Cylchlythyr mis Medi y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@gov.cymru 

NPW News Banner

 Medi 2017

CY Logo

Cynnwys 

1. Newyddion

2. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

 

1. Newyddion


Mark Drakeford

Newid Pwyslais GCC a Gwerth Cymru


Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yr Athro Mark Drakeford AC, wedi cyflwyno Datganiad Ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol am ei fwriad i newid pwyslais y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo ar y cyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus.  
 
Mae angen i ni weithio'n wahanol er mwyn cyflawni mwy o arbedion ariannol, cefnogi economi fwy llewyrchus a diogel a helpu ein cwsmeriaid i gydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth Cymru.
 
Mae ein cwsmeriaid am i ni weithio'n wahanol. Mae'r pwysau ar gyllidebau gwasanaeth cyhoeddus a chanlyniad Refferendwm yr UE yn mynnu ein bod yn gweithio'n wahanol. Mae Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb yn ceisio rhoi cyfeiriad gwell i egni ac adnoddau’r gwasanaeth cyhoeddus cyfan ac mae'n nodi, “Bydd hyn yn golygu bod angen i ni a’n partneriaid weithio mewn ffordd gwbl wahanol.” Yn sail i hyn i gyd, mae Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn mynnu ein bod yn gweithio'n wahanol.
 
Bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo drwy Raglen Gaffael, a fydd yn seiliedig ar ddeall sbardunau caffael a deall ein cwsmeriaid gorau y gallwn. Mae angen i ni wybod beth yw ein dylanwad – yn benodol y gwariant – a phennu beth y gallwn ei gyfrannu drwy gymhwyso'r pum ffordd o weithio a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddwn yn profi ein strwythurau yn ôl yr hyn mae'r Rhaglen yn gofyn gennym ac yna bydd angen i ni ganolbwyntio ar gyflawni.
 
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig llawn ar gael yma.


Bilingual Go Awards 2017

Ydych chi wedi cyflwyno eich cynnig ar gyfer Gwobrau Go Cymru?

 

Ydych chi'n gweithio ym maes caffael ac yn awyddus i gael eich cydnabod am arfer da ar brosiect diweddar?
Gwobrau GO yw eich cyfle i ddathlu rhagoriaeth mewn caffael a rhwydweithio gyda rhai o'r prynwyr a'r cyflenwyr mwyaf dylanwadol yn y DU.
Mae Gwobrau GO yn agored i sefydliadau'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a gallwch gyflwyno'ch cynnig am ddim. Caiff y digwyddiad ei gynnal ar 9 Tachwedd 2017 yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd.

Mae wyth categori i ddewis ohonynt, gan gynnwys Gwobr Prosiect Seilwaith GO y Flwyddyn a Gwobr Caffael Cynaliadwy GO.– mae'n rhaid i bob categori adlewyrchu tirwedd caffael y wlad sy'n newid yn gyson.

Am restr lawn o gategorïau'r flwyddyn hon, cliciwch yma.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion yw 26 Medi, felly gwnewch yn siŵr na fyddwch yn colli'r dyddiad cau a chyflwynwch eich cais heddiw.


Procurex

Ydych chi'n dod i Procurex?

Mae llai na 2 fis cyn Gŵyl Caffael Cymru, sy'n cynnwys Procurex Cymru a Gwobrau GO Cymru ac yn cael ei chynnal ar 9 Tachwedd.  Mae'r agendâu bellach wedi'u cadarnhau ac ar gael ar y wefan, felly cymerwch funud i edrych ar y rhestr wych o sesiynau a fydd ar gael ar wefan Procurex Cymru.


Caiff y Brif Arena ei chadeirio gan Sue Moffatt, Cyfarwyddwr Masnachol, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr, Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Mae'r siaradwyr sydd eisoes wedi'u cadarnhau yn cynnwys Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.


Mae modd cofrestru, ac mae digwyddiad Procurex Cymru am ddim i bersonél yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.  Peidiwch â cholli prif ddiwrnod Cymru ar gyfer addysg a rhwydweithio ym maes caffael – cofrestrwch heddiw.


Amserlen 5 mlynedd ddrafft wrthi'n cael ei datblygu

Rydym wrthi'n gweithio ar amserlen 5 mlynedd newydd ar gyfer gweithgarwch categori yn y dyfodol. Cafodd ein syniadau cychwynnol am yr hyn y bydd yr amserlen yn ei gynnwys eu rhannu â'n Grŵp Cyflawni ar 7 Medi.

 

Mae ein drafft cyntaf bellach gyda holl aelodau'r Grŵp Cyflawni er mwyn i ni gael eu sylwadau a byddwn yn ymgynghori yn y sector ac yn eu defnyddio i'n helpu i ddatblygu'r amserlen. Rydym wedi gofyn i'r grŵp ystyried y canlynol:

 

• A yw'r amserlen yn ddefnyddiol?
• A yw'r amserlen yn cwmpasu'r fframweithiau cywir?
• A oes unrhyw deitlau nad ydynt yno y dylid eu cynnwys i'ch helpu chi?
• A ydynt yn fodlon ar y cyfnodau amser rydym yn eu cynnig?
• A oes eraill y dylem ofyn iddynt wrth ddatblygu hyn?

 

Os hoffai unrhyw gwsmer weld y drafft a chael cyfle i wneud sylwadau, naill ai cysylltwch â chynrychiolydd eich sector neu e-bostiwch NPSDeliveryGroupMailbox@gov.wales erbyn 6 Hydref.  Caiff y drafft ei drafod eto yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Cyflawni ar 25 Hydref.


Cyfleoedd swydd

Mae Tîm Comisiynu a Chaffael llwyddiannus Cyngor Caerdydd am recriwtio tri Uwch Arbenigwr Categori. I gael rhagor o fanylion am y cyfleoedd cyffrous hyn ewch i https://jobs.cardiff.gov.uk a chliciwch ar Comisiynu a Chaffael. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y swyddi hyn neu’r broses o wneud cais ffoniwch Dean Corbisiero ar 029 2087 2270. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 9 Hydref 2017.


Rhestr o Fframweithiau Byw

Mae’r rhestr o Fframweithiau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sydd ar gael i’w defnyddio wedi’i diweddaru i adlewyrchu fframweithiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar. Mae’r rhestr hon ar gael ar ein gwefan.



Swyddi gwag

Mae cyfle gwych wedi codi i Uwch Swyddog Caffael ymuno ag Uned Caffael Cydweithredol y tri Heddlu yn Ne Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân Freeman, Arweinydd Caffael Strategol yn sian.freeman@south-wales.pnn.police.uk    Ffôn symudol: 0782 583 1338


2. Gweithgarwch cyfredol ac sydd ar y gweill yn ôl categori

Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Bydd pob un yn cael ei hysbysebu drwy GwerthwchiGymru, fodd bynnag, a wnewch chi rannu’r wybodaeth hon gyda chymaint o gyflenwyr â phosibl yr ydych yn credu fyddai â diddordeb yn hyn.
 
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â’r tîm perthnasol drwy e-bost.


Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau

Fframweithiau i’w dyfarnu:

 
Mae'r Fframwaith ar gyfer Darparu Deunyddiau Goleuadau Priffyrdd wrthi'n cael ei werthuso a chaiff ei ddyfarnu erbyn diwedd mis Medi. Bydd holl ddogfennaeth Canllawiau'r Fframwaith ar gael ar gwerthwchigymru ar ôl ei ddyfarnu.
Fframweithiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar:
Dyfarnwyd y Fframwaith ar gyfer Cynnal a Chadw a Gosod Lifftiau Grisiau Teithwyr a Nwyddau a Domestig ar 1 Awst. Mae holl ddogfennau Canllawiau'r Fframwaith bellach ar gael ar gwerthwchigymru. Mae'r Tîm Categori yn croesawu unrhyw sylwadau ynghylch y Fframwaith.

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf:


Cyfleustodau – Nwy Petrolewm Hylifedig (LPG)
Mae Gwasanaeth Masnachol y Goron wedi dyfarnu'r Fframwaith Tanwyddau Cenedlaethol newydd sy'n disodli Fframwaith y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Cynhaliwyd mini-gystadleuaeth arall ar gyfer LPG ar gyfer Sector Cyhoeddus Cymru dan y Fframwaith hwn. Bydd gan yr holl gwsmeriaid y cyfle i edrych ar restri safleoedd a'r costau arfaethedig cyn gynted ag y ceir eglurhad terfynol gan Wasanaeth Masnachol y Goron.


Dylai unrhyw ymholiad sy'n ymwneud ag LPG gael ei gyfeirio at Angharad.Simmonds@gov.wales

 

 

Cysylltwch â NPSConstruction&FM@gov.cymru

 


Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Y wybodaeth bwysig ddiweddaraf:


Prynu Cyfryngau, Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a'r Fframwaith Cysylltiadau Cyhoeddus:
Mae Lotiau 2 a 3 o'r Fframwaith (Ymgyrchoedd Marchnata Integredig a Gwasanaethau Cysylltiadau Cyhoeddus) wedi'u dyfarnu ac maent bellach yn fyw. Mae Lot 1, Prynu Cyfryngau, allan i dendr eto. Bydd y lot Prynu Cyfryngau ar Fframwaith presennol Gwasanaethau Amlasiantaethol Cymru Gyfan yn cael ei hymestyn er mwyn bodloni gofynion cwsmeriaid yn y cyfamser. E-bostiwch ein blwch negeseuon e-bost os oes gennych unrhyw ymholiadau.
 
Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) Llachar, Lifreion, Gwisg Gwaith a Gwisg Hamdden:
Mae'r Fframwaith bellach yn barod i fynd yn fyw yn yr wythnos sy'n dechrau 1 Hydref. Mae Fframwaith presennol Consortiwm Prynu Cymru wedi'i ymestyn tan 30 Medi er mwyn bodloni gofynion cwsmeriaid. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.


Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo (NPS-CS-0053-16):
• I'r rhai ohonoch sy'n defnyddio Basware, bydd catalog diweddaraf y Rhestr Graidd ar gael ar Basware erbyn diwedd mis Medi. Mae'r holl “eitemau gostyngol ychwanegol” wedi'u cymeradwyo a byddant hefyd ar gael i gwsmeriaid drwy Basware ac yn cael eu diweddaru'n fisol.


• Gellir rhoi manylion mewngofnodi Lyreco i gwsmeriaid nad ydynt yn defnyddio Basware er mwyn iddynt weld eu prisiau penodol. Bydd y Rhestr Graidd yn cael ei diweddaru yn Basware a chaiff copi ei lwytho'n rheolaidd ar gwerthwchigymru. Ni allwn lwytho copïau o gatalogau penodol cwsmeriaid ar gwerthwchigymru, ond mae croeso i chi e-bostio'r blwch negeseuon e-bost neu gysylltu â Lyreco yn uniongyrchol os bydd angen copi electronig arnoch.


• Ar ôl cyd-drafod gostyngiad i'r cynnydd prisiau arfaethedig, mae ceisiadau am ddiwygiadau pris ar nifer o eitemau papur dan y Fframwaith hwn wedi'u derbyn. Cawsom dystiolaeth ategol gan Lyreco ac rydym wedi derbyn adolygiad prisiau cynnar o'r eitemau hyn oherwydd newidiadau eithriadol yn y farchnad ar gyfer cynhyrchion mwydion. Caiff yr holl ddiwygiadau pris eu cynnwys yng nghatalogau Rhestr Graidd Basware o 2 Hydref 2017 a bydd atodlenni prisiau wedi'u diweddaru ar gael ar gwerthwchigymru. Cysylltwch â ni am wybodaeth.

 

Cysylltwch â: NPSCorporateServices@gov.cymru


Fflyd a Thrafnidiaeth

Y Wybodaeth Ddiweddaraf 

 
Telemateg – Caiff yr Arfarniad Opsiynau ar gyfer Telemateg ei gwblhau gan aelodau'r Grŵp Fforwm Categorïau (CFG) erbyn diwedd mis Medi.  Mae cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2017 ar gael ar gwerthwchigymru yma. Rydym yn disgwyl cyhoeddi'r PIN ar gyfer Telemateg erbyn diwedd mis Medi.

Llogi Cerbydau II – Cynhelir ymarferion mini-gystadleuaeth gan Fflyd GCC ar ran sawl cwsmer. Os bydd angen help ar unrhyw gwsmer i nodi'r dull cyflenwi mwyaf cost-effeithiol (dyfarniad uniongyrchol neu gystadleuaeth arall) cysylltwch â’r tîm Fflyd.
Cynhaliwyd Cyfarfod Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan ar 5 Medi. Yn y cyfarfod hwn, cafodd cwsmeriaid gyflwyniadau amserol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar Brosiect Datgarboneiddio Carbon Bositif; a GIG Cymru ar Delemateg.

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Amserlen

Rydym yn gweithio gydag aelodau Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan i ddatblygu amserlen gaffael fflyd yn y dyfodol.  Rydym yn sefydlu gweithgorau er mwyn ystyried y meysydd gwaith canlynol er mwyn ysgogi arfer gorau ac arbedion maint:
o Safoni manylebau cerbydau
o Pennu costau modelau oes gyfan
o Gwiriadau Trwyddedau Gyrru
Os hoffai unrhyw gwsmer gymryd rhan mewn unrhyw un o'r prosiectau hyn neu os bydd angen mwy o wybodaeth arno, e-bostiwch flwch negeseuon e-bost fflyd GCC i ddechrau.


Digwyddiadau

Darnau Sbâr Cerbydau – Byddwn yn cynnal digwyddiad penodol i'r sector ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub ddydd Llun 25 Medi am 10am ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru, Maes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Mae gwahoddiadau wedi'u hanfon at gwsmeriaid Fflyd a Chaffael yn y sector hwn, ond os hoffai unrhyw un arall yn y sector fynd ac nad yw wedi cael y gwahoddiad, cysylltwch â Fflyd GCC am fwy o wybodaeth.


    Cysylltwch âNPSFleet@gov.cymru


    Bwyd

    Bwyd  

    Fframweithiau a Ddyfarnwyd:


    Mae tendr GCC ar gyfer Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd Ffres a Diodydd (gan Gynnwys Cig Rhewedig) wedi'i ddyfarnu. Mae 80% o gyflenwyr y Fframwaith wedi'u lleoli yng Nghymru.

    Cyhoeddwyd Hysbysiad Dyfarnu i gwsmeriaid a lanlwythwyd Canllaw Cyflym i https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru.
    Mae tîm Bwyd yr GCC yn awyddus i gynorthwyo cwsmeriaid ag ymgysylltiad unigol neu gydweithredol dan y fframwaith hwn. Cysylltwch â'r tîm i drafod hyn ymhellach.
    Bydd yr GCC yn gweithio gyda chwsmeriaid, cyflenwyr llwyddiannus a Basware er mwyn datblygu gwybodaeth eFasnachu Cymru am y farchnad/catalogau ar gais.

     

    Tendrau Cyfredol:

    Cyhoeddwyd tendr GCC ar gyfer Cyflenwi a Dosbarthu Bwyd wedi'i Becynnu a Diodydd Cyfeirnod NPS-FOOD-0069-16 ar 11 Awst a'r dyddiad dychwelyd yw 14 Medi.

    Hysbyswyd contract Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd sy'n disgrifio'r gofynion ar gael ar gwerthwchigymru. Roedd angen i gynigwyr gyflwyno eu tendrau drwy eDendro Cymru cyn y dyddiad cau.. Rhaid i gynigwyr gyflwyno eu tendrau drwy eDendro Cymru ac mae angen iddynt gofrestru yn: https://etenderwales.bravosolution.co.uk/home.html.

    Cyswllt: NPSFood@gov.cymru

    Digwyddiadau:

    Er mwyn cefnogi cynigwyr i ddeall disgwyliadau'r broses dendro, cynhaliodd y Tîm Bwyd ddau ddigwyddiad i gynigwyr,  un yn Ne Cymru ar 22 Awst ac un yng Ngogledd Cymru ar 23 Awst.  Cawsant gefnogaeth dda.

    Mae’r tenderau wedi cael eu derbyn ac meant hyn o bryd yn cael eu gwerthuso.

    Trefnwyd i'r sleidiau a'r sesiwn holi ac ateb a ddeilliodd ohonynt fod ar gael i bob cynigiwr drwy eDendro Cymru.

    Cynhaliwyd Cyfarfod Fforwm Categori yn Swyddfa GCC ym Medwas ar 15 Awst 2017.

     

    Cysylltwch âNPSFood@gov.cymru


    Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

    Y Wybodaeth Ddiweddaraf:


    Fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG
    Daw'r Fframwaith hwn i ben ym mis Ionawr 2018.  Rydym yn gweithio gyda chwsmeriaid i ddadansoddi opsiynau ar gyfer y Fframwaith. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys ymestyn y Fframwaith.  Dylai rhagor o fanylion gael eu cyhoeddi erbyn mis Hydref.
    Mae astudiaeth achos sy'n amlinellu dull gweithredu Llywodraeth Cymru i gaffael TGCh drwy Fframweithiau Cynhyrchion a Gwasanaethau TG GCC yn cael ei llunio. Bydd ar ein gwefan yn fuan.


    Fframwaith Gwasanaethau Sicrhau Gwybodaeth
    Mae'r Fframwaith Gwasanaethau Sicrhau Gwybodaeth wedi bod ar waith ers bron i flwyddyn erbyn hyn. Rhoddodd yr GCC wybod y byddai adolygiad yn cael ei gynnal er mwyn cadarnhau a fyddai'n fuddiol cynyddu'r cyflenwad ar gyfer Lot 2: Gwiriadau Iechyd TG Cynlluniau Proffesiynol Ardystiedig (Cynlluniau heb fod yn CHECK). Cynhelir yr adolygiad hwn erbyn mis Hydref. Os oes gennych unrhyw adborth ynghylch Lot 2 o'r Fframwaith hwn, rhowch wybod i ni. 


    Tendrau Cyfredol:


    Fframwaith Adnoddau Digidol a Gwasanaethau Digidol
    Rydym wedi bod yn ymgysylltu â chyflenwyr a chwsmeriaid dros y misoedd diwethaf ar ein cam gwaith nesaf, pan fydd y fframweithiau nwyddau ar waith. Mae'r cam nesaf yn dal i gael ei ystyried, ond gallai gynnwys fframweithiau ar gyfer cyrchu:

    • Adnoddau Digidol - dull hyblyg lle gall prynwyr gyrchu sgiliau ar gyfer cyflwyno prosiectau digidol;
    • Gwasanaethau Digidol – dull i brynwyr gyrchu eu hanghenion digidol dros y blynyddoedd nesaf sy'n helpu i'w galluogi i gyflawni eu strategaethau digidol;
    • System Brynu Ddynamig ar gyfer meddalwedd sy'n cydymffurfio â Sector Cyhoeddus Cymru a fyddai'n cynnwys cymwysiadau Cymraeg/dwyieithog – rydym yn dal i ystyried y gofyniad hwn a gallem fod yn awyddus i'w ehangu i gynnwys polisïau ehangach y sector cyhoeddus (gofynion hygyrchedd/diogelwch ac ati).

    Mae mwy o fanylion yn yr adran digwyddiadau. Os oes gennych unrhyw adborth neu os ydych am wybod mwy, e-bostiwch y blwch negeseuon e-bost.

     

    Digideiddio, Storio a Gwaredu
    Mae'r System Brynu Ddynamig (DPS) ar gyfer Digideiddio, Storio a Gwaredu, yn cynnig llwybr cyflym, syml a chystadleuol i gwsmeriaid gaffael gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi pasio gwiriadau cymhwysedd a chydymffurfiaeth sylfaenol. Mae'r System Brynu Ddynamig hon yn gontract ar gadw ar gyfer busnesau a gefnogir. Caiff y System Brynu Ddynamig ei rhannu'n 2 lot gyda chyflenwyr yn gallu nodi categorïau gwasanaeth y gallant eu darparu.



    ICT

    Dyfarnwyd lle i gyflenwr newydd ar y System Brynu Ddynamig ym mis Awst ac ychwanegwyd ei fanylion at yr adran gwybodaeth am gyflenwyr ar gwerthwchigymru.


    Digwyddiadau


    Mae'r Tîm Categori a Thîm Sector TGCh Llywodraeth Cymru wedi cydweithio er mwyn trefnu digwyddiad Digital 2017 a chynhaliwyd yn y Tramshed, Caerdydd, ar 18 a 19 Medi.  Am fwy o wybodaeth, ewch i:  http://gwyl-digidol.co.uk/.

     

    Cwrdd â chyflenwyr:
    Fframwaith Adnoddau Digidol a Gwasanaethau Digidol:  Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu ar 12 Medi yng Nghyffordd Llandudno a 15 Medi yng Nghaerdydd. Gall fod ddigwyddiadau yn dilyn ymlaen o’r sesiynau hyn yn y dyfodol. Yn dilyn llwyddiannau’r sesiynau hyn, rydym bellach yn cynnal digwyddiadau i gwsmeriaid.  Rhowch wybod i ni os ydych am gymryd rhan a rhannwch y wybodaeth am y digwyddiad ag unrhyw gyflenwyr rydych yn credu y bydd diddordeb ganddynt.


    Gweithdy Cyflenwyr TGCh GCC:

    Fel rhan o'n gwaith gyda'n cyflenwyr, gwahoddir holl gyflenwyr fframwaith TGCh presennol GCC i ddigwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 12 Hydref. Bydd y gweithdy'n cwmpasu nifer o feysydd y mae cyflenwyr wedi mynegi diddordeb i glywed mwy amdanynt, megis; Y Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Budd i'r Gymuned. Yn ogystal â chael cyflwyniadau gan unigolion, bydd trafodaethau bord gron rhyngweithiol rhwng cyflenwyr a'r GCC er mwyn cadarnhau amcanion ar gyfer canlyniadau drwy'r fframweithiau. Rydym yn annog prynwyr i gymryd rhan ac ymgysylltu'n uniongyrchol â chyflenwyr y fframweithiau. Cysylltwch â'r Tîm Categori os ydych am fynd.

     

     

    Cysylltwch âNPSICTCategoryTeam@gov.cymru


    Gwasanaethau Pobl

    Gwasanaethau Pobl

    Digwyddiadau sydd i ddod


    Gwasanaeth a Reolir ar gyfer darparu Fframwaith Gweithwyr Asiantaeth,

    Cynhelir cyfarfod Grŵp Fforwm Categorïau (CFG) am 10am ar 27 Medi ym Medwas. Mae gwahoddiadau wedi'u hanfon at aelodau'r CFG ond, os nad ydych wedi cael gwahoddiad ac rydych am fynd, rhowch wybod i ni.

     

    Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig

    Bydd cyfarfodydd adolygu cyflenwyr GCC â Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a chyflenwyr y Fframwaith Technolegau Cynorthwyol yn cael eu cynnal yn fuan. Os hoffech godi unrhyw faterion neu bryderon ynghylch perfformiad cyflenwyr y gellir eu codi yn y cyfarfodydd, cysylltwch â ni.

     

    Bydd cyfarfod nesaf CFG ar gyfer Iechyd Galwedigaethol yn cael ei gynnal ddydd Mercher 1 Tachwedd, 1.00pm tan 4.30pm drwy gynhadledd fideo. Bydd cyfleusterau cynadledda ar gael rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Medwas, (Caerffili) a Chyffordd Llandudno, (Conwy).  Os hoffech fynd i'r naill leoliad neu'r llall, e-bostiwch ein blwch negeseuon e-bost.
     
    Cysylltwch â: NPSPeopleServicesutilities@gov.cymru

     



    3. Diweddariadau Staff y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol


    Gwasanaethau Proffesiynol

     
    Y Wybodaeth Ddiweddaraf


    Y Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu: Cyfarfu'r Panel Rheoli ym mis Gorffennaf a phenderfynodd, mewn egwyddor, ystyried adnewyddu'r Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) cyn yr opsiwn ymestyn terfynol ddiwedd 2017.   Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu model newydd ar gyfer y cytundeb ac rydym yn croesawu eich mewnbwn. E-bostiwch NPSProfessionalServices@gov.cymru


    Hyfforddiant cyfreithiol ar gael: Mae Cyflenwyr ar Fframwaith GCC Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant a briffio cyfreithiol. Mae rhai ohonynt am ddim ac mae'n rhaid talu am eraill. Mae'r amserlen ar gael yma. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: NPSProfessionalServices@gov.cymru


    Tendrau cyfredol


    Gwelliannau a Chyngor Effeithlonrwydd Ynni Cartref: Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru - mae'r Hysbysiad Contract ar gyfer Darparwr Gwasanaeth i Reoli a Chyflawni Cynllun Tlodi Tanwydd Cymru Gyfan sy'n Seiliedig ar Alw (Nyth) wedi'i gyhoeddi ac mae ar gael ar gwerthwchigymru gyda'r tendr ar eDendroCymru. Disgwylir y bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cynllun Tlodi Tanwydd Sail Ardal (Arbed) yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2017.


    Digwyddiadau
    Rydym wrthi'n trefnu gweithdy er mwyn bwrw ymlaen â gwaith adnewyddu'r Fframwaith Eiddo Ymgynghoriaeth Adeiladu (NPS-PS-0004-14) ddiwedd mis Medi/dechrau mis Hydref. Os hoffech gymryd rhan, mynegwch eich diddordeb drwy e-bostio NPSProfessionalServices@gov.cymru

     

    Cysylltwch â: NPSProfessionalServices@gov.cymru


    Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

    e-bostiwch: NPSCommunications@.gov.cymru