&Path=6480-14580
          Rydym yn awyddus i gynorthwyo cwsmeriaid ag ymgysylltiad unigol neu gydweithredol dan y fframwaith hwn. Cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod er mwyn trafod.
          Byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflenwyr llwyddiannus a Basware er mwyn datblygu gwybodaeth eFasnachu Cymru am y farchnad/catalogau ar gais.


        Hysbysiadau Dyfarnu Contractau sydd ar Ddod

        • Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd a Diodydd wedi'u pecynnu - y dyddiad cau i gyflwyno tendrau oedd 14 Medi 2017. Mae gwerthusiadau wedi dechrau a bwriedir i gytundeb y fframwaith ddechrau ar 27 Tachwedd 2017.


          Cysylltu: NPSFood@llyw.cymru


          Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

            

          Y Wybodaeth Ddiweddaraf

          • Fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG GCC - cyfnod cychwynnol y fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG yw dwy flynedd, gydag opsiwn i'w estyn hyd at ddwy flynedd arall. Yn dilyn adolygiad o'r ffordd y mae'r fframwaith wedi perfformio ers ei ddyddiad dechrau, gwnaed penderfyniad i estyn y fframwaith am 12 mis arall. Bydd hyn yn estyn y fframwaith tan 3 Ionawr 2019. Rydym wedi cadw'r opsiwn i'w estyn am 12 mis arall am y tro olaf, yn amodol ar adolygiad arall.

            Rydym wedi cael newyddion da gan dîm archwilio WEFO ynghylch y fframwaith. Mae lotiau 1, 2, 6 ac 8 wedi'u harchwilio ac maent yn cydymffurfio â rheolau WEFO i ganiatáu i sefydliadau adfer cyllid cyfatebol drwy'r fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG. Bydd y lotiau sy'n weddill ar y fframwaith yn cael eu hadolygu yn y man.

            Rydym wedi cael adborth am broblemau gyda defnyddioldeb catalogau Cynhyrchion a Gwasanaethau TG ac rydym yn cynnig gohirio catalogau Cynhyrchion a Gwasanaethau TG Cymru gyfan, gan gynnwys y rhestri cynhyrchion craidd, o 1 Rhagfyr 2017. Bydd catalogau penodol ar gyfer sefydliadau unigol yn parhau i fod ar waith. Os bydd y cynnig i ohirio catalogau Cymru gyfan yn achosi unrhyw broblemau i'ch sefydliad, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r blwch negeseuon e-bost isod.

            Rydym wedi paratoi astudiaeth achos ychwanegu gwerth a dogfennaeth dendro ategol a fydd yn galluogi sefydliadau i roi catalogau penodol sefydliadol drwy gystadleuaeth arall. Dangoswyd bod hyn yn rhoi ateb gwerth gwell am arian na'r dull catalog presennol. Os oes gennych ddiddordeb mewn manteisio ar hyn, cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod.
            Astudiaeth Achos:  http://gov.wales/docs/nps/171027-case-study-ict-cy.pdf

          • Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynhyrchion a Gwasanaethau TG GCC i gwsmeriaid  - mae Misco UK (NPS-ICT-0019-15 – Lot 7 a Lot 10) yn nwylo'r gweinyddwyr. Mae Geoffrey Rowley, Thomas MacLennan a John Lowe o FRP Advisory LLP wedi cael eu penodi'n Weinyddwyr ar y Cyd. Bydd y Gweinyddwyr yn gyfrifol am reoli'r cwmni o ddydd i ddydd ac yn asesu a oes digon o gymorth i barhau i fasnachu. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd gennym ragor o newyddion. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r blwch negeseuon e-bost isod.

          • Fframwaith Adnoddau Digidol a Gwasanaethau Digidol - yn dilyn ymgysylltiad â chwsmeriaid a digwyddiadau cyflenwyr drwy gydol mis Medi a mis Hydref, rydym wedi llunio rhestr fer o waith i'w ddatblygu yn y cam nesaf:

            1. Adnoddau Hyblyg Digidol - dull hyblyg lle gall prynwyr gyrchu sgiliau ar gyfer cyflwyno prosiectau digidol
            2. Gwasanaethau Digidol – dull i brynwyr gyrchu eu hanghenion digidol dros y blynyddoedd nesaf sy'n helpu i'w galluogi i gyflawni eu strategaethau digidol;
            3. System Brynu Ddynamig ar gyfer meddalwedd sy'n cydymffurfio â'r sector cyhoeddus yng Nghymru a fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg; seiberddiogelwch; hygyrchedd; a gwasanaethau a allai gyd-fynd â PSBA.

            Os oes gennych unrhyw adborth neu syniadau ychwanegol, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â'r blwch negeseuon e-bost isod. Rydym yn bwriadu datblygu'r rhestr fer hon drwy broses Lywodraethu'r GCC cyn y Nadolig.

          • Gweithdy Cyflenwyr TGCh GCC - gwahoddwyd cyflenwyr presennol fframwaith TGCh GCC i weithdy diweddar ar 12 Hydref 2017 yng Nghanolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn deall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn well a sut y gallai eu sefydliadau helpu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Cymerodd mwy nag 20 o gyflenwyr ran mewn sesiynau rhyngweithiol er mwyn creu syniadau a fyddai'n cyfrannu tuag at y nodau cenedlaethol a rennir. Pleidleisiodd cyflenwyr i nodi tri cham gweithredu y maent wedi cytuno i gydweithio arnynt, ar draws fframweithiau TGCh, er mwyn cyflawni budd sylweddol dros y tri mis nesaf. Byddwn bellach yn gweithio gyda chyflenwyr er mwyn helpu i hwyluso'r broses o gyflwyno'r camau gweithredu hyn.


              Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru


              Gwasanaethau Pobl

              Gwasanaethau Pobl

               

              Y Wybodaeth Ddiweddaraf

              • Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol - mae cais wedi'i anfon i Grŵp LIN Cymru gyfan gydag opsiynau ar gyfer dyfodol y fframwaith a ddaw i ben ar 30 Medi 2018. Os ydych am drafod y mater hwn ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â'r blwch negeseuon e-bost isod.


              Adroddiadau Canlyniadau'r Grŵp Fforwm Categorïau


                Cysylltu: NPSPeopleServices&Utilities@llyw.cymru


                Gwasanaethau Proffesiynol

                  

                Hysbysiadau Dyfarnu Contractau sydd ar Ddod

                 

                • Gwelliannau a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni Cartref: Rhaglen Cymru Gynnes - mae'r Darparwr Gwasanaeth i Reoli a Chyflwyno Cynllun Tlodi Tanwydd Cymru gyfan dan Arweiniad Tanwydd (Nyth) ar y cam gwerthuso ar hyn o bryd a chaiff ei ddyfarnu ddechrau mis Rhagfyr 2017.


                Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

                 

                Y Wybodaeth Ddiweddaraf

                • Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) - cyfarfu'r Grŵp Fforwm Categorïau ar 23 Hydref er mwyn trafod adnewyddu'r fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) cyn yr opsiwn ymestyn terfynol ddiwedd 2017. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu model newydd ar gyfer y cytundeb ac rydym yn croesawu eich mewnbwn. Cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod.
                • Hyfforddiant cyfreithiol ar gael - mae cyflenwyr ar y Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr GCC yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant a digwyddiadau briffio cyfreithiol. Mae rhai ohonynt am ddim ac mae'n rhaid talu am eraill.  Mae'r amserlen ar gael yma: http://gov.wales/docs/nps/170711-nps-events.docx
                  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar y blwch negeseuon e-bost isod.


                  Cysylltu: NPSProfessionalServices@llyw.cymru


                  Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

                  e-bostiwch: NPSCommunications@cymru.gsi.gov.uk